Yn y Bedwaredd o Geinciau'r Mabinogi, sef Math fab Mathonwy, Dylan ail Don (Cymraeg Canol: Dylan eil Ton) yw brawd Lleu Llaw Gyffes a mab Arianrhod.

Maen Dylan ym machlud yr haul

Mabinogi golygu

Yn ôl chwedl Math fab Mathonwy, cyn gynted ag y bedyddiwyd ef,

"Fe gyrchodd y môr ac fe gafodd natur y môr. Oherwydd hynny y gelwid ef Dylan Ail Don."

Un o ystyron y gair 'ail' (neu 'eil' yn Hen Gymraeg a Chymraeg Canol) yw 'mab' neu 'etifedd' (gall hefyd olygu 'llwyth' neu 'genedl'). Ond y mae'n bosibl mai ymgais gan awdur y Pedair Cainc i esbonio'r enw hwn yw'r stori am ei eni o'r môr, ac mae rhai ysgolheigion yn dadlau fod Dylan yn dduw Celtaidd ac yn fab i'r dduwies Geltaidd adnabyddus Dôn (fel Gwydion ei hun). Fe gafodd Dylan ei ladd ar ddamwain gan ei ewythr, Gofannon.

Cyfeiriadau eraill golygu

Ceir sawl cerdd yn Llyfr Taliesin a dadogir ar Taliesin Ben Beirdd sy'n cyfeirio at Dylan, ac yn y llawysgrif honno ceir marwnad iddo yn ogystal. Un o'i enwau amgen yn nhestunau Llyfr Taliesin yw 'Dylan Ail Môr'.

Maen Dylan golygu

 
Maen Dylan

Yn Englynion y Beddau (Llyfr Du Caerfyrddin), dywedir fod bedd Dylan yn ardal Clynnog Fawr yn Arfon, Gwynedd:

Yn ydd wna ton dolo
Bedd Dylan (yn) llan Beuno.[1]

Ceir Trwyn Maen Dylan ger Aberdesach yng nghymuned Clynnog. Yn y môr gerllaw ceir Maen Dylan, sef carreg anferth wrth droed y Trwyn.

Cyfeiriadau golygu

  1. A. O. H. Jarman (gol.), Llyfr Du Caerfyrddin (Caerdydd, 1982).