Asaph

sant ac esgob Llanelwy

Roedd Sant Asaph (neu Asa) (fl. ail hanner y 6g) yn sant a fu ail esgob Llanelwy, yn ôl traddodiad, gan ddilyn Sant Cyndeyrn (Mungo) fel pennaeth yr eglwys gynnar yn yr esgobaeth honno.

Asaph
Ganwyd6 g Edit this on Wikidata
Yr Hen Ogledd Edit this on Wikidata
Bu farw1 Mai 601 Edit this on Wikidata
Llanelwy Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethoffeiriad Edit this on Wikidata
Blodeuodd600 Edit this on Wikidata
Swyddesgob Edit this on Wikidata
Dydd gŵyl1 Mai Edit this on Wikidata
TadSawyl Ben Uchel Edit this on Wikidata

Traddodiadau golygu

Nid oes buchedd Gymreig amdano wedi goroesi, ond mae traddodiadau lleol yn ardal Llanelwy yn cofnodi coeden gysegredig iddo (Onnen Asa), Ffynnon Asa, Llanasa, a Pantasaph. Lleolir y llefydd hyn yn hen dalaith Tegeingl (Sir y Fflint), sy'n awgrymu y bu gan y sant gell feudwy yn yr ardal. Yn ôl Bonedd y Saint roedd yn fab i Sawyl Penuchel o'r Hen Ogledd.

 
Sant Aspah. Ffenestr liw yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi.

Buchedd golygu

Ceir manylion pellach ym Muchedd Sant Cyndeyrn, a ysgrifennwyd ar gyfer Jocelin o Furness, esgob Glasgow, yn yr Oesoedd Canol. Pan alltudiwyd Cyndeyrn o ardal Ystrad Clud (tua 545) ffoes i ogledd-ddwyrain Cymru lle sefydlodd clas yn Llanelwy. Dywedir mai adeilad pren oedd y clas. Yno bu gan y sant 965 o ddisgyblion, ac yn eu plith Asaph. Fe'u rhanwyd yn dri grwp: 300 o fynachod heb fedru darllen i weithio ar y tir, 300 i weithio o gwmpas y clas, a 365 i ofalu am wasanaethau crefyddol (un am bob dydd o'r flwyddyn). Rhanwyd y grwp olaf yn dri chôr a ganai'r naill ar ôl y llall yn ddibaid.

Roedd Cyndeyrn yn arfer gwneud penyd trwy sefyll mewn afon rhewllyd. Ar un achlysur bu hynny'n ormod iddo, ac anfonodd ei was, yr Asaph ifanc, i nôl darn o bren i'w losgi er mwyn ei gynhesu. Daeth Asaph â llwyth o lo llosg yn ei ffedog, a datgelodd y wyrth hon sancteiddrwydd Asa i Cyndeyrn. Felly pan ddychwelodd yr hen sant i Ystrad Clud, ar ôl Brwydr Arfderydd, yn 573, cysegrwyd Asaph yn esgob i'w olynu. Dywedir iddo farw ar Galan Mai, 601.

1 Mai yw gwylmabsant Asaph, ar ôl dyddiad traddodiadol ei farwolaeth.

Gweler hefyd golygu