John Paul Getty III

actor a aned yn 1956

John Paul Getty III (4 Tachwedd 1956 (y mae rhai ffynonellau yn dweud 5 Tachwedd)[1]5 Chwefror 2011),[2] a elwir hefyd yn Paul Getty, oedd yr hynaf o bedwar o blant John Paul Getty Jr ac Abigail (née Harris), ac yn ŵyr i'r teicŵn olew J. Paul Getty. Ei fab yw'r actor Balthasar Getty.

John Paul Getty III
GanwydJohn Paul Getty Edit this on Wikidata
4 Tachwedd 1956 Edit this on Wikidata
Minneapolis Edit this on Wikidata
Bu farw5 Chwefror 2011 Edit this on Wikidata
o clefyd Edit this on Wikidata
Wormsley Park Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America, Gweriniaeth Iwerddon Edit this on Wikidata
Alma mater
  • St. George's British International School Edit this on Wikidata
Galwedigaethentrepreneur, actor Edit this on Wikidata
TadJohn Paul Getty Jr Edit this on Wikidata
PriodGisela Getty Edit this on Wikidata
PlantBalthazar Getty Edit this on Wikidata
PerthnasauTara Getty Edit this on Wikidata
LlinachGetty family Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar golygu

Bu Getty'n treulio'r rhan fwyaf o'i blentyndod yn Rhufain lle roedd ei dad yn bennaeth ar isadran Eidalig busnes olew'r teulu Getty. Cafodd ei rieni ysgariad ym 1964 pan oedd yn wyth mlwydd oed, ac ailbriododd ei dad gyda'r model ac actores Talitha Pol ym 1966. Roedd y teulu yn byw bywyd hipi gan dreulio llawer o amser ym Mhrydain a Moroco yn ystod y 1960au.[3] Bu Getty'n aros yn Rhufain gyda'i fam, Gail, a mynychodd Ysgol Ryngwladol Brydeinig, St George. Yn gynnar ym 1972, cafodd ei ddiarddel o St George ar ôl paentio geiriau chwe throedfedd o uchder yng nghyntedd yr ysgol oedd yn sarhau pennaeth yr ysgol. Yn ddiweddarach y flwyddyn honno bu ei lysfam farw o orddos heroin yn Rhufain,[4] a symudodd ei dad yn ôl i'r Deyrnas Unedig. Roedd Paul yn parhau i fyw yn yr Eidal gan ddilyn ffordd bohemian o fyw, yn mynychu clybiau nos a chymryd rhan mewn protestiadau adain chwith. Roedd ganddo gryn dalent artistig ac yn ennill arian o wneud gemwaith, gwerthu darluniau, ac yn ymddangos mewn ffilmiau fel ecstra.[5] Talodd y cylchgrawn Eidaleg Playmen $1,000 iddo am ymddangos yn noeth mewn taenfa ddwbl a chlawr ei rhifyn Awst 1973, a ryddhawyd y mis ar ôl iddo gael ei herwgipio.[6]

Herwgipio golygu

Cafodd Getty ei herwgipio yn y Palazzo Farnese yn Rhufain am 3 y bore ar 10 Gorffennaf 1973 pan oedd yn 16 mlwydd oed. Yn ôl ei gariad, Martine Schmidt, roedd wedi crybwyll y syniad o drefnu i gael ei herwgipio gan fân droseddwyr pan oedd y cwpl yn brin o arian, ond newidiodd ei feddwl gan fod y ddau ohonynt wedi dechrau cael gwaith modelu rheolaidd ar gyfer ffotograffwyr. Dywedodd "nad oedd Paul eisiau cael ei herwgipio bellach, ond bod yr herwgipwyr yn ei ddilyn ef."[7] Rhoddwyd mwgwd dros ei ben a'i gluo i ogof lle cafodd ei dal yn garcharor.[8] Gofynnodd yr herwgipwyr am bridwerth o $17 miliwn ($UDA) (sy'n cyfateb i tua £93 miliwn yn 2018) yn gyfnewid am ei ddychwelyd yn ddiogel. Pan ddaeth y gorchymyn pridwerth bu rhai aelodau o'r teulu yn amau bod Paul wedi trefnu'r herwgipiad ei hun gan eu bod wedi ei glywed yn cellwair am wneud hynny er mwyn caffael ar gyfran gyfoethog ei daid. Heb dderbyn ymateb gan y teulu danfonodd yr herwgipwyr ail orchymyn pridwerth, ond cafodd ei oedi gan streic gan weithwyr post yr Eidal.[9]

Gofynnodd John Paul Getty Jr. i'w dad J. Paul Getty yr hynaf am yr arian, ond fe wrthododd, gan ofni y byddai ei 13 ŵyr arall yn troi'n dargedau i herwgipwyr eraill. Wrth i amser fynd heibio bu triniaeth Paul gan ei garcharwyr gwaethygu; maent yn cymryd ymaith ei radio, lladd aderyn roedd wedi dofi ac yn rhoi gwn wrth ei dalcen gan chwarae rwlét Rwsieg.[10]

