Richard Davies
Esgob a chyfieithydd oedd Richard Davies (?1501 – 7 Tachwedd 1581). Fe'i ganed yn y Gyffin, ger tref Conwy. Yn ystod ei yrfa eglwysig bu'n Esgob Llanelwy a Thyddewi. Fe'i cofir yn bennaf am ei waith ar y cyd â William Salesbury yn cyfieithu'r Testament Newydd i'r Gymraeg. Roedd yn ewythr i'r ysgolhaig Siôn Dafydd Rhys (John Davies).
Richard Davies | |
---|---|
![]() Cerflun o Richard Davies ar Gofeb Cyfieithwyr y Beibl yn Llanelwy. | |
Ganwyd | 1501 ![]() Gyffin ![]() |
Bu farw | 7 Tachwedd 1581, 7 Tachwedd 1581 ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | offeiriad, cyfieithydd ![]() |
Swydd | Esgob Llanelwy, esgob ![]() |
- Am enghreifftiau eraill o bobl o'r enw Richard Davies, gweler Richard Davies (gwahaniaethu).
Bywgraffiad Golygu
Cafodd ei addysg ym Mhrifysgol Rhydychen lle daeth dan ddylanwad y diwygwyr Protestannaidd. Ar ôl treulio cyfnod mewn alltudiaeth yn ninas Frankfurt yn yr Almaen oherwydd ei ffydd ar ddiwedd teyrnasiad Mari I, dychwelodd i Gymru a chafodd ei apwyntio'n Esgob Llanelwy ac yna ym 1561 yn Esgob Tyddewi.
Gweithiai'n ddyfal gyda William Salesbury i berswadio senedd San Steffan i basio deddf i awdurdodi cyfieithu'r Beibl a'r Llyfr Gweddi Gyffredin i'r Gymraeg a phan gafwyd y ddeddf honno ym 1563 gwahoddod Salesbury I ymuno ag ef yn ei blas yn Abergwili i gyfieithu'r Testament Newydd. Richard Davies yw awdur yr Epistol at y Cembru ('Llythyr at y Cymry') a geir ar ddechrau Testament Newydd 1567; cafodd ddylanwad mawr ar hanesyddiaeth Cymru.
Roedd Richard Davies yn noddwr hael i feirdd a llenorion ei oes a gwnaeth gryn dipyn i gael gwared â'r llygredd oedd yn rhemp yn yr eglwys ar y pryd. Bu farw yn Abergwili, lle'i claddwyd.
Llyfryddiaeth Golygu
- D. R. Thomas, The Life and Work of Richard Davies and William Salesbury (Croesoswallt, 1902)
- Glanmor Williams, Bywyd ac Amserau'r Esgob Richard Davies (Caerdydd, 1953)