Rhys Jones (cerddor)
Cerddor ac addysgwr Cymreig oedd Rhys Jones MBE (1927 – 14 Ionawr 2015).[1]
Rhys Jones | |
---|---|
Ganwyd | 1927 Trelawnyd |
Bu farw | 14 Ionawr 2015 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | cerddor |
Plant | Caryl Parry Jones |
Gwobr/au | MBE |
Bywyd cynnar
golyguGaned Rhys Jones yn Nhrelawnyd, Sir y Fflint, ym 1927, yn fab i ysgubwr ffyrdd a nyrs gymunedol. Roedd ei dad hefyd yn arwain corau, ac ef sefydlodd Cor Meibion Trelawnyd.[2] Magwyd yn Ffynnongroyw, Caerwys a Threlawnyd, gan fynychu Ysgol Gynradd Trelawnyd ac Ysgol Ramadeg y Rhyl. Yn yr ysgol yn y Rhyl y datblygodd ei ddiddordeb a'i allu cerddorol.[3]
Gyrfa
golyguYm 1944, aeth i astudio i ddod yn athro cerdd yng Ngholeg Normal, Bangor,[2] cyn treulio dwy flynedd gyda'r Llu Awyr Brenhinol.[3]
Daeth yn brifathro Ysgol Gynradd Gymraeg Ffynnongroyw yn fuan wedi ei sefydliad ym 1953,[4] cyn gadael i ddod yn ddirprwy-brifathro ysgol newydd arall, Ysgol Maes Garmon yn yr Wyddgrug ym 1961, lle bu hefyd yn athro cerdd. Bu'n athro yn Ysgol Uwchradd Treffynnon am gyfnod cyn dychwelyd yn ddirprwy-brifathro i Ysgol Maes Garmon tua chychwyn yr 1970au.[4]
Fe wnaeth cyfraniad ym myd cerdd fel cyfeilydd, compere, arweinydd a beirniad. Bu'n Gyfarwyddwr Cerddorol Cantorion Gwalia ers 1985,[5] ac mae'n Is-lywydd Anrhydedd Cor Meibion Trelawnyd.[2]
Yn ogystal â chyfansoddi nifer o sioeau cerdd, enillodd wobr goffa T. H. Parry-Williams yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru.[2]
Roedd hefyd yn gyflwynydd rhaglen radio Taro Nodyn, ar foreau Sul ar BBC Radio Cymru a bu'n cyflwyno'r rhaglen grefyddol Dechrau Canu Dechrau Canmol . Darlledwyd rhaglen ddogfen amdano gan S4C yn 2010, sef Rhys Jones: Gwr y Gân.[6]
Derbyniodd Gymrodoriaeth Anrhydedd o Brifysgol Bangor ym mis Gorffennaf 2011.[7]
Bywyd personol
golyguRoedd yn briod â Gwen (16 Mawrth 1928 – 10 Rhagfyr 2023)[8] ac roedd ganddynt dau blentyn, Dafydd Rhys Jones a Caryl Parry Jones. Roedd Gwen yn athrawes ac arweinydd. Dros flynyddoed lawer hyfforddodd gannoedd o gantorion yng nghyffiniau Clwyd.[9]
Bu farw yn Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan ar ôl salwch.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Rhys Jones wedi marw yn 87 oed , Golwg360, 14 Ionawr 2015.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 2.3 Catrin Jones (2001). O hil gerdd. Adalwyd ar 6 Ionawr 2012.
- ↑ 3.0 3.1 Rhys Jones MBE. Trelawnyd Male Voice Choir. Adalwyd ar 5 Ionawr 2012.
- ↑ 4.0 4.1 Y Glannau: Derwen lle bu'r fesen fach. BBC Lleol: Gogledd Ddwyrain (Tachwedd 2003). Adalwyd ar 6 Ionawr 2012