Topper

band Cymreig

Band Cymreig o Ben-y-groes, Gwynedd, oedd Topper. Roedd eu dylanwadau cerddorol yn cynnwys Gorky’s Zygotic Mynci a Catatonia.

Hanes golygu

Yn 1992 ffurfiwyd y band Paladr gan Peter Alan Richardson a'r ddau frawd Dyfrig ac Iwan Evans.

Yn 1995 rhyddhawyd eu cân gynta, sef ‘Dwi'm yn gwbod. Pam?’, ar gasgliad aml-gyfranog gan label Ankst o'r enw S4C Makes Me Want To Smoke Crack Vol 1 oedd hefyd yn cynnwys caneuon gan y grwp arbrofol Ectogram, y band ifanc Rheinallt H Rowlands a grŵp newydd addawol oedd yn cynnwys cyn-aelodau o'r Cyrff a'r Crumblowers o'r enw Catatonia.

Ymddangoson nhw hefyd ar yr ail record yn y gyfres S4C Makes Me Want To Smoke Crack Vol 2 yn 1996, ond y tro yma dan enw newydd, Topper.

Cynhyrchwyd Arch Noa, EP cyntaf y band, a’r albwm Something to Tell Her gan Mark Roberts o Catatonia. Rhyddhawyd y ddau ar label Ankst yn 1997.

Yn ogystal â hyn ymddangosodd y band yn fyw ar raglen Mr John Peel a chychwyn ar eu taith cynta i hywryddo'r albwm Something To Tell Her yn cefnogi Catatonia, a gydag aelod newydd - Gwion 'Gysglyd' Morus ar yr allweddellau.

Yn 1998 symudodd y grŵp i label Kooky am gyfnod byr a rhyddhau'r sengl "Cwpan Mewn Dŵr". Yna ar gychwyn 1999 rhyddhawyd albwm 'mini' arall, Non Compos Mentis, y tro yma ar eu label eu hunain, Bedlam.

Recordiodd y grŵp yr albwm Dolur Gwddw yn stiwdio Bryn Derwen gyda'r cynhyrchydd o fri David Wrench (oedd hefyd wedi ymddangos gyda'r band ar S4C Makes Me Want To Smoke Crack Vol 2). Hon oedd albwm mwya uchelgeisiol y grwp, a ddaeth yr albwm allan ar label Crai ar ddiwedd 2000. I helpu gyda'r sŵn llawnach oedd ar y record, ymunodd aelod arall (a'r aelod olaf), sef y gitarydd o Fethesda, Sion 'The King' Glyn.

Gadawodd Peter Richardson y band yn 2001 i ymuno â Gorky’s Zygotic Mynci, ac yn fuan wedyn daeth Topper i ben.

Rhyddhawyd y casgliad Y Goreuon O'r Gwaethaf ar label Rasal yn 2005.

Aelodau golygu

  • Dyfrig Evans
  • Iwan Evans
  • Gwion 'Gysglyd' Morus
  • Peter Alan Richardson
  • Sion 'The King' Glyn

Disgyddiaeth golygu

Albymau golygu

  • Something To Tell Her (Ankst CD080, Mawrth 1997)
  • Non Compos Mentis (BedlamCD01, Mehefin 1999)
  • Dolur Gwddw (CRAI CD075A, Medi 2000)
  • Goreuon o’r Gwaethaf (Rasal, 2005)

EP a Senglau golygu

  • "Cwpan Mewn Dŵr" (Kooky CDisc009, Hydref 1998)
  • Arch Noa (Ankst CD073, Ionawr 1997)

Dolenni allanol golygu