Newyddiadurwr, awdur a nofelydd o Wrwgwái oedd Eduardo Hughes Galeano (3 Medi 1940 - 13 Ebrill 2015). Ei waith mwyaf adnabyddiedig yw Memoria del fuego (Atgofion Tân, 1986) a Las venas abiertas de América Latina (Gwythiennau Agored America Ladin, 1971) sydd wedi eu cyfieithu i dros ugain o ieithoedd eraill ac sy'n trosi ffiniau genres; drwy gyfuno ffuglen, newyddiaduraeth, dadansoddi gwleidyddol, a hanes.

Eduardo Galeano
GanwydEduardo Germán María Hughes Galeano Edit this on Wikidata
3 Medi 1940 Edit this on Wikidata
Montevideo Edit this on Wikidata
Bu farw13 Ebrill 2015 Edit this on Wikidata
o canser yr ysgyfaint Edit this on Wikidata
Montevideo Edit this on Wikidata
Man preswylMontevideo Edit this on Wikidata
DinasyddiaethWrwgwái, Sbaen Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd, llenor, newyddiadurwr, awdur ysgrifau Edit this on Wikidata
Adnabyddus amOpen Veins of Latin America, Days and Nights of Love and War, Memoria del fuego, Memory of Fire: 2. Faces and Masks, Memory of Fire: 3. Century of the Wind, The Book of Embraces, We Say No: Chronicles, 1963 - 1991, Walking Words, Football in Sun and Shadow, Upside Down: A Primer for the Looking Glass World, Voices of Time: A Life in Stories, Mirrors, Children of the Days Edit this on Wikidata
PriodHelena Villagra Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Stig Dagerman, Gwobrau Llyfrau Americanaidd, Gwobr Manuel Vázquez Montalbán ar gyfer Newyddiaduraeth Chwaraeon, Gwobr Diwylliant Rydd Lannan, José María Arguedas Prize Edit this on Wikidata

Ganed Galeano yn Montevideo, Wrwgwái (Uruguay) i deulu dosbarth canol Catholig o dras Ewropeaidd. Fel cynifer o fechgyn ifanc America Ladin, breuddwydiodd am fod yn chwaraewr pêl-droed ac fe adlewyrchid hyn yn rhai o'i weithiau, fel El Fútbol A Sol Y Sombra (Pêl-droed Mewn Haul a Chysgod). Yn ei arddegau, fe weithiodd mewn sawl swydd — gweithiwr ffatri, casglwr biliau, peintiwr arwyddion, negesydd, teipiwr, a gweithiwr banc. Yn 14 mlwydd oed, gwerthodd Galeano ei gartŵn gwleidyddol cyntaf i wythnosolyn y Blaid Sosialaidd, El Sol. Priododd am y tro cyntaf yn 1959.

Dechreuodd ei yrfa fel newyddiadurwr yn y 1960au cynnar fel golygydd Marcha, cofnodolyn wythnosol dylanwadol gyda chyfranwyr megis Mario Vargas Llosa, Mario Benedetti, Manuel Maldonado Denis a Roberto Fernández Retamar. Am ddwy flynedd fe weithiodd fel golygydd y papur dyddiol Época a gweithiodd fel prif olygydd gwasg y brifysgol. Yn 1962, yn dilyn ysgariad, fe briododd Graciela Berro.

Yn 1973, bu coup milwrol Wrwgwái; carcharwyd Galeano ac yna gorfodwyd ef i ffoi o'r wlad. Fe waharddwyd ei lyfr Las venas abiertas de América Latina gan y llywodraeth milwrol asgell-dde, ond nid yn Wrwgwái yn unig, ond hefyd yn Tsile ac yn yr Ariannin. Yn 1976 fe briododd am y trydydd tro gyda Helena Villagra, ond yn ystod yr un flwyddyn, cipiodd Videl rym yn yr Ariannin yn dilyn coup gwaedlyd ac fe ychwanegwyd enw Galeano at restr y rhai a'u condemniwyd gan sgwadiau lladd. Bu rhaid iddo ffoi unwaith eto, y tro hwn i Sbaen, ble ysgrifennodd Memoria del fuego.

Dychwelodd i fyw yn Montevideo yn 1985. Yn 2007, cafodd lawdriniaeth llwyddiannus i drin canser yr ysgyfaint. Bu farw 13 Ebrill 2015 yn 74 oed o ganser yr ysgyfaint.

Chávez ac Obama

golygu

Ar 17 Ebrill 2009, yn ystod sesiwn agoriadol pumed Uwchgynhadledd yr Amerig, yn Port of Spain, Trinidad a Tobago, fe gyflwynodd Arlywydd Feneswela, Hugo Chávez gopi o Las venas abiertas de América Latina i Arlwydd UDA, Barack Obama, a oedd ar ei daith ddiplomatidd cyntaf i'r rhanbarth. Fe arweiniodd hyn at fersiwn Saesneg y nofel (Open Veins Of Latin America) gyrraedd rhif 2, a'r ferswin Sbaeneg gyrraedd rhif 11 ar restr gwerthiant gorau Amazon.com.