Roedd Edward Erskholme Clive (28 Awst 1879 - 6 Mehefin 1940) yn Actor a chyfarwyddwr llwyfan Cymreig a gafodd yrfa actio doreithiog yng ngwledydd Prydain ac America. Chwaraeodd hefyd nifer o rolau ategol yn ffilmiau Hollywood rhwng 1933 a'i farwolaeth.[1]

E. E. Clive
Ganwyd28 Awst 1879, 28 Awst 1883 Edit this on Wikidata
Blaenafon Edit this on Wikidata
Bu farw6 Mehefin 1940 Edit this on Wikidata
North Hollywood Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethactor, actor ffilm, actor llwyfan, cyfarwyddwr theatr Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Ganwyd E E Clive ar 28 Awst 1879 ym Mlaenafon, Sir Fynwy. Astudiodd ar gyfer gyrfa feddygol, ac roedd wedi cwblhau pedair blynedd o astudiaethau meddygol yn Ysbyty St Bartholomew, Llundain cyn newid ei ffocws i actio yn 22 oed. Wrth deithio o amgylch teatrau daleithiol am ddegawd, daeth Clive yn arbenigwr ar bron bob math o dafodiaith ranbarthol yn Ynysoedd Prydain. Symudodd i'r Unol Daleithiau ym 1912, lle sefydlodd ei gwmni stoc ei hun yn Boston ar ôl gweithio ar gylchdaith yr Orpheum vaudeville. Erbyn y 1920au, roedd ei gwmni'n gweithredu yn Hollywood; ymhlith ei actorion roedd newydd dyfodiaid megis Rosalind Russell. Bu hefyd yn gweithio arBroadway mewn sawl drama. Nododd ysgrif goffa Clive yn The New York Times ei fod wedi actio yn "1,159 o Ddramâu go iawn cyn mynd i fewn i faes filmiau symudol".[1]

Gwnaeth Clive ei ffilm gyntaf fel cwnstabl heddlu pentrefol yn The Invisible Man gyda Claude Rains ym 1933. Treuliodd y saith mlynedd nesaf yn ymddangos mewn rhannau cefnogol a man rannau, lle'r oedd yn aml yn portreadu fersiynau doniol o ystrydebau Saesneg neu fel ffigyrau awdurdodol di hiwmor.[2] Byddai'n aml yn chwarae bwtleriaid, gohebwyr, pendefigion, siopwyr a gyrwyr tacsi yn ystod ei yrfa ffilm fer. Er bod ei rolau'n aml yn fach, roedd Clive yn actor cymeriad adnabyddus a thoreithiog yn ei gyfnod. Ymhlith ei rolau mwyaf adnabyddus oedd y Maer anghymwys yng nghlasur arswyd James Whale, Bride of Frankenstein (1935). Roedd yn chware rhan "Tenny y Bwtler" yn lled reolaidd yng nghyfres Paramount Pictures Bulldog Drummond gyda John Howard yn serennu; bu hefyd yn chwarae bwtleriaid mewn ffilmiau eraill fel Bachelor Mother gyda David Niven a Ginger Rogers. Ym 1939, ymddangosodd Clive yn The Little Princess fel y cyfreithiwr Mr Barrows, ac yn nwy ffilm gyntaf yn y gyfres glasurol o ffilmiau Sherlock Holmes a oedd yn serennu Basil Rathbone. Un o rolau olaf Clive oedd fel Syr William Lucas yn yr addasiad llenyddol o Pride and Prejudice (1940) gyda Laurence Olivier a Greer Garson.

Bu farw Clive ar 6 Mehefin 1940, o anhwylder y galon, yn ei gartref yn Hollywood.[1] Roedd Clive yn aelod o gyfrinfa Euclid o Seiri Rhyddion yn Boston.

