Yr Alban

gwlad yng ngogledd Ewrop, rhan o'r Deyrnas Unedig
(Ailgyfeiriad o Albanaidd)

Gwlad yng ngogledd orllewin Ewrop yw'r Alban (hefyd Sgotland) (Gaeleg yr Alban: Alba; Sgoteg a Saesneg: Scotland). Perthynai trigolion ei deheudir i'r un grŵp ethnig a phobl Cymru am gyfnod o fileniwm, gyda'r Frythoneg Orllewinol (ac yna'r Gymraeg) yn cael ei siarad o lannau'r Fife i Fynwy.[1] Mae felly'n un o'r gwledydd Celtaidd ac yn un o wledydd Prydain, enwog am ei wisgi. Ar 18 Medi cynhaliwyd Refferendwm annibyniaeth i'r Alban, 2014 a flwyddyn yn ddiweddarach cafwyd Etholiad Cyffredinol lle gwelwyd newid syfrdanol yng nghenedlaetholdeb ei thrigolion.

Yr Alban
Alba
MathGwlad
PrifddinasCaeredin Edit this on Wikidata
Poblogaeth5,404,700 Edit this on Wikidata
AnthemFlower of Scotland Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethJohn Swinney Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC±00:00, UTC+01:00 Edit this on Wikidata
NawddsantAndreas Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Saesneg, Gaeleg, Sgoteg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolcenhedloedd Celtaidd Edit this on Wikidata
Siry Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Arwynebedd78,782 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaLloegr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau57°N 5°W Edit this on Wikidata
Cod SYGS92000003 Edit this on Wikidata
GB-SCT Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredolLlywodraeth yr Alban Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaetholSenedd yr Alban Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Prif Weinidog yr Alban Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethJohn Swinney Edit this on Wikidata
Map
Arianpunt sterling Edit this on Wikidata
Am ystyron eraill, gweler Alban (gwahaniaethu)

Sant Andreas, un o apostolion Iesu Grist, yw nawddsant yr Alban – 30 Tachwedd yw dyddiad dygwyl Sant Andreas. Roedd yr Alban yn deyrnas annibynnol tan y 18g. Ar 26 Mawrth 1707, unwyd senedd yr Alban â senedd Lloegr a ffurfiwyd teyrnas unedig Prydain Fawr. Ail-sefydlwyd senedd yr Alban yn 1999 fel senedd ddatganoledig o dan lywodraeth Llundain.

Siaredir dwy iaith frodorol yn yr Alban yn ogystal â'r Saesneg – Gaeleg a Sgoteg. Mae Gaeleg yn iaith Geltaidd. Hi oedd iaith wreiddiol teyrnas yr Alban ac mae'n dal yn iaith fyw yn y gogledd orllewin. Mae Sgoteg yn perthyn i'r Saesneg, ac fe'i hystyrir yn dafodiaith Saesneg gan rai, er bod Llywodraeth yr Alban a Siarter Ieithoedd Lleiafrifol Ewrop yn ei chyfrif yn iaith leiafrifol draddodiadol. Mae'n dal i gael ei siarad yn nwyrain a de'r Alban.

Daearyddiaeth

golygu

O ran arwynebedd, mae'r tir mawr yn draean y gweddill o wledydd Prydain, sef 78,772 km2 (30,414 mi sgw).[2] Mae felly tua'r un maint â'r Weriniaeth Tsiec Yr unig ffin wleidyddol ydy hwnnw yn ne'r wlad gyda Lloegr, sy'n 96 km (60 mi) – rhwng aber Afon Tuedd yn y dwyrain hyd at Moryd Solway (Solway Firth).[3] Saif Iwerddon 30 km (19 mi) i'r gorllewin o benrhyn Kintyre;[4] mae Norwy 305 km (190 mi) i'r gogledd ddwyrain, ac mae Ynysoedd Ffaröe 270 km i'r gogledd.

Mae'r Alban yn nodedig am ei mynyddoedd. Yn ystod y cyfnod Pleistosen, roedd y wlad wedi'i gorchuddio o dan rew ac mae olion y rhewlifau i'w gweld yn amlwg ar y tirwedd. Y prif nodwedd ddaearegol yw'r ffalt a red o Arran hyd at Stonehaven ac mae'r creigiau sydd i'r gogledd o'r ffin hwn (sef Ucheldir yr Alban) yn hen iawn ac yn perthyn i gyfnod Cambriaidd a Chyn-Gambriaidd.

Mae'r iseldir yn perthyn i ddau gyfnod gwahanol; mae gogledd yr iseldir yn perthyn i'r Paleogen a'r de'n perthyn i'r cyfnod Silwraidd, sef 408.5 miliwn o flynyddoedd yn ôl.

