Eleanor Rathbone
Ffeminist o Loegr oedd Eleanor Rathbone (12 Mai 1872 - 2 Ionawr 1946) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel gwleidydd, awdur ffeithiol a swffragét. Roedd yn Aelod Seneddol annibynnol ac yn ymgyrchydd tymor hir dros lwfans teulu a thros hawliau menywod. Roedd hi'n aelod o deulu nodedig y Rathbone o Lerpwl.
Eleanor Rathbone | |
---|---|
Ganwyd | 12 Mai 1872 Llundain |
Bu farw | 2 Ionawr 1946 Llundain |
Man preswyl | Lerpwl, Llundain |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Addysg | Meistr yn y Celfyddydau, Doethur mewn Cyfraith |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | gwleidydd, ymgyrchydd dros hawliau merched, awdur ffeithiol, swffragét, economegydd, ymgyrchydd dros bleidlais i ferched |
Swydd | Aelod o 38ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 37ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 36fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 35ed Senedd y Deyrnas Unedig, llywydd corfforaeth, ynad heddwch |
Plaid Wleidyddol | Annibynnwr |
Tad | William Rathbone VI |
Gwobr/au | Fellow of the Royal Statistical Society, gradd er anrhydedd, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Rhydychen |
Fe'i ganed yn Llundain a bu farw yn Llundain. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Goleg Somerville, Rhydychen.[1][2]
Magwraeth
golyguRoedd Eleanor Rathbone yn ferch i'r diwygiwr cymdeithasol William Rathbone VI a'i ail wraig, Emily Acheson Lyle. Anogodd ei theulu hi i ganolbwyntio ar faterion cymdeithasol. Aeth Rathbone i Ysgol Uwchradd Kensington (Ysgol Kensington Prep, bellach), Llundain; ac yn ddiweddarach aeth i Goleg Somerville, Rhydychen, yn erbyn ewyllus ei mam, ond gyda chefnogaeth Lucy Mary Silcox a hyfforddai hi yn y Clasuron (llenyddiaeth sydd wedi goroesi o'r Lladin a'r Groeg). [3][4][5][6][7]
Roedd ei thad William Rathbone (11 Chwefror 1819 - 6 Mawrth 1902) yn ŵr busnes, yn gymwynaswr ac yn wleidydd Rhyddfrydol a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Sir Gaernarfon ac Arfon.[8]
Coleg a gwaith
golyguAr ôl graddio, bu Rathbone yn gweithio ochr yn ochr â’i thad yn ymchwilio i amodau cymdeithasol a diwydiannol yn Lerpwl, nes iddo farw ym 1902. Roedd y ddau yn gwrthwynebu Ail Ryfel y Boer.
Ym 1903 cyhoeddodd Rathbone ei hadroddiad ar ganlyniadau'r "Ymchwiliad Arbennig i amodau Llafur yn Nociau Lerpwl". Ym 1905 cynorthwyodd i sefydlu Ysgol Gwyddor Gymdeithasol ym Mhrifysgol Lerpwl, lle bu'n darlithio mewn gweinyddiaeth gyhoeddus. Mae ei chysylltiad â'r brifysgol yn dal i gael ei gydnabod gan "Adeilad Eleanor Rathbone", a darlithfa a Chadair Cymdeithaseg y brifysgol hefyd yn dwyn ei henw.
Ymgyrchu dros etholfraint
golyguYm 1897, daeth Rathbone yn Ysgrifennydd Anrhydeddus Pwyllgor Gweithredol Cymdeithas Etholfraint Merched Lerpwl gan ganolbwyntiodd ar ymgyrchu dros yr hawl i ferched bleidleisio.[9]
Anrhydeddau
golygu- Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Fellow of the Royal Statistical Society, gradd er anrhydedd, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Rhydychen[10] .
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Dyddiad geni: "Eleanor Rathbone". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Eleanor Florence Rathbone". ffeil awdurdod y BnF.
- ↑ Dyddiad marw: "Eleanor Rathbone". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Eleanor Florence Rathbone". ffeil awdurdod y BnF.
- ↑ Alma mater: https://www.parliament.uk/about/living-heritage/transformingsociety/electionsvoting/womenvote/parliamentary-collections/eleanor-rathbone/eleanor-rathbone/. dyddiad cyrchiad: 28 Gorffennaf 2023.
- ↑ Galwedigaeth: https://map.mappingwomenssuffrage.org.uk/items/show/315. dyddiad cyrchiad: 28 Gorffennaf 2023.
- ↑ Swydd: https://www.parliament.uk/about/living-heritage/transformingsociety/electionsvoting/womenvote/parliamentary-collections/eleanor-rathbone/eleanor-rathbone/. dyddiad cyrchiad: 28 Gorffennaf 2023. https://www.parliament.uk/about/living-heritage/transformingsociety/electionsvoting/womenvote/parliamentary-collections/eleanor-rathbone/eleanor-rathbone/. dyddiad cyrchiad: 28 Gorffennaf 2023.
- ↑ Aelodaeth: Colin Matthew, ed. (2004) (yn en), Oxford Dictionary of National Biography, Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, Wikidata Q17565097, https://www.oxforddnb.com/ https://www.some.ox.ac.uk/eminent/eleanor-rathbone/. dyddiad cyrchiad: 28 Gorffennaf 2023. https://www.parliament.uk/about/living-heritage/transformingsociety/electionsvoting/womenvote/parliamentary-collections/eleanor-rathbone/eleanor-rathbone/. dyddiad cyrchiad: 28 Gorffennaf 2023. https://hist259.web.unc.edu/eleanor-rathbone-1872-1946/. dyddiad cyrchiad: 28 Gorffennaf 2023. https://www.parliament.uk/globalassets/documents/parliamentary-archives/curators-eleanor-rathbone-exhibition-leaflet.pdf. dyddiad cyrchiad: 28 Gorffennaf 2023. https://spartacus-educational.com/PRrathboneE.htm. dyddiad cyrchiad: 28 Gorffennaf 2023. https://map.mappingwomenssuffrage.org.uk/items/show/315. dyddiad cyrchiad: 28 Gorffennaf 2023.
- ↑ Anrhydeddau: https://archiveshub.jisc.ac.uk/search/archives/2678c2a7-94ca-3b6b-997b-76d32eb682cc. dyddiad cyrchiad: 28 Gorffennaf 2023.
- ↑ Rathbone, William (DNB12). (2013, Hydref 3). Yn Wikisource [1] adalwyd 5 Chwefror 2015
- ↑ Helmond, Marij van (1992). Votes for women : the events on Merseyside 1870-1928. Great Britain: National Museums & Galleries on Merseyside. t. 26. ISBN 090636745X.
- ↑ https://archiveshub.jisc.ac.uk/search/archives/2678c2a7-94ca-3b6b-997b-76d32eb682cc. dyddiad cyrchiad: 28 Gorffennaf 2023.