Ffilmiau golygu

 
E E Clive fel Syr Harry Lorradaile yn Little Lord Fauntleroy
  • Cheaters at Play (1932) - Stiward
  • Horse Play (1933) – Swyddog Scotland Yard (heb gredyd)
  • The Invisible Man (1933) - Cwnstabl Jaffers
  • Long Lost Father (1934) - Spot Hawkins
  • The Poor Rich (1934) - Arglwydd Fetherstone
  • Riptide (1934) - Cadfridog Mills (heb gredyd)
  • One More River (1934) - Chayne
  • Bulldog Drummond Strikes Back (1934) - Bobby With Mustache
  • Charlie Chan in London (1934) - Ditectif Ringyll Thacker
  • The Gay Divorcee (1934) - Prif Arolygydd Tollau (heb gredyd)
  • Father Brown, Detective (1934) - Sergeant Dawes
  • The Little Minister (1934) - Sheriff Greer (heb gredyd)
  • Tin Pants (1934)
  • David Copperfield (1935) - Dyn y Siryf (heb gredyd)
  • The Mystery of Edwin Drood (1935) - Maer Thomas Sapsea
  • Gold Diggers of 1935 (1935) - Westbrook - gyrrwr (heb gredyd)
  • Bride of Frankenstein (1935) - Maer
  • We're in the Money (1935) - Jevons, Bwtler
  • Atlantic Adventure (1935) - McIntosh
  • Page Miss Glory (1935) - Gwneuthurwr Crysau Monogram (heb gredyd)
  • Three Kids and a Queen (1935) – Gyrrwr coets (heb gredyd)
  • A Feather in Her Hat (1935) - Higgins - Perchennog Tafarn (heb gredyd)
  • Remember Last Night? (1935) - Ffotograffydd y Crwner (heb gredyd)
  • The Man Who Broke the Bank at Monte Carlo (1935) - Gwasanaethwr (heb gredyd)
  • Stars Over Broadway (1935) - Crane
  • Kind Lady (1935) - Dyn Gramoffôn (heb gredyd)
  • A Tale of Two Cities (1935) – Barnwr yr 'Old Bailey'
  • Captain Blood (1935) - Clerc y Llys
  • The Widow from Monte Carlo (1935) - Arglwydd Holloway
  • Sylvia Scarlett (1935) - Arolygydd Tollau (heb gredyd)
  • The Dark Hour (1936) - Foot, y Bwtler
  • Little Lord Fauntleroy (1936) - Syr Harry Lorridaile
  • Love Before Breakfast (1936) - Capten Bad Hwylio (heb gredyd)
  • The Unguarded Hour (1936) - Arglwydd Hathaway
  • Dracula's Daughter (1936) - Sergeant Wilkes
  • The King Steps Out (1936) - Tiwtor (heb gredyd)
  • Show Boat (1936) - Cynhyrchydd Llundain (heb gredyd)
  • Trouble for Two (1936) - Brenin
  • The Golden Arrow (1936) - Walker
  • Palm Springs (1936) - Morgan
  • Ticket to Paradise (1936) - Barkins
  • The White Angel (1936) - Dr Smith, Llawfeddyg (heb gredyd)
  • Piccadilly Jim (1936) - Bill Mechan
  • Cain and Mabel (1936) - Charles Fendwick
  • Libeled Lady (1936) - Hyfforddwr Pysgota
  • Isle of Fury (1936) - Dr. Hardy
  • All American Chump (1936) - J. Montgomery Brantley
  • The Charge of the Light Brigade (1936) - Syr Humphrey Harcourt
  • Tarzan Escapes (1936) - Masters
  • Lloyd's of London (1936) - Ynad
  • Camille (1936) - Sant Gaudens (heb gredyd)
  • Bulldog Drummond Escapes (1937) - Tenny
  • On the Avenue (1937) – Gyrrwr tacsi
  • They Wanted to Marry (1937) - Stiles
  • Maid of Salem (1937) - Bilge
  • Ready, Willing and Able (1937) - Syr Samuel Bloomington
  • Personal Property (1937) - Cosgrove Dabney
  • Night Must Fall (1937) - Tywysydd
  • The Road Back (1937) – Cadfridog (heb gredyd)
  • The Emperor's Candlesticks (1937) - Arwerthwr
  • Love Under Fire (1937) - Captain Bowden
  • Bulldog Drummond Comes Back (1937) - Tenny
  • Danger – Love at Work (1937) - Wilbur
  • It's Love I'm After (1937) - Bwtler
  • The Great Garrick (1937) - Gwerthwr Lluniau (heb gredyd)
  • Live, Love and Learn (1937) - Mr. Palmiston
  • Beg, Borrow or Steal (1937) - Arglwydd Nigel Braemer
  • Bulldog Drummond's Revenge (1937) - Tenny
  • Arsène Lupin Returns (1938) - Alf
  • The First Hundred Years (1938) - Chester Blascomb
  • Bulldog Drummond's Peril (1938) - Tenny
  • Kidnapped (1938) - Parch MacDougall
  • Bulldog Drummond in Africa (1938) - Tenny
  • Gateway (1938) - Stiward Ystafell
  • Submarine Patrol (1938) - Swyddog Prydeinig (heb gredyd)
  • Arrest Bulldog Drummond (1938) - Tenny
  • The Last Warning (1938) - Cadfridog Barclay
  • Mr. Moto's Last Warning (1939) - Port Commandant General (heb gredyd)
  • The Little Princess (1939) - Mr. Barrows
  • I'm from Missouri (1939) - Mr. Arthur Duke o Cricklewood
  • Bulldog Drummond's Secret Police (1939) - Tenny
  • The Hound of the Baskervilles (1939) - Gyrrwr Tacsi
  • Rose of Washington Square (1939)[3] - Gyrrwr Barouche
  • Man About Town (1939) - Hotchkiss, Bwtler
  • Bachelor Mother (1939) - Bwtler
  • Bulldog Drummond's Bride (1939) - Tenny
  • The Adventures of Sherlock Holmes (1939) - Arolygydd Bristol
  • Raffles (1939) - Barraclough
  • The Honeymoon's Over (1939) - Col. Shelby
  • The Earl of Chicago (1940) - Mr. Redwood
  • Congo Maisie (1940) - Horace Snell
  • Adventure in Diamonds (1940) - Mr. MacPherson
  • Pride and Prejudice (1940) - Syr William Lucas
  • Foreign Correspondent (1940) - Mr. Naismith (heb gredyd)
  • Flowing Gold (1940) - Mr. Naismith (heb gredyd)

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 "E.E. CLIVE, ACTOR, DEAD; Veteran of Stage and Screen Former Manager of Copley Theatre in Boston Appeared in 1,159 Legitimate Plays Before Going Into Moving Pictures". The New York Times. 1940-06-07. ISSN 0362-4331. Cyrchwyd 2021-01-10.
  2. Quinlan's Film Character Actors: E E Clive
  3. Great Movie Musicals on DVD - A Classic Movie Fan's Guide John Howard Reid

Dolenni allanol golygu