Awdurdodau unedol

golygu

Dyma restr o awdurdodau unedol yr Alban a map sy'n dangos eu lleoliad yn y wlad:

 
  1. Inverclyde
  2. Swydd Renfrew
  3. Gorllewin Swydd Dunbarton
  4. Dwyrain Swydd Dunbarton
  5. Dinas Glasgow
  6. Dwyrain Swydd Renfrew
  7. Gogledd Swydd Lanark
  8. Falkirk
  9. Gorllewin Lothian
  10. Dinas Caeredin
  11. Midlothian
  12. Dwyrain Lothian
  13. Swydd Clackmannan
  14. Fife
  15. Dinas Dundee
  16. Angus
  1. Swydd Aberdeen
  2. Dinas Aberdeen
  3. Moray
  4. Yr Ucheldir
  5. Na h-Eileanan Siar
    (Ynysoedd y Gorllewin)
  6. Argyll a Bute
  7. Perth a Kinross
  8. Stirling
  9. Gogledd Swydd Ayr
  10. Dwyrain Swydd Ayr
  11. De Swydd Ayr
  12. Dumfries a Galloway
  13. De Swydd Lanark
  14. Gororau'r Alban
  15. Ynysoedd Orkney
  16. Ynysoedd Shetland

Afonydd

golygu
 
Aber Afon Nith yn llifo mewn i'r Moryd Solway i'r de o Dumfries.

Y deg prif afon yn yr Alban, yn nhrefn eu hyd, yw:

  1. Afon Tay 120 milltir (190 km)
  2. Afon Spey 107 milltir (172 km)
  3. Afon Clud 106 milltir (171 km)
  4. Afon Tuedd 97 milltir (156 km)
  5. Afon Dee 85 milltir (137 km)
  6. Afon Don 82 milltir (132 km)
  7. Afon Nith 71 milltir (114 km)
  8. Afon Forth 65 milltir (105 km)
  9. Afon Findhorn 63 milltir (101 km)
  10. Afon Deveron 61 milltir (98 km)

Hanes Cynnar

golygu

Dinistriodd y rhewlifoedd parhaus, a orchuddiai arwynebedd tir yr Alban yn llwyr, unrhyw olion o fodolaeth dynol yn ystod y cyfnod Oes Ganol y Cerrig. Credir i'r criwiau cyntaf o helwyr-gasglwyr gyrraedd yn yr Alban oddeutu 12,800 o flynyddoedd yn ôl, am fod yr iâ wedi diflannu wedi'r cyfnod rhewlifol olaf.[5][6]

Dechreuodd y setlwyr cyntaf adeiladu eu tai parhaol cyntaf yn yr Albaen tua 9,500 o flynyddoedd yn ôl, a gwelwyd y pentrefi cyntaf tua 6,000 o flynyddoedd yn ôl. Daw'r pentref Skara Brae ar prif dir Orkney o'r cyfnod hwn. Mae cynefinoedd Neolithig, safleoedd claddu a defodau yn gyffredin iawn yn Ynysoedd y Gogledd ac Ynysoedd y Gorllewin, lle roedd prinder o goed wedi arwain at y rhan fwyaf o adeiladau'n cael eu codi o garreg.[7]

Diwylliant

golygu

Siaradwyd y Frythoneg Ddwyreiniol o lannau'r Fife i lannau'r Hafren a Chynfeirdd o ddeheudir yr Alban oedd Taliesin ac Aneirin. Arweinydd o Fanaw Gododdin yn Nyffryn y Forth oedd Cunedda yn ôl yr hanes, sef sefydlydd Teyrnas Gwynedd. Roedd cryn gyfathrach a mynd-a-dod rhwng Cymru a'r Alban hefyd yn Oes y Seintiau: mae Cyndeyrn (Saesneg: Mungo) yn dal i gael ei gofio yn Llanelwy ac yn Glasgow.

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Gwyddoniadur Cymru (Gwasg y Brifysgol, 2008), tud. 31
  2. Whitaker's Almanack (Llundain: J. Whitaker and Sons, 1991)
  3. Geiriadur yr Academi, tud. 535
  4. D. Munro, Scotland Atlas and Gazetteer (Harper Collins, 1999), tud. 1–2
  5. Y dystolaeth cynharaf y gwyddir amdano ydy pen saeth fflint o Islay. Gweler Alistair Moffat, Before Scotland: The Story of Scotland Before History (Llundain: Thames & Hudson, 2005), tud. 42.
  6. Mae safleoedd yn Cramond i 8500 CC a ger Kinloch, Rùm o 7700 CC yn darparu tystiolaeth fod bod dynol wedi trigo yn yr Alban. Gweler "The Megalithic Portal and Megalith Map: Rubbish dump reveals time-capsule of Scotland's earliest settlements" megalithic.co.uk.; adalwyd 10 Chwefror 2008; a Kevin J. Edwards a Graeme Whittington, "Vegetation Change", yn Scotland After the Ice Age: Environment, Archaeology and History, 8000 BC–AD 1000, gol. Kevin J. Edwards ac Ian B. M. Ralston (Caeredin: Edinburgh University Press, 2003), tud. 70
  7. (2003) Britain BC. London: HarperPerennial. ISBN 978-0007126934