Eglwysi Presbyteraidd Cysylltiedig

Enwad Cristnogol yn yr Alban a Chanada yw'r Eglwysi Presbyteraidd Cysylltiedig (Saesneg: Associated Presbyterian Churches) a sefydlwyd o blith Eglwys Bresbyteraidd Rydd yr Alban ym 1989.

Eglwysi Presbyteraidd Cysylltiedig
Enghraifft o'r canlynolcymdeithas Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1989 Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.apchurches.org/ Edit this on Wikidata
Eglwys Bresbyteraidd Gysylltiedig Steòrnabhagh (Stornoway)
Llinell amser yn dangos datblygiad eglwysi'r Alban o 1560 ymlaen

Hanes golygu

Digwyddodd y rhwyg oherwydd gwahaniaeth barn parhaol ynglŷn â rhyddid cydwydbod (fel y'i diffinnir yng Nghyffes Ffydd Westminster), a aeth i'r pen dros yr Arglwydd Mackay o Clashfern yn mynychu offeren requiem fel rhan o angladd cydweithiwr, y cyn-Arglwydd Ustus Clerc yr Arglwydd Wheatley. Gan mai Arglwydd Adfocad yr Alban oedd Mackay, roedd disgwyl iddo fynd i angladd aelod ymadawdig o'r farnwriaeth ac yr oedd yn gyfaill i Wheatley hefyd. Er hynny, henadur yn Eglwys Bresbyteraidd Rydd yr Alban oedd Mackay, ac ni allai ei harweinwyr oddef ei fynychiad gan ei bod yn ystyried Pabyddiaeth yn ffug a'i hofferen yn ofergoelus. O ganlyniad i hyn, gwaharddwyd Mackay o'i swydd fel henadur. Roedd rhaid yn yr Eglwys yn anghytuno â'r gosb hon ac fe ddaeth rhwyg, nid yn unig oherwydd mater yr Arglwydd Mackay ond hefyd mater parhaol rhyddid cydwybod. Mae'r rhaid a sefydlodd yr Eglwysi Presbyteraidd Cysylltiedig yn credu nad oedd yr Eglwys Bresbyteraidd Rydd yn rhoi lle digonol i ryddid cydwybod a bod disgyblu'r Arglwydd Mackay yn y ffordd honno'n anaddas.[1]

Athrawiaeth golygu

Mae gwefan yr Eglwysi Cysylltiedig yn datgan, "Rydym yn credu ei bod yn gywir i adael i Gristnogion benderfynu drostynt eu hun ar faterion nad ydynt yn sylfaenol i'r ffydd."

Mae'r eglwys yn cydnabod:[2]

Demograffeg golygu

Mae'i chynulleidfaoedd mwyaf yn Inbhir Nis (Inverness) a Steònabhag (Stornoway). Mae ganddi naw cyunlleidfa yn yr Alban ac un yn Vancouver yng Nghanada. Yn ogystal â'r rhain, mae gan yr enwad naw eglwys arall, ond nid yw'r cynulleidfaoedd hyn yn cynnal oedfaon ond yn addoli gydag eglwysi Presbyteraidd Cysylltiedig eraill neu gyda chynulleidfaoedd lleol Eglwys Rydd yr Alban.[3]

Cymdeithasau rhyngwladol golygu

Aelod o'r Gymdeithadas Ddigwygiedig Fyd-eang yw'r Eglwys Bresbyteraidd Gysylltiedig.[1]

Rhestr o'r eglwysi golygu

Eglwys Gweinidog Nodiadau
Baile Dhubhthaich (Tain) Y Parch. John van Eyk Unwyd â Manachainn Rois.
Caeredin Y Parch. John Ross
Ceann Loch Biorbhaidh (Kinlochbervie) Y Parch. Gordon Murray
An Druim Beag (Drumbeg) cymedrolwr dros dro: Y Parch. John van Eyk Unwyd ag An Stòr a Loch an Inbhir ac mae'n addoli gyda'r Eglwys Rydd.
Dùn Dèagh (Dundee) Y Parch. Donald C Macaskill
An t-Eilean Sgitheanach a Na Hearadh cymedrolwr dros dro: Y Parch. Gordon Murray
An Gearasdan (Fort William) cymedrolwr dros dro: Y Parch. Archibald N. McPhail Mae'n addoli gyda'r Eglwys Rydd.
Inbhir Nis (Inverness) Y Parch. Y Parch. Ddr John C. A. Ferguson
Inbhir Ùige (Wick) Y Parch. J. R. Ross Macaskill Unwyd â Srathaidh.
Loch an Inbhir (Lochinver) cymedrolwr dros dro: Y Parch. John van Eyk Unwyd ag An Druim Beag ac An Stòr ac mae'n addoli gyda'r Eglwys Rydd.
An Luirg (Lairg) Y Parch. Gordon Murray Unwyd â Raoghard.
Manachainn Rois (Fearn) Y Parch. John van Eyk Unwyd â Baile Dhubhthaich.
An t-Òban (Oban) Y Parch. Archibald McPhail
Poll Iù (Poolewe) cymedrolwr dros dro: Y Parch. Ddr A. S. Wayne Pearce Mae'n addoli gyda'r Eglwys Rydd.
Raoghard (Rogart) Y Parch. Gordon Murray Unwyd ag An Luirg.
Srathaidh (Strathey) dim Unwyd ag Inbhir Ùige.
Steòrnabhagh (Stornoway) cymedrolwr dros dro: Y Parch. John van Eyk
An Stòr (Stoer) cymedrolwr dros dro: Y Parch. John van Eyk Unwyd ag An Druim Beag a Loch an Inbhir ac mae'n addoli gyda'r Eglwys Rydd.
Vancouver, Canada Y Parch. Fletcher Matandika

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 "History «  AP Church". apchurches.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-06-27. Cyrchwyd 2015-05-30.
  2. "What we believe «  AP Church". apchurches.org.
  3. "APC NEWS". apchurches.blogspot.co.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-04-02. Cyrchwyd 2015-05-30.

Dolenni allanol golygu