Eisteddfod Genedlaethol Cymru Aberteifi a'r Cylch 1976

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru Aberteifi a'r Cylch 1976 yn Aberteifi, Sir Ceredigion.

Eisteddfod Genedlaethol Cymru Aberteifi a'r Cylch 1976
Enghraifft o'r canlynolun o gyfres reolaidd o wyliau Edit this on Wikidata
Dyddiad1976 Edit this on Wikidata
CyfresEisteddfod Genedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
LleoliadAberteifi Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Cylch yr Orsedd, Aberteifi
Prif Gystadlaethau
Cystadleuaeth Teitl y Darn Ffugenw Enw
Y Gadair Gwanwyn Alan Llwyd
Y Goron Troeon Bywyd Alan Llwyd
Y Fedal Ryddiaeth Nid Mudan mo'r Môr "Sara" Marged Pritchard

Cafwyd peth cecru yno gan i Dic Jones ddod yn fuddugol ar awdl Gwanwyn yn ôl y beirniaid, ond yr oedd wedi torri rheolau'r eisteddfod gan ei fod yn aelod o'r pwyllgor llên. Dyfarnwyd y wobr felly i Alan Llwyd a enillodd y goron hefyd. Cyhoeddwyd y ddwy awdl yn y Cyfansoddiadau - yr unig dro i hynny ddigwydd.

Sefydlwyd Cymdeithas Bob Owen yn ystod yr eisteddfod, i goffa Bob Owen, Croesor, a hyrwyddo gwybodaeth am lyfrau Cymraeg a Chymreig.

Gweler hefyd golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.