Doctor Who

(Ailgyfeiriad o Dr Who)

Rhaglen deledu ffuglen wyddonol ydy Doctor Who ("Doctor Pwy") a gynhyrchir gan y BBC yng Nghymru. Mae'r rhaglen yn ymwneud ag anturiaethau Arglwydd Amser (Time Lord) sy'n dwyn yr enw "The Doctor". Mae'r bod arallfydol hwn, sy'n ymddangos fel bod dynol, yn teithio o gwmpas y gofod mewn llong ofod sy'n ymddangos o'r tu allan fel blwch ffôn heddlu'r 1960au, a elwir y TARDIS (acronym am Time and Relative Dimension in Space). Mae'r TARDIS yn enfawr y tu fewn, a cheisir gwthio ffiniau gwyddoniaeth yn y rhaglen. Gyda'i gynorthwyydd, mae'r Doctor yn wynebu nifer o elynion arallfydol ac yn cynorthwyo pobl gan geisio ateb drwg gyda da. Fel pob Arglwydd Amser, os yw'r Doctor ar fin marw, gall atgyfodi drwy drawsnewid i berson arall, gyda'r un cof ac enaid. Mae'r ddyfais yma'n caniatau parhad y gyfres drwy gastio actorion newydd i'r brif ran.

Doctor Who

Cerdyn teitlau Doctor Who (2018-)
Genre Drama / Ffuglen wyddonol
Crëwyd gan Sydney Newman
C. E. Webber
Donald Wilson
Serennu Ers 2022 - David Tennant
Cyfansoddwr y thema Ron Grainer
Thema'r dechrau Cerddoriaeth thema Doctor Who
Cyfansoddwr/wyr Amrywiol (ers 2018, Segun Akinola)
Gwlad/gwladwriaeth Y Deyrnas Unedig
Iaith/ieithoedd Saesneg
Nifer cyfresi 37
Nifer penodau 871 (hyd Hydref 2022)
Cynhyrchiad
Amser rhedeg 25 mun. (1963–1984, 1986–1989)
45 mun. (1985, 2005–2017)
50 mun. (2018)
Darllediad
Sianel wreiddiol BBC One
Darllediad gwreiddiol Cyfres glasurol:
23 Tachwedd 1963
6 Rhagfyr 1989
Ffilm deledu:
12 Mai 1996
Cyfres presennol:
26 Mawrth 2005 – presennol
Cysylltiadau allanol
Gwefan swyddogol
Proffil IMDb

Rhestrwyd y rhaglen yn y "Guinness World Records" fel y rhaglen ffug wyddonol sydd wedi bod ar y teledu am yr amser hiraf, a hynny drwy'r byd. Erbyn 2018 roedd 13 actor wedi chwarae'r brif rhan fel y Doctor, gyda'r 13eg Doctor wedi ei chwarae gan fenyw am y tro cyntaf.

Y gyfres wreiddiol (1963-1989, 1996) golygu

Ymddangosodd Doctor Who yn gyntaf ar deledu'r BBC am 17:16:20 GMT ar 23 Tachwedd 1963,[1][2] yn dilyn trafodaethau am flwyddyn gron. Y gŵr o Ganada Sydney Newman (a oedd yn Bennaeth Adran Ddrama'r BBC) a gafodd y syniad gwreiddiol ac ef a sgwennodd y ddogfen amlinellol wreiddiol - ar y cyd â'r sgwennwr C. E. Webber. Cyfranodd y canlynol hefyd: Anthony Coburn, David Whitaker, a'r cynhyrchydd cyntaf: Verity Lambert.[3] Roedd y gyfres ar gyfer y teulu cyfan yn wreiddiol,[4] gydag elfennau addysgol gan ddefnyddio 'teithio drwy amser' er mwyn ymchwilio gwahanol adegau hanesyddol ag elfennau gwyddonol.

Ar 31 Gorffennaf 1963 comisiynwyd Terry Nation i sgwennu'r stori gyda'r teitl The Mutants. Yn wreiddiol, dioddefwr oedd y Dalecs wedi i fom niwtron chwythu yn eu byd, ond newidiwyd hyn yn ddiweddarach gan eu gwneud yn fwy bygythiol. Doedd y BBC ddim yn dymuno creaduriaid unllygeidiog arallfydol a gwrthwynebwyd y Dalecs ar y cychwyn. Y Dalecs oedd creaduriaid mwyaf llwyddiannus y gyfres a chafwyd llawer o nwyddau'n cael eu gwerthu wedi'u llunio arnyn nhw.[5]

Y Doctor golygu

Dangoswyd y gyfres wreiddiol o 23 Tachwedd 1963 - 6 Rhagfyr 1989 cyn atgyfodwyd y gyfres yn 2005. Dros y blynyddoedd chwaraewyd y prif gymeriad ('y Doctor') gan nifer o actorion gwahanol:

  1. 1963-1966: William Hartnell
  2. 1966-1969: Patrick Troughton
  3. 1970-1974: Jon Pertwee
  4. 1974-1981: Tom Baker
  5. 1982-1984: Peter Davison
  6. 1984-1986: Colin Baker
  7. 1987-1989: Sylvester McCoy
  8. 1996 (ffilm deledu): Paul McGann
  9. 2005: Christopher Eccleston
  10. 2005–2010: David Tennant
  11. 2010–2013: Matt Smith
  12. 2013-2017: Peter Capaldi
  13. 2017-2022: Jodie Whittaker
  14. 2022-2023: David Tennant
  15. 2023-: Ncuti Gatwa

Y gyfres newydd (ers 2005) golygu

Cafodd y gyfres hon ei lansio yn 2005 yn bennaf drwy ymdrechion yr awdur teledu Russell T. Davies. Ffilmiwyd y Doctor Who newydd gan BBC Cymru, yn bennaf yng Nghaerdydd a'r cyffiniau, a'i cynhyrchu yn Upper Boat Studios, Glan-bad. Yn y tymor cyntaf chwaraewyd rhan y Doctor gan Christopher Eccleston.

Y Prif gymeriadau yn y tymor newydd ers 2005 golygu

Nofelau golygu

Mae nifer o gyfresi o nofelau wedi cael eu rhyddhau yn seiliedig ar y gyfres:

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Howe, Stammers, Walker (1994), tud. 54
  2. "An Unearthly Child". BBC. 16 Awst 2012.
  3. Howe, Stammers, Walker (1994), tud. 157–230 ("Production Diary")
  4. Howe, Stammers, Walker (1992), tud. 3.
  5. Steve Tribe, James Goss Dr Who: The Dalek Handbook BBC Books Random House 2011 ISBN 978-1-84990-232-8 Pg9

Dolenni allanol golygu