Eisteddfod Genedlaethol Cymru y Barri a'r Fro 1968
(Ailgyfeiriad o Eisteddfod Genedlaethol Cymru y Barri 1968)
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru y Barri a'r Fro 1968 yn Y Barri, Bro Morgannwg.
Archdderwydd | Gwyndaf | |
---|---|---|
Cadeirydd | Yr Athro Stephen J. Williams | |
Llywydd | Cynan | |
Enillydd y Goron | Y Parch. L. Haydn Lewis | |
Enillydd y Gadair | R. Bryn Williams | |
Y Fedal Ryddiaith | Eigra Lewis Roberts | |
Gwefan | www.eisteddfod.org |
Cystadleuaeth | Teitl y Darn | Ffugenw | Enw |
---|---|---|---|
Y Gadair | Awdl Foliant i'r Morwr | R. Bryn Williams | |
Y Goron | Meini | Haydn Lewis | |
Y Fedal Ryddiaeth | Y Drych Creulon | Eigra Lewis Roberts |
Ffrae'r urddo
golyguGwrthododd yr Eisteddfod gael Gwynfor Evans yn Llywydd y Dydd yn yr eisteddfod hon er ei fod wedi ei fagu yn y Barri ac yn perthyn i deulu enwog yn y dref, teulu ag oedd wedi gwneud cymaint dros Gymreictod y dref. Yn wir rhieni Gwynfor roddodd y Goron i'r Eisteddfod y flwyddyn honno. Ar ben hyn i roi halen ar y briw penderfynnodd awdurdodau'r Eisteddfod urddo George Thomas i'r orsedd. Roedd George wedi bod yn gïaidd i Gwynfor yn y senedd, ond cymaint oedd ofn yr awdurdodau y byddai yna helynt bu rhaid i'r Archdderwydd ofyn i Gwynfor a fyddai yn fodlon cyd-gerdded gyda George ar y maes rhwng rhes o blismyn. Cytunodd Gwynfor.
Gweler hefyd
golygu- Eisteddfod Genedlaethol Cymru – hanes yr Eisteddfod Genedlaethol
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru y Barri 1920 – achlysur arall pan gynhaliwyd yr Eisteddfod yn y Barri