Glan-bad

pentref yn Rhondda Cynon Taf

Pentref yn Rhondda Cynon Taf yw Glan-bad (Saesneg: Upper Boat). Fe'i lleolir ar gyrion Pontypridd.

Glan-bad
Afon Taf yn llifo drwy Lan Abad
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirRhondda Cynon Taf Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.5736°N 3.2944°W Edit this on Wikidata
Cod OSST108872 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auMick Antoniw (Llafur)
AS/auAlex Davies-Jones (Llafur)
Map

Mae'n adnabyddus ym myd y cyfryngau fel lleoliad Upper Boat Studios BBC Cymru, lle cynhyrchir y fersiwn newydd o Doctor Who, ynghyd â'r cyfresi teledu sy'n deillio ohono, sef Torchwood a The Sarah Jane Adventures.

Daw'r enw Glan-bad/Upper Boat o'i leoliad ar y gamlas hanesyddol sy'n cysylltu Caerdydd ac Abercynon. Roedd y rhan o'r gamlas rhwng Abercynon a thrwy Pontypridd i Lan-bad yn gul iawn am ei bod mewn cwm cul. Ond ar ôl Glan-bad mae'r cwm yn lledaenu ac adeiladwyd camlas fwy llydan. Arferid trosglwyddo llwythi i fadau llai yng Nglan-bad a dyna sut y cafodd ei enw, yn achos y Gymraeg a'r Saesneg.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mick Antoniw (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Alex Davies-Jones (Llafur).[1][2]

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwefan y Cynulliad;[dolen marw] adalwyd 24 Chwefror 2014
  2. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014