Eisteddfod y Bala 1738
Mae Eisteddfod y Bala 1738 yn enghraifft dda o'r eisteddfodau lleol a gynhaliwyd o bryd i'w gilydd yn y 18g yng Nghymru.
Enghraifft o'r canlynol | eisteddfod |
---|---|
Dyddiad | 1738 |
Lleoliad | y Bala |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Y cadeirydd oedd Edward Wynne, person Gwyddelwern o 1713 hyd 1745. Ymhlith y beirdd oedd Harri Parri o Graig y Gath, Maldwyn, Rowland o'r Pandy, John Jones, Llanfair, Dafydd ab Ifan Hynaf a Dafydd ab Ifan Ieuengaf, Gwilym ab Iorwerth o Lanfor, Elis Cadwaladr o Landrillo, Dafydd Jones o Drefriw ac un ferch, Siân Ifans o Lanfair Caereinion ym Mhowys.
Agorodd Edward Wynne yr eisteddfod trwy annerch ei gyd-feirdd mewn cyfres o englynion. Cafwyd caneuon i Syr Watcyn Williams Wynn ac ysgweiriaid eraill, cerddi i feirdd y fro a cherddi i'r Bala a Llyn Tegid. Enillwyd y Gadair gan Elis Cadwaladr.
Ffynonellau
golygu- Owen M. Edwards (gol.), Beirdd y Bala (Llanuwchllyn, 1911)
- Helen Ramage, 'Eisteddfodau'r 18g', yn Idris Foster (gol.), Twf yr Eisteddfod (Llys yr Eisteddfod Genedlaethol, 1968)