Duarte Agostinho ac Eraill v. Portiwgal a 32 o Wladwriaethau Eraill

Achos Llys Hawliau Dynol

Ar 2 Medi 2020, ffeiliodd chwe llanc o Bortiwgal gwyn gyda Llys Hawliau Dynol Ewrop yn erbyn 33 o wledydd. Mae'r gŵyn yn honni bod y gwledydd ('yr ymatebwyr') wedi sathru ar hawliau dynol drwy fethu â gweithredu'n ddigonol ar newid hinsawdd; maent yn ceisio gorchymyn yn ei gwneud yn ofynnol i'r gwledydd gymryd camau mwy uchelgeisiol.

Duarte Agostinho ac Eraill v. Portiwgal a 32 o Wladwriaethau Eraill
Math o gyfrwngachos gyfreithiol Edit this on Wikidata
GwladwriaethPortiwgal Edit this on Wikidata

Cyfeirir at yr achos hwn fel Duarte Agostinho ac Eraill v. Portiwgal a 32 o Wladwriaethau Eraill.[1] Bydd yr achos llys hwn yn cael ei gynnal ar 27 Medi 2023.

Mae'r gŵyn yn cyfeirio at Erthyglau 2, 8, a 14 o'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol, sy'n amddiffyn:

Honna'r bobl ifanc a phlant fod eu hawl i fywyd yn cael ei fygwth gan effeithiau newid hinsawdd ym Mhortiwgal fel tanau coedwig; bod eu hawl i breifatrwydd yn cynnwys eu lles corfforol a meddyliol, sy'n cael ei fygwth gan dywydd poeth sy'n eu gorfodi i dreulio mwy o amser dan do; a'u bod fel pobl ifanc yn mynd i brofi effeithiau gwaethaf newid hinsawdd.[2]

Mae'r achos yn cael ei ddwyn yn erbyn Aelod-wladwriaethau Cyngor Ewrop, sef Awstria, Gwlad Belg, Bwlgaria, Cyprus, Gweriniaeth Tsiec, yr Almaen, Gwlad Groeg, Denmarc, Estonia, y Ffindir, Ffrainc, Croatia, Hwngari, Iwerddon, yr Eidal, Lithwania, Lwcsembwrg, Latfia , Malta, yr Iseldiroedd, Gwlad Pwyl, Portiwgal, Rwmania, Gweriniaeth Slofacia, Slofenia, Sbaen a Sweden yn ogystal â Norwy, Rwsia, y Swistir, Twrci, Wcráin a'r Deyrnas Unedig (nad ydynt yn Ewrop).

Mae'r achos yn ymwneud â'r allyriadau nwyon tŷ gwydr o 33 o Wladwriaethau, sydd, yng nghyflwyniad yr ymgeiswyr, yn cyfrannu at gynhesu byd-eang ac yn arwain, ymhlith pethau eraill, at dywydd poeth sy'n effeithio ar amodau byw ac iechyd yr ymgeiswyr.

Mae'r ymgeiswyr yn cwyno am fethiant y 33 gwladwriaeth i gydymffurfio â'u hymrwymiadau, yng nghyd-destun Cytundeb Paris ar Newid Hinsawdd 2015 (COP21), i gadw'r cynnydd mewn tymheredd cyfartalog byd-eang ymhell islaw 2°C uwchlaw'r cyfnod cyn-ddiwydiannol ac i geisio cyfyngu'r cynnydd mewn tymheredd i 1.5°C uwchlaw'r un lefelau hynny, gan ddeall y byddai hyn yn lleihau risgiau ac effeithiau newid hinsawdd yn sylweddol. Mae'r bobl ifanc yn haeru bod y Gwladwriaethau llofnodol dan rwymedigaeth i gymryd mesurau i reoleiddio mewn modd digonol eu cyfraniadau i leihau newid hinsawdd.[3]

Gweler hefyd

golygu
  

Cyfeiriadau

golygu
  1. climatecasechart.com; adalwyd 16 Mai 2023.
  2. ohrh.law.ox.ac.uk; adalwyd 16 Mai 2023.
  3. "fulltext":["duarte","sort":["kpdate%20Descending"],"itemid":["002-13055"]} hudoc.echr.coe.int]; adalwyd 16 Mai 2023.