Edeulys cyfan
Edeulys cyfan Cephaloziella calyculata | |
---|---|
Statws cadwraeth | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Rhaniad: | Marchantiophyta |
Dosbarth: | |
Urdd: | Jungermanniales |
Teulu: | Cephaloziellaceae |
Genws: | Cephaloziella |
Rhywogaeth: | C. calyculata |
Enw deuenwol | |
Cephaloziella calyculata |
Math o blanhigyn, di-flodau, ac un o lysiau'r afu yw Edeulys cyfan (enw gwyddonol: Cephaloziella calyculata; enw Saesneg: entire threadwort). O ran tacson, mae'n perthyn i urdd y Jungermanniales, o fewn y dosbarth Jungermanniopsida.
Yng ngwledydd Prydain, mae’r rhywogaeth hon yn hynod brin, ond mae i’w chanfod ym Mhenrhyn Gŵyr a Sir Benfro a Chernyw.[1]
Disgrifiad
golyguMae Edeulys cyfan yn ffurfio coesynnau bychan sy'n llai na 0.5 mm o led, gyda dail hyd at 0.3 mm o hyd. Mae'n wyrdd golau neu felyn-wyrdd, ac yn tyfu fel clytiau bach ymgripiol.
Yn ddiweddar, cafwyd dau swp yn Sir Benfro ar bridd llaith mewn rhostir wedi'i amgylchynu gan laswelltir calchfaen, lle'r oedd Lophozia excisa ac Archidium alternifolium yn tyfu.
Llysiau'r afu
golygu- Prif: Llysiau'r afu
Planhigion anflodeuol bach o'r rhaniad Marchantiophyta yw llysiau'r afu. Defnyddir y term "lysiau'r afu" am un planhigyn, neu lawer. Erbyn 2019 roedd tua 6,000 o rywogaethau wedi cael eu hadnabod gan naturiaethwyr.[2] Fe'u ceir ledled y byd, mewn lleoedd llaith gan amlaf. Mae gan lawer ohonynt goesyn a dail ac maent yn debyg i fwsoglau o ran golwg.
Mae rhai rhywogaethau i'w cael yng Nghymru; gweler y categori yma.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ rbg-web2.rbge.org.uk; adalwyd 17 Mai 2019.
- ↑ Raven, Peter H.; Ray F. Evert & Susan E. Eichhorn (1999) Biology of Plants, W. H. Freeman, Efrog Newydd.