Donald Sutherland

actor a aned yn Saint John yn 1935

Mae Donald McNichol Sutherland, OC (a aned 17 Gorffennaf 1935)[1] yn actor o Ganada sydd â'i yrfa ffilm yn ymestyn dros bum degawd.[2]

Donald Sutherland
Ganwyd17 Gorffennaf 1935 Edit this on Wikidata
Saint John Edit this on Wikidata
Man preswylStanstead Edit this on Wikidata
DinasyddiaethCanada Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethactor, actor ffilm, actor llais, Llefarydd, cynhyrchydd ffilm, actor cymeriad, actor llwyfan, ymgyrchydd heddwch, actor teledu, sgriptiwr Edit this on Wikidata
TadFrederick McLea Sutherland Edit this on Wikidata
MamDorothy Isobel McNichol Edit this on Wikidata
PriodShirley Douglas, Francine Racette Edit this on Wikidata
PlantKiefer Sutherland, Rossif Sutherland, Angus Sutherland, Rachel Sutherland Edit this on Wikidata
Gwobr/auCydymaith o Urdd Canada, Gwobr Romy, Teen Choice Award for Best Villain, Commandeur des Arts et des Lettres‎, Gwobr Anrhydeddus yr Academi, Gwobr 'Walk of Fame' Canada, Governor General's Performing Arts Award, Primetime Emmy Award for Outstanding Supporting Actor in a Miniseries or a Movie, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, Swyddog Urdd Canada, Medal Jiwbilî Aur y Frenhines Elisabeth II, Medal Jiwbilî Deimwnt y Frenhines Elisabeth II, Ordre des Arts et des Lettres, Golden Globe Award for Best Supporting Actor – Series, Miniseries or Television Film Edit this on Wikidata

Cododd Sutherland i enwogrwydd ar ôl chwarae mewn cyfres o ffilmiau llwyddiannus, gan gynnwys The Dirty Dozen (1967), M*A*S*H (1970), Kelly's Heroes (1970), Klute (1971), Don't Look Now (1973), Fellini's Casanova (1976), 1900 (1976), Animal House (1978), Invasion of the Body Snatchers (1978), Ordinary People (1980) ac Eye of the Needle (1981).[3]

Wedi hynny sefydlodd ei hun fel un o actorion cymeriad mwyaf parchus a hyblyg Canada.[4]

Yn ddiweddarach bu'n serennu mewn nifer o ffilmiau llwyddiannus eraill lle ymddangosodd naill ai mewn rolau arweiniol neu gynorthwyol megis A Dry White Season (1989), JFK (1991), Outbreak (1995), A Time to Kill (1996), Without Limits (1998), The Italian Job (2003), Cold Mountain (2003), Pride & Prejudice (2005), Aurora Borealis (2006) a masnachfraint The Hunger Games (2012–2015).

Enwebwyd Sutherland am wyth Gwobr Golden Globe, gan ennill dau am ei berfformiadau yn y ffilmiau teledu Citizen X (1995) a Path to War (2002); daeth Citizen X hefyd â Gwobr Emmy Primetime iddo. Mae ganddo seren ar Balmant Enwogion Hollywood a Phalmant Enwogion Canada Mae wedi derbyn Gwobr Academi Canada am y ffilm drama Threshold (1981). Mae sawl cyhoeddiad cyfryngau a beirniad ffilm wedi ei ddisgrifio fel un o'r actorion gorau na enwebwyd erioed am Oscar. Yn 2017, derbyniodd Wobr Oscar Er Anrhydedd am ei gyfraniadau at sinema.[5][6][7].

Yn y gyfres a darlledwyd ar sianeli FX a BBC 2 Trust sy'n ymdrin a herwgipiad John Paul Getty III mae Sutherland yn chware ran y taid J. Paul Getty

Ef yw tad yr actorion Rossif Sutherland, Angus Sutherland a Kiefer Sutherland.

Cyfeiriadau golygu

  1. Chase, W.D.R.; Chase, H.M. (1994). Chase's Annual Events. Contemporary Books. ISSN 0740-5286.
  2. "Donald Sutherland Biography at". filmreference. 2008. Cyrchwyd 4 April 2008.
  3. Cannes profile page
  4. Britannica biography of Donald Sutherland
  5. Singler, Leigh (19 February 2009). "Oscars: the best actors never to have been nominated". The Guardian. Cyrchwyd 6 June 2013.
  6. Kiang, Jessica (1 January 2016). "30 Great Actors Who've Never Been Oscar Nominated". Indiewire. Cyrchwyd 6 June 2016.
  7. Robey, Tim (1 February 2016). "20 great actors who've never been nominated for an Oscar". The Daily Telegraph. Cyrchwyd 6 June 2016.
   Eginyn erthygl sydd uchod am Ganadiad. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.