Ym mis Tachwedd 1973, derbyniodd papur newydd dyddiol amlen yn cynnwys cudyn o wallt coch, clust dynol, a bygythiad gan yr herwgipwyr i ymyrryd â Paul ymhellach oni bai eu bod yn cael eu talu $3.2 miliwn (sy'n cyfateb i £10.74 miliwn yn 2018)[11]. Mae'r llythyr yn darllen, "Dyma glust cyntaf Paul. Os bydd y teulu ymhen ddeng niwrnod, yn dal i gredu mai jôc yw hon, yna bydd y glust arall yn cyrraedd. Mewn geiriau eraill, bydd yn cyrraedd ychydig o ddarnau ar y tro." [12] Dechreuodd iechyd Paul i ddirywio'n gyflym. Cafodd y clwyf lle bu ei glust ei heintio, a chafodd niwmonia a achoswyd gan dymheredd oer y gaeaf. Roedd ei garcharorion yn ofni am y dirywiad ac yn rhoi dosau mawr o benisilin iddo, a achosodd iddo gael alergedd i'r gwrthfiotig ac yn effeithio ymhellach ar ei iechyd. Priodolodd cofiannydd Getty, John Pearson, ei alcoholiaeth ddiweddarach i'r dognau mawr o frandi a gafodd yn ystod misoedd olaf ei gaethiwed i'w gadw'n gynnes ac yn lliniaru'r boen.

Wedi i glust Paul gael ei dorri i ffwrdd, negododd ei daid fargen i'w adfer yn ôl am tua $2.9 miliwn (sy'n gyfwerth â £9.7 yn 2018). Talodd $ 2.2 miliwn, yr uchafswm gellid ei roi yn di dretha rhoddodd y gweddill i'w mab, a oedd yn gyfrifol am ad-dalu'r swm gyda 4% o log.[13] Daethpwyd o hyd i Paul yn fyw ar 15 Rhagfyr 1973 mewn gorsaf betrol yn Lauria yn nhalaith Potenza yn fuan ar ôl i'r taliad gael ei dalu.

Cafodd naw o'r herwgipwyr eu dal, gan gynnwys Girolamo Piromalli a Saverio Mammoliti, aelodau uchel o'r sefydliad Ndrangheta, syndicâd Maffia o Calabria. Cafwyd dau o'r herwgipwyr yn euog a'u danfon i'r carchar; cafodd y gweddill eu rhyddhau am ddiffyg tystiolaeth, gan gynnwys y pennaeth y Ndrangheta. Ni chafodd y rhan fwyaf o'r arian ei adfer.[14] Ym 1977, cafodd Getty llawdriniaeth i ailadeiladu'r glust roedd yr herwgipwyr wedi torri i ffwrdd.

Bywyd diweddarach golygu

Ym 1974, priododd Getty yr Almaenes Gisela Martine Zacher (née Schmidt) a oedd yn bum mis yn feichiog. Roedd wedi ei hadnabod hi a'i chwaer Jutta cyn ei herwgipio. Roedd yn 18 oed pan anwyd ei fab Balthazar ym 1975. Bu'r cwpl ysgaru ym 1993.

Bu Getty yn actio mewn rhai ffilmiau Ewropeaidd, gan chwarae rhannau ategol yn ffilm Raúl Ruiz Getty The Territory a ffilm Wim Wenders The State of Things.[15] Bu ef a'i wraig yn byw am gyfnod yn Ninas Efrog Newydd lle roeddent yn rhan o griw celfyddydol Andy Warhol [5].

Cafodd ei herwgipiad effaith barhaol ar Getty gan ei adael yn gaeth i gyffuriau ac alcohol yn ystod y blynyddoedd a ddilynodd. Ym 1981 yfodd coctel o diazepam, methadon ac alcohol a achosodd fethiant yr afu a strôc, gan ei adael yn cwadriplegig, yn rhannol ddall, ac yn methu â siarad.[16] Wedi hynny, bu ei fam yn gofalu amdano. Erlynodd ei dad am $28,000 y mis i dalu am ei anghenion meddygol. Ni chafodd adferiad llawn ac roedd yn parhau i gael anawsterau difrifol dros weddill ei fywyd. Erbyn 1987, fodd bynnag, roedd wedi adennill rhywfaint o annibyniaeth, ac roedd yn gallu sgïo pan oedd wedi'i glymu i ffrâm fetel.

Ym 1999, daeth Getty a nifer o aelodau eraill o'i deulu yn ddinasyddion Iwerddon yn gyfnewid am fuddsoddiadau o oddeutu £1 miliwn yr un.[17]

Marwolaeth golygu

Bu farw Getty ym Mharc Wormsley, Swydd Buckingham ar 5 Chwefror 2011, yn 54 mlwydd oed, wedi cystudd hir. Roedd wedi bod mewn iechyd gwael ers ei gorddos o gyffuriau ym 1981. Cafodd ei oroesi gan ei fab a'i fam.

