Owen Morgan Edwards
Arolygwr ysgolion, llenor a chyhoeddwr cylchgronau i oedolion ac i blant o Gymru oedd Owen Morgan Edwards (26 Rhagfyr 1858 – 15 Mai 1920).
Owen Morgan Edwards | |
---|---|
Ganwyd | 25 Rhagfyr 1858 Llanuwchllyn |
Bu farw | 15 Mai 1920 Llanuwchllyn |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | hanesydd, gwleidydd, awdur ffeithiol, llenor, ieithydd, academydd |
Swydd | Aelod o 26ain Senedd y Deyrnas Unedig |
Cysylltir gyda | Llanuwchllyn |
Plaid Wleidyddol | Plaid Ryddfrydol |
Plant | Ifan ab Owen Edwards |
Bywgraffiad
golyguGanwyd Edwards ar 26 Rhagfyr 1858 yng Nghoed-y-pry, Llanuwchllyn,[1] yn fab i Owen Edwards, ffermwr, ac Elizabeth.[2] Cafodd ei addysg yn ysgol y plwyf cyn mynychu Ysgol Ramadeg y Bala, ac yna Coleg Prifysgol Cymru Aberystwyth. Oddi yno aeth i Glasgow am gyfnod ac yna i Goleg Balliol, Rhydychen lle roedd yn un o sefydlwyr Cymdeithas Dafydd ap Gwilym. Graddiodd gyda gradd dosbarth cyntaf mewn Hanes Modern.
Cafodd yrfa hir fel golygydd cylchgronau. Dechreuodd fel cyd-olygydd Cymru Fydd (1889–1891), cylchgrawn y mudiad gwleidyddol o'r un enw (gweler Cymru Fydd). Yn 1891 dechreuodd olygu a chyhoeddi y cylchgrawn Cymru (1891–1920) yn fisol, a adwaenir yn aml fel y "Cymru Coch", oherwydd lliw y clawr. Yn yr un flwyddyn dechreuodd gyhoeddi y cylchgrawn misol i blant Cymru'r Plant; ar ei anterth yn 1900 roedd hwn yn gwerthu tua 40,000 o gopïau y mis, sy'n ei wneud y cyhoeddiad mwyaf poblogaidd erioed yn hanes Cymru.
Roedd yn aelod o'r Blaid Ryddfrydol a daeth yn Aelod Seneddol dros Feirionnydd ym 1899, yn dilyn marwolaeth Thomas Edward Ellis ym mis Ebrill 1899. Ni fwynhaodd fywyd y senedd ac felly ni ymgeisiodd i gael ei ail-ethol ym 1900.
Yn 1907 dewiswyd ef yn brif arolygydd ysgolion Cymru. Ynghyd a'r gwaith hwnnw roedd yn ymroddedig i greu yn ei gyd-Gymry falchter yn eu hanes, ei hiaith a'u diwylliant, ac i'r perwyl hyn fe ysgrifennodd nifer o lyfrau Cymraeg wedi eu hysgrifennu mewn arddull a oedd yn apelio at y darllenydd cyffredin.
Golygodd a chyhoeddodd ddwy gyfres bwysig o glasuron rhyddiaith a barddoniaeth Cymraeg, sef Cyfres y Fil (37 cyfrol) a Llyfrau ab Owen. Cyhoeddodd yn ogystal Cyfres Clasuron Cymru. Cafodd y llyfrau bach deniadol, rhad a safonol hyn ddylanwad mawr ar feddylfryd y Cymry.
Gwnaethpwyd yn Farchog ym 1916 a gwobrwywyd gyda gradd anrhydedd o Brifysgol Cymru ym 1918. Bu farw ei wraig ym 1919, a bu farw yntau yn Llanuwchllyn ym 1920. Aeth ei fab, Ifan ab Owen Edwards ymlaen i sefydlu Urdd Gobaith Cymru. Enwyd Ysgol O M Edwards yn Llanuwchllyn ar ei ôl er mwyn ei anrhydeddu.
