Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Caerffili a'r Cylch 2015
Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd flynyddol a gynhaliwyd yn Llancaiach Fawr ger Caerffili
Roedd Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Caerffili a'r Cylch 2015 yn ddigwyddiad a gynhaliwyd ar dir ystâd ac amgueddfa Llancaiach Fawr ger pentref Nelson rhwng 25 a 30 Mai 2015. Bu gorymdaith o 4,000 o blant ysgol a phobl lleol drwy dref Caerffili i groesawu'r digwyddiad i'r fro.[1]
Enghraifft o'r canlynol | Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd |
---|---|
Dyddiad | 2015 |
Lleoliad | Llancaiach Fawr |
Enillwyr
golygu- Y Goron - Dylan Huw Edwards o Llanfihangel Gennau'r Glyn (Landre), Ceredigion a oedd yn fyfyriwr yng Ngholeg y Brenin, Llundain[2]
- Y Gadair - Elis Dafydd[3][4]
- Y Fedal Ddrama - Ffion Haf Williams, cyn-fyfyrwraig Ysgol y Gymraeg, yn Sir Benfro ac yn astudio gradd meistr mewn Astudiaethau Celtaidd yng Ngholeg yr Iesu, Prifysgol Rhydychen[5]
- Y Fedal Lenyddiaeth -
- Tlws y Cyfansoddwr - Charlie Lovell-Jones, Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf, Caerdydd
- Medal y Dysgwr - Alice Howell o Ysgol Uwchradd Caerdydd lle roedd yn astudio Cerddoriaeth, Mathemateg a'r Gymraeg ar gyfer Lefel A.[6]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "4,000 yn croesawu Eisteddfod yr Urdd 2015". Golwg360. 2015.
- ↑ "Dylan Edwards sydd wedi ennill y Goron". Golwg360. 2015.
- ↑ "Casglu'r Cadeiriau". gwefan Casglu'r Cadeiriau. Cyrchwyd 22 Tachwedd 2023.
- ↑ "Elis Dafydd yw Prifardd yr Eisteddfod Daw'n wreiddiol o Drefor ac mae'n astudio ym Mhrifysgol Bangor". Golwg360. 22 Tachwedd 2023.
- ↑ "MEDAL DDRAMA EISTEDDFOD YR URDD". Prifysgol Caerdydd. 27 Mai 2015.
- ↑ "Alice Howell yn ennill Medal y Dysgwyr". BBC Cymru Fyw. 26 Mai 2015.
Dolenni allanol
golygu- Beirniadaethau yr Eisteddfod yn 2015 gwefan Urdd Gobaith Cymru
- Ffotos o'r Eisteddfod gwefan 'FfotosCymru'