Eisteddfod Genedlaethol Cymru Aberteifi a'r Cylch 1976
(Ailgyfeiriad o Eisteddfod Genedlaethol Cymru Aberteifi 1976)
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru Aberteifi a'r Cylch 1976 yn Aberteifi, Sir Ceredigion.
Enghraifft o'r canlynol | un o gyfres reolaidd o wyliau |
---|---|
Dyddiad | 1976 |
Cyfres | Eisteddfod Genedlaethol Cymru |
Lleoliad | Aberteifi |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Cystadleuaeth | Teitl y Darn | Ffugenw | Enw |
---|---|---|---|
Y Gadair | Gwanwyn | Alan Llwyd | |
Y Goron | Troeon Bywyd | Alan Llwyd | |
Y Fedal Ryddiaeth | Nid Mudan mo'r Môr | "Sara" | Marged Pritchard |
Cafwyd peth cecru yno gan i Dic Jones ddod yn fuddugol ar awdl Gwanwyn yn ôl y beirniaid, ond yr oedd wedi torri rheolau'r eisteddfod gan ei fod yn aelod o'r pwyllgor llên. Dyfarnwyd y wobr felly i Alan Llwyd a enillodd y goron hefyd. Cyhoeddwyd y ddwy awdl yn y Cyfansoddiadau - yr unig dro i hynny ddigwydd.
Sefydlwyd Cymdeithas Bob Owen yn ystod yr eisteddfod, i goffa Bob Owen, Croesor, a hyrwyddo gwybodaeth am lyfrau Cymraeg a Chymreig.
Gweler hefyd
golygu- Eisteddfod Genedlaethol Cymru – hanes yr Eisteddfod Genedlaethol
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru Aberteifi 1942 – achlysur arall pan gynhaliwyd yr Eisteddfod yn Aberystwyth