Teulu
golyguCoed-y-pry, Llanuwchllyn oedd cartref O.M. Edwards a'i deulu yn 1871, roedd ei dad yn ffermwr 17 acer ar y pryd.[2] Yn ystod cyfrifiad 1881 roedd yn lletywr yn Meyrick House, Dolgellau, rhestrwyd ei alwedigaeth fel Minister Calvinistic Methodist Body.[3] Erbyn 1891, roedd yn byw adref gyda'i rieni unwaith eto yng Nghoedypry, rhestrwyd ei alwedigaeth fel athro hanes. Roedd ei frodyr, Thomas (melinydd), Edward (myfyriwr athroniaeth) a John M. (myfyriwr diwinyddiaeth) hefyd yn byw gyda hwy.[4] Priododd Ellen Elizabeth Davies yn fuan ar ôl hynny.[5] Roedd Edwards yn byw ym Mryn-yr-aber, Llanuwchllyn yn ystod cyfrifiad 1901, gyda'i wraig, ei fab Evan ab Owen a'i ferch, Haf. Roedd dwy forwyn hefyd yn byw gyda'r teulu. Rhestrwyd ei alwedigaeth fel Fellow of College & Lecturer.[6]
Llyfryddiaeth
golyguLlyfrau O. M. Edwards
golyguMae gan Wicidestun destun sy'n berthnasol i'r erthygl hon: |
- Trem ar Hanes Cymru (1893)
- Celtic Britain (1893)
- Clych Adgof - penodau yn hanes fy addysg (1906)
- O'r Bala i Geneva (1889)
- Ystraeon o Hanes Cymru (1894)
- Hanes Cymru (Rhan 1,1895; Rhan 2, 1899)
- Cartrefi Cymru (1896)
- Tro yn Llydaw (1889)
- Wales (1901, yn y gyfres Stories of the Nations)
- A Short History of Wales (1906)
- Llyfr Del (1906). I blant.
- Tro trwy'r Gogledd (1907)
- Tro i'r De (1907)
- Hwiangerddi (1911). I blant.
- Llyfr Nest (1913). I blant.
Llyfrau a gyhoeddwyd ar ôl ei farwolaeth
- Yn y Wlad (1920)
- Llyfr Owen (1926). I blant
- Llyfr Haf (1926). I blant
Astudiaethau
golygu- W.J. Gruffydd, Owen Morgan Edwards, Cyfrol 1, 1858-1883 (Aberystwyth, 1937). Yr unig gyfrol a gyhoeddwyd.
- Gwilym Arthur Jones, Bywyd a Gwaith Owen Morgan Edwards (1958)
- R.M. Jones, Llenyddiaeth Gymraeg, 1902–1936 (1987). Pennod 7 ac 8 ar lyfrau O. M. Edwards a'u dylanwad.
- Hazel Walford Davies (gol.), Bro a Bywyd: Syr O. M. Edwards 1858-1920 (Caerdydd, 1988)
- Hazel Walford Davies, O.M.: Cofiant Syr Owen Morgan Edwards (Gwasg Gomer, 2020)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Richard Aldrich, Peter Gordon (1989). Dictionary of British Educationists. Routledge. ISBN 9780713001778. URL
- ↑ 2.0 2.1 Cyfrifiad 1871, Coedypry, Llanuchwllyn. RG 10/5685
- ↑ Cyfrifiad 1881, Meyrick House, Meyrick Street, Dolgellau. RG 11/5546
- ↑ Cyfrifiad 1891, Coedypry, Llanuchwllyn. RG 12/4639
- ↑ Mynegai Cofrestr Priodasau Lloegr a Cymru: Owen Morgan Edwards & Ellen Elizabeth Davies; chwarter cofrestr: Ebrill–Mehefin 1891; Ardal cofrestru: Bala; Cyfrol: 11b; Tudalen; 597.
- ↑ Cyfrifiad 1901, Glanaber, Llanuchwllyn. RG 13/1520
Dolenni allanol
golygu- 'Papurau O. M. Edwards' yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru Archifwyd 2007-03-10 yn y Peiriant Wayback
- Testun Cartrefi Cymru' ar Wicidestun
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Thomas Edward Ellis |
Aelod Seneddol dros Feirionnydd 1899 – 1900 |
Olynydd: Osmond Williams |