Llanfihangel Troddi

pentref a chymuned yn Sir Fynwy

Pentref, cymuned a phlwyf eglwysig yn Sir Fynwy, Cymru, yw Llanfihangel Troddi[1] (Saesneg: Mitchel Troy).[2] Saif ger afon Troddi, dair milltir i'r de-orllewin o Drefynwy, heb fod ymhell o'r briffordd A40. Mae'r gymuned a'r plwyf yn cynnwys pentref Cwmcarfan.

Llanfihangel Troddi
Yr olygfa i'r gogledd-orllewin, tuag at "Troy House" a thu hwnt.
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Fynwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.7891°N 2.7365°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04001075 Edit this on Wikidata
Cod OSSO493103 Edit this on Wikidata
Cod postNP25 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auPeter Fox (Ceidwadwyr)
AS/auDavid Davies (Ceidwadwr)
Map

Mae Troy House, tua milltir a hanner i'r gogledd-ddwyrain, yn dyddio o tua 1680, ar safle adeilad cynharach.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Peter Fox (Ceidwadwyr)[3] ac yn Senedd y DU gan David Davies (Ceidwadwr).[4]

Geirdarddiad golygu

Daw'r enw o Afon Troddi, sy'n llifo trwy'r pentref; yn 1148 yr enw oedd 'Troi', talfyriad o 'Troddi'[5]. Cysegrwyd yr eglwys i Sant Mihangel; mae'n dyddio o'r 13g, 1208 yn ôl arysgrif ynddi. Roedd Adda o Frynbuga yn rheithor o 1382 hyd 1385. Ceir heneb yn dyddio'n ôl i sefydlu'r eglwys yma, sef Croes Llanfihangel Troddi.


Cyfrifiad 2011 golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[6][7][8][9]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llanfihangel Troddi (pob oed) (1,253)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanfihangel Troddi) (108)
  
8.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanfihangel Troddi) (624)
  
49.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Llanfihangel Troddi) (143)
  
28.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 13 Chwefror 2022
  3. "Gwefan Senedd Cymru". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-11-10. Cyrchwyd 2021-12-21.
  4. Gwefan Senedd y DU
  5. 'Dictionary of Placenames' gan Hywel Wyn Owen a Richard Morgan, Gwasg Gomer
  6. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  7. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  8. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  9. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen marw]