Castell Dolforwyn

caer lefal rhestredig Gradd I yn Llandysul, Powys
(Ailgyfeiriad o Dolforwyn)

Castell Cymreig ger y Drenewydd ym Mhowys yw Castell Dolforwyn. Saif ar fryn isel mewn safle strategol yn hen gantref Cedewain yn ymyl Afon Hafren, gyferbyn â'r Drenewydd.

Castell Dolforwyn
Mathcastell, caer lefal, safle archaeolegol, cestyll y Tywysogion Cymreig Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1273 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadLlandysul Edit this on Wikidata
SirPowys
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr225.9 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.5465°N 3.25203°W Edit this on Wikidata
Cod OSSO15189501 Edit this on Wikidata
Rheolir ganCadw Edit this on Wikidata
Map
PerchnogaethCadw Edit this on Wikidata
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd I, heneb gofrestredig, Henebion Cenedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Manylion
Deunyddcarreg Edit this on Wikidata
Dynodwr CadwMG114 Edit this on Wikidata

Codwyd Castell Dolforwyn gan y Tywysog Llywelyn ap Gruffudd (Llywelyn II), yn y flwyddyn 1273 pan oedd ar anterth ei rym. Roedd tref fechan yn ymyl y castell a adeiladwyd ar yr un adeg â'r castell ei hun, mae'n debyg.

Cododd Llywelyn y castell fel datganiad gwleidyddol, yn hytrach nag am resymau milwrol amlwg. Roedd yn wynebu'r Drenewydd a oedd, gyda'i chastell, yn un o drefi Normanaidd pwysicaf y Mers, ac felly roedd yn ddatganiad eglur o hawliau Llywelyn fel Tywysog Cymru mewn ymateb i gyhoeddiad gan weision y Goron Seisnig nad oedd ganddo'r hawl i godi castell yn y cyffiniau.

Syrthiodd y castell yn fuan i'r Saeson yn rhyfel 1276-77; ymddengys na fu gan y tywysog unrhyw fwriad o wastraffu dynion ac adnoddau yno. Ildiodd y garsiwn i Henry Lacy a Roger Mortimer ar 31 Mawrth, 1277. Rhoddodd y Saeson y castell i'w cynghreiriad Gruffudd ap Gwenwynwyn o Bowys. Syrthiasai'r castell yn adfeilion erbyn diwedd y 14g.

Yn ôl rhestr a luniwyd yn 1322, roedd yr adeiladau o fewn y castell ei hun yn cynnwys capel, neuadd, Siambr Arglwyddes, cegin, bragdy a becws.

Nid oes llawer i'w weld ar y safle erbyn heddiw. Ambell lwyfan bridd yn unig a welir o'r dref. Ceir olion ward hirsgwar â llenfur o'i amgylch, tŵr crwn yn y pen gogledd-ddwyreiniol ac un hirsgawr arall yn y pen deheuol.

 
Castell Dolforwyn

Cadwraeth a mynediad

golygu

Mae'r safle ym meddiant Cadw a cheir mynediad yn rhad ac am ddim. Mae'n gorwedd 3 milltir i'r gogledd-ddwyrain o'r Drenewydd a gellir ei gyrraedd ar hyd llwybr o fwthyn Yew Tree, i'r gorllewin o bentref bach Aber-miwl (map: SO 153 950).

Llyfryddiaeth

golygu
  • Richard Avent, Cestyll Tywysogion Gwynedd (Caerdydd, 1983)
  • Paul R. Davis, Castles of the Welsh Princes (Abertawe, 1988)

Dolen allanol

golygu