Mewn diwylliant poblogaidd golygu

  • Mae A. J. Quinnell yn defnyddio herwgipio Getty fel rhan o ysbrydoliaeth ar gyfer ei lyfr Man on Fire.[18]
  • Mae llyfr 1995 Painfully Rich: the Outrageous Fortunes and Misfortunes of the Heirs of J. Paul Getty by John Pearson yn cynnwys trafodaeth sylweddol ar loes herwgipio Getty.[19]
    • Cafodd y llyfr ei addasu i ffilm yn 2017 film All the Money in the World, wedi ei gyfarwyddo gan Ridley Scott. Mae John Paul Getty III yn cael ei chware gan Charlie Plummer a gan Charlie Shotwell (rôl Getty'n hogyn ifanc).[20]
  • Mae'r herwgipio hefyd yn cael ei dramateiddio yn y gyfres deledu 2018 Trust, wedi ei gyfarwyddo gan Danny Boyle, gyda Harris Dickinson fel John Paul Getty III.[21][22]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Getty obituary". The Daily Telegraph. Cyrchwyd 1 Chwefror 2013.
  2. "Finally He Is Out Of Pain: Tragic Oil Heir, John Paul Getty III, Dies at 54, After Being Paralyzed For 30 years". Dailymail.co.uk. 7 Chwefror 2011. Cyrchwyd 1 Chwefror 2013.
  3. "Style » Talitha Getty: The Myth and the Muse". Dossier Journal. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-02-22. Cyrchwyd 1 Chwefror 2013.
  4. Sanchez, Tony (1996). Up and Down with the Rolling Stones: The Inside Story. Da Capo Press. t. 242. ISBN 0-306-80711-4.
  5. 5.0 5.1 J. Paul Getty III, 54, Dies; Had Ear Cut Off by Captors, “The New York Times”, 7 Chwefror 2011
  6. Nicolaou, Elena. "The Risqué Italian Magazine That J. Paul Getty III Appeared In Has A Controversial History" (yn Saesneg). Cyrchwyd 3 Ebrill 2018.
  7. Julie Miller (8 Ebrill 2018). "Trust: Did Paul Getty Really Stage His Kidnapping, as 'Trust' Suggests?". Vanity Fair. Cyrchwyd 9 Ebrill 2018.
  8. Patricia Gucci (10 Mai 2016). In the Name of Gucci: A Memoir. Crown/Archetype. ISBN 978-0-8041-3894-9.
  9. "Sir Paul Getty". The Daily Telegraph. 17 Ebrill 2003. Cyrchwyd 1 Mawrth 2008.
  10. Julie Miller (1 Ebrill 2018). "Trust: The Story Behind Brendan Fraser's Brilliant, Oddball Character". Vanity Fair. Cyrchwyd 5 Ebrill 2018.
  11. "Measuring Worth". Measuring Worth. 27 Awst 2018. Cyrchwyd 27 Awst 2018.
  12. J. Paul Getty III, kidnapping victim and heir to oil fortune, dies at 54; Washington Post 7Chwefror 2011 adalwyd 27 Awst 2018
  13. OBITUARIES Sir Paul Getty; Daily Telegraph 18 Ebrill 2003 adalwyd 27 Awst 2018
  14. "J. Paul Getty III dies at 54; scion of oil dynasty", Los Angeles Times, 7 Chwefror 2011
  15. John Paul Getty III obituary, The Telegraph, 7 Chwefror 2011] adalwyd 27 Awst 2018
  16. "Obituary for John Paul Getty II", BBC News, 17 Ebrill 2003
  17. "Jean Paul Getty III Dead; 5 Facts on the Oil Heir and Father of Actor Balthazar Getty". In News Today. 8 Chwefror 2011. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-03-20. Cyrchwyd 1 Chwefror 2013.
  18. Davies, Paul (2010). "Be not overcome by evil but overcome evil with good': The Theology of Evil in Man on Fire". In Billias, Nancy (gol.). Promoting and Producing Evil. Rodopi. tt. 219–234. ISBN 90-420-2939-0.
  19. 1930-, Pearson, John, (1995). Painfully rich : the outrageous fortune and misfortunes of the heirs of J. Paul Getty (arg. 1st). New York: St. Martin's Press. ISBN 0312135793. OCLC 32820398.CS1 maint: extra punctuation (link) CS1 maint: numeric names: authors list (link)
  20. Scott, Ridley (22 Rhagfyr 2017), All the Money in the World, Mark Wahlberg, Christopher Plummer, Michelle Williams, https://www.imdb.com/title/tt5294550/, adalwyd 27 Awst 2018
  21. Holloway, Daniel (15 May 2017). "FX's 'Trust' Casts Harris Dickinson as J. Paul Getty III". Variety. Cyrchwyd 27 Awst 2018.
  22. BBC 2 Trust adalwyd 27 Awst 2018

Dolenni allanol golygu

John Paul Getty III ar IMDb