Beuno
Sant Cymreig oedd Beuno (bu farw c.642). Mae'n fwyaf adnabyddus fel sylfaenydd clas Clynnog Fawr yng Ngwynedd.
Beuno | |
---|---|
Ganwyd | 6 g, c. 570 Teyrnas Powys |
Bu farw | 21 Ebrill 640 Clynnog Fawr |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Swydd | abad |
Dydd gŵyl | 20 Ebrill, 21 Ebrill |
Tad | Bugi |
Bywgraffiad
golyguMae'r unig fuchedd sydd ar gael yn hwyr, yn dyddio o tua 1350, yn Llyfr Ancr Llanddewi Brefi. Dywedir ei fod yn perthyn i deulu brenhinol Morgannwg, ac iddo gael ei eni ym Mhowys, ar lan Afon Hafren. Cafodd ei addysgu yng Nghaerwent cyn ymsefydlu yn Aberriw. Yn ddiweddarach bu yng Ngwyddelwern a Threffynnon, cyn ymsefydlu yng Nglynnog. Dywedir i'r tir i sefydlu'r clas yng Nghlynnog gael ei roi gan bennaeth o'r enw Gwyddeint, cefnder i frenin Gwynedd, Cadwallon ap Cadfan, oedd yn teyrnasu rhwng tua 620 a 633.
Dywedir fod y santes Gwenffrewi yn nith iddo. Yn ôl y traddodiad, syrthiodd pendefig ieuanc o'r enw Caradog mewn cariad a hi, a phan wrthododd hi ef, torrodd ei phen a chleddyf. Gosododd Beuno ei phen yn ôl ar ei hysgwyddau a'i hadfywio.
Eglwysi
golyguMae'r eglwysi a gysegrwyd i Sant Beuno yn cynnwys Aberffraw a Trefdraeth ar Ynys Môn a Chlynnog, Penmorfa, Carnguwch, Pistyll, a Botwnnog yng Ngwynedd. Ym Mhowys mae Llanycil, Gwyddelwern, Aberriw a Betws Cydewain wedi eu cysegru iddo.
Mae ei ddydd gŵyl ar 21 Ebrill.
Rhestr Wicidata: