Cemegydd o Rwsia oedd Dmitri Ivanovich Mendeleev (8 Chwefror 1834, Tobolsk, Rwsia - 2 Chwefror 1907, St Petersburg, Rwsia). Mae e'n cael y clod am ddatblygu'r fersiwn gyntaf o dabl cyfnodol yr elfennau cemegol. Yn wahanol i gemegwyr eraill, defnyddiodd Mendeleev ei dabl i ragfynegi priodweddau cemegol elfennau anhysbys. Profwyd ei ragfynegiadau'n gywir gan ddarganfyddiadau'r elfennau hyn ac astudiaethau o'u priodweddau.

Dmitri Mendeleev
GanwydДмитрій Ивановичъ Менделѣевъ Edit this on Wikidata
27 Ionawr 1834 (yn y Calendr IwliaiddEdit this on Wikidata
Tobolsk Edit this on Wikidata
Bu farw20 Ionawr 1907 (yn y Calendr IwliaiddEdit this on Wikidata
o niwmonia Edit this on Wikidata
St Petersburg Edit this on Wikidata
DinasyddiaethYmerodraeth Rwsia Edit this on Wikidata
AddysgDoethuriaeth mewn Gwyddoniaeth Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prif Sefydliad Addysgol Rwsia
  • Prifysgol Saint Petersburg
  • Sefydliad Technoleg y Wladwriaeth, Sant Petersburg Edit this on Wikidata
ymgynghorydd y doethor
  • Alexander Voskresensky Edit this on Wikidata
Galwedigaethcemegydd, ffisegydd, academydd, economegydd Edit this on Wikidata
SwyddPrivatdozent, uwch athro prifysgol, athro prifysgol, athro prifysgol Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Prifysgol Saint Petersburg
  • Prifysgol Ymerodrol Sant Petersburg
  • Richelieu Lyceum
  • St. Petersburg Practical Institute of Technology Edit this on Wikidata
Adnabyddus amtabl cyfnodol Edit this on Wikidata
TadIvan Pavlovich Mendeleyev Edit this on Wikidata
PriodAnna Ivanova Popova, Feozva Nikitichna Leshcheva Edit this on Wikidata
PlantVladimir Mendeleev, Lyubov Blok, Vasiliy Mendeleev Edit this on Wikidata
Gwobr/auMarchog Urdd Sant Alexander Nevsky, Medal Copley, Gwobr Darlithyddiaeth Faraday, Gwobr Demidov, Urdd Sant Anna, Dosbarth 1af, Urdd Sant Anna, Ail Ddosbarth, Urdd yr Eryr Gwyn, Urdd Santes Anna, Dosbarth 1af, Urdd Sant Vladimir, Ail Ddosbarth, Urdd Sant Vladimir, Dosbarth 1af, Chevalier de la Légion d'Honneur, Medal Davy, Aelod Tramor o'r Gymdeithas Frenhinol Edit this on Wikidata
llofnod

Cafodd Mendeleev ei eni yn Tobolsk, Siberia, i Ivan Pavlovich Mendeleev a Maria Dmitrievna Mendeleeva (nee Kornilieva). Nid oes sicrwydd, ond mae'n debygol mai Mendeleev oedd y 13eg o 17 o blant. Roedd ei rieni yn perchen ar ffatri cynhyrchu gwydr, ac wrth weithio yna magwyd ei ddiddordeb cynnar yng nghemeg, ac yn 13 dechreuodd ef fynychu'r gymnasium yn Tobolsk.

Collodd ef ei dad yn gynnar, ac yn 1849, symudodd y teulu i St Petersberg, lle ddechreuodd y Mendeleev ifanc astudio yn y brif athrofa bedagogaidd. Ar ôl iddo ennill ei radd, dioddefodd o salwch arw, ac fe symudodd i'r Crimea i weithio fel athro gwyddoniaeth yn y gymnasium lleol. Yn 1857, ar ôl iddo wella, cafodd gyfle i ddychwelyd i St Petersberg, cyn treulio cyfnod yn yr Almaen ym mhrifysgol Heidelberg.

Yn 1862, fe briododd Feozva Nikitichna Leshcheva, cyn ennill swydd fel athro prifysgol yn athrofa dechnolegol a phrifysgol St Petersburg. Erbyn 1871, roedd ei waith wedi llwyddo i wneud St Petersberg yn ganolfan fyd-enwog am ymchwil cemegol. Dechreuodd ei obsesiwn gyda Anna Ivanovna Popova yn 1876, ac erbyn 1881 roedd e wedi gofyn iddi ei briodi. Priododd y ddau mis cyn i ysgariad Mendeleev o'i wraig gyntaf ddod yn swyddogol. Roedd ei ddwywreigiaeth yn sgandal fawr, ac mae'n debyg mai hyn achosodd ei fethiant i gael brodoriaeth yn academi gwyddonol Rwsia, er iddo fod yn wyddonydd byd-enwog.

Cafodd Mendeleev fab a merch o'i briodas gyntaf, sef Volodya ac Olga. Daeth ei ferch o'i ail briodas, Lyubov, yn wraig i'r cerddor Aleksander Blok, gydag Anna hefyd yn rhoi mab a phâr o efeilliaid iddo.

Ar ôl bron deg ar hugain mlynedd yn St Petersberg, wnaeth Mendeleev ymddiswyddo yn 1890. Yn 1893 cafodd ei benodi'n bennaeth ar yr swyddfa bwyso a mesur. Yno gwnaeth lawer o waith ar gynhwysion olew a arweiniodd at sefydliad y burfa olew gyntaf yn Rwsia. Fe fu marw Mendeleev o'r ffliw yn 1907 yn St Petersburg. Cafodd yr elfen Mendeleefiwm (rhif 101) a crater Mendeleev ar y lleuad eu henwi ar ei ôl.

Gwaith

golygu

Tabl cyfnodol yr elfennau

golygu

Ysgrifennodd Mendeleev ei lyfr 'Egwyddorion Cemeg' fel ddwy gyfrol tra oedd yn athro yn St Petersberg rhwng 1868 a 1870. Yn ystod ei waith, gwelodd batrymau ymysg yr elfennau cemegol. Y patrymau hyn a arweiniodd at ei dabl cyfnodol. Roedd ei waith yn debyg i waith gan wyddonwyr eraill, fel John Newlands ('Y ddeddf wythfedau', 1864) a gwaith Lothar Meyer ar 28 elfen yn 1864. Y gwahaniaeth rhwng eu gwaith nhw a gwaith Mendeleev oedd ei lwyddiant wrth ragfynegi priodweddau elfennau newydd. Y gallu i wneud rhagfynegiadau yw un o gryfderau'r tabl cyfnodol.

Er mwyn datblygu'r tabl, trefnodd Mendeleev yr elfennau yn nhrefn eu masau atomig, gan weld y patrymau canlynol:

  1. Mae gan elfennau sy'n dangos priodweddau cemegol cyffelyb fasau atomig tebyg, neu rhai sy'n cynyddu mewn camau rheolaidd.
  2. Pan drefnir y grwpiau yn nhrefn eu masau atomig, gwelir patrwm amlwg yn falensi'r atomau.
  3. Gwelir y gwahaniaethau mwyaf rhwng elfennau gyda masau atomig bach.
  4. Mae'r mas atomig yn rheoli cymeriad yr atom, mewn modd tebyg i effaith mas moleciwl ar gymeriad cyfansoddyn.
  5. Dylid disgwyl i elfennau newydd gael eu darganfod i lenwi bylchau a adawyd yn y tabl, er enghraifft elfennau sydd yn aelodau o'r un grwpiau â silicon ac alwminiwm. Galwodd Mendeleev y rhain yn eka-silicon ac eka-alwminiwm.
  6. Bydd rhaid cyfnewid lleoliadau rhai elfennau ar sail eu priodweddau cemegol, ac awgrymodd fod y mas atomig yn anghywir. Heddiw rydym yn ymwybodol mai rhif atomig ac nid mas atomig sy'n rheoli trefn yr elfennau.
  7. Gellid rhagfynegi rhai priodweddau elfen gemegol o'i lleoliad yn y tabl cyfnodol.

Cyflwynodd Mendeleev ei syniadau i Gymdeithas Gemegol Rwsia ar 6 Mawrth, 1869, ychydig fisoedd cyn i Meyer gyflwyno tabl tebyg iawn. Rhagfynegiadau Mendeleev o briodweddau eka-silicon (germaniwm), eka-alwminiwm (galiwm) ac eka-boron (scandiwm) sy'n gwneud ei waith yn allweddol i ddatblygiad cemeg.

Cyfraniadau eraill

golygu
  • 1869: Mendeleev yw un o'r gwyddonwyr sy'n sefydlu Cymdeithas Gemegol Rwsia.
  • 1902: Mendeleev yn awgrymu fod yna nwyon anadweithiol o'n hamgylch. Yn anffodus, credodd fod ganddynt fasau atomig llai na hydrogen.
  • Yn ystod astudiaethau o effeithiau gwres ar hylif awgrymodd fod pwynt critigol i bob sylwedd, lle bo'r cydlyniad yn hafal i'r enthalpi anweddiad.
  • Datblygodd pyrocollodion fel deunydd ffrwydrol ar gyfer lluoedd arfog Rwsia.

Dolenni allanol

golygu

Tabl Cyfnodol

golygu

Eraill

golygu