Eglwys Sant Anno, Llananno

eglwys yn Llananno, Powys

Eglwys ym mhentref bychan Llananno, Powys, yw Eglwys Sant Anno. Saif 15 km i'r gogledd o dref Llandrindod, ar ochr orllewinol i'r A483, ger Fferm Glanrafon. Fe'i cofrestrwyd yn adeilad cofrestredig Gradd II* ar 29 Gorffennaf 2004 (Rhif Cadw: 82991; cyfeirnod grid: SO0956974346)[1] a bellach mae hi dan ofal Friends of Friendless Churches ("Gyfeillion Eglwysi Di-gyfaill").[2]

Eglwys Sant Anno
Matheglwys Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadLlanbadarn Fynydd Edit this on Wikidata
SirLlanbadarn Fynydd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr269.8 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.3597°N 3.32936°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd II* Edit this on Wikidata
Cysegrwyd iAnno II, Archbishop of Cologne Edit this on Wikidata
Manylion

Adeiladwyd yr eglwys yn wreiddiol yn yr Oesoedd Canol, yn ôl pob tebyg, a'i hail-adeiladu yn 1876-7 gan David Walker, pensaer o Lerpwl, ond cadwyd y sgrîn pren o'r 15g yn saff gan ei hail-leoli a'i thrwsio yn 1880 ac eilwaith yn 1960. Ystyrir hon yn un o'r sgriniau pren mwyaf coeth yng Nghymru.[3] llifa afon Ithon ychydig fetrau o'r brif fynedfa.

Eglwys Gothig, syml un gell ydyw. Fe'i chofrestrwyd yn Gradd II* yn unswydd oherwydd ei sgrîn derw sydd o bwysigrwydd cenedlaethol.

Yn 1851 cofnodwyd fod yn rhan gorllewinol i'r eglwys ysgol, a sonir am y sgrîn hefyd. Nid oes gofnod cynharach.

Sant Anno

golygu

Mae nawddsant y plwyf, Sant Anno (neu Amo) yn sant anhysbys. Bu eglwys Rhosyr ym Môn yn gysegredig i Amo/Anno ar un adeg hefyd a cheir Ffynnon Anno ger Tref-y-clawdd.

Llyfryddiaeth

golygu
  • Haslam, Richard, The Buildings of Wales: Powys (Penguin, 1979)
  • Jenkins, Simon, Wales: Churches, Houses, Castles (London: Allen Lane, 2008), tud. 264

Cyfeiriadau

golygu
  1. (Saesneg) "St Anno's Church, Llananno"; Gwefan Coflein; adalwyd 2 Gorffennaf 2019
  2. (Saesneg) "St Anno"; Gwefan Friends of Friendless Churches; adalwyd 2 Gorffennaf 2019
  3. www.britishlistedbuildings.co.uk; adalwyd 2015

Dolennau allanol

golygu
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: