Eleri Llwyd
Mae Eleri Llwyd (ganwyd tua 1951) yn gantores boblogaidd Gymraeg, a fu'n fwyaf toreithiog yn y 1970au.
Eleri Llwyd | |
---|---|
Ganwyd | 1950s |
Man preswyl | Llanuwchllyn |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | athro, canwr |
Tad | Huw Lloyd Edwards |
Priod | Elfyn Llwyd |
Bywgraffiad
golyguGanwyd Eleri yn ferch i'r dramodydd Huw Lloyd Edwards. Cyfarfu a'i gŵr, Elfyn Llwyd pan oedd yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth a priododd y ddau ar 27 Gorffennaf 1974.[1] Mae ganddynt ddau blentyn, Catrin Mara a Rhodri Llwyd.[2] Mae Catrin Mara yn actores a bu'n actio yn y gyfres Pobol y Cwm.
Cymhwysodd fel athrawes a cyn ymddeol roedd yn athrawes Saesneg yn Ysgol y Berwyn, Y Bala.[3]
Gyrfa
golyguRhyddhaodd Eleri Llwyd ei sengl cyntaf, "Merch fel Fi" ar label Sain yn 1971[4] a'r un flwyddyn enillodd gystadleuaeth Cân i Gymru gyda chân boblogaidd Dewi 'Pws' Morris, "Nwy yn y Nen".
Bu'n aelod o'r grwpiau 'Y Nhw' ac 'Y Chwyldro' ond fel cantores unigol y mae'n fwyaf adnabyddus. Yn 1977 rhyddhaodd ei record hir, Am heddiw mae 'nghân. Disgrifiodd y canwr Gruff Rhys ei harddull fel 'prog gwerin-opera-disgo'. Ail-ryddhawyd yr albwm gan Sain yn Awst 2018.[5] Mae copïau gwreiddiol o'r albwm yn gwerthu am dros £100.[6]
Yn ogystal â "Nwy yn y Nen" cân adnabyddus arall a ganwyd gan Eleri Llwyd oedd "O Gymru" gan Rhys Jones, sydd, hefyd yn cael ei chanu gan gorau.[7] Cafwyd fersiwn gyfoes o'r gân, gyda llais Eleri Llwyd arni, gan Gai Toms.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Elfyn Llwyd. BBC News (2001).
- ↑ https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/35710208
- ↑ Cyfweliad Penblwydd Eleri Llwyd (25 Mai 2011).
- ↑ https://www.discogs.com/Eleri-Llwyd-Eleri-Llwyd/release/3363077
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-02-21. Cyrchwyd 2018-12-21.
- ↑ https://www.roughtrade.com/gb/music/eleri-llwyd-am-heddiw-mae-nghan[dolen farw]
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-09-23. Cyrchwyd 2018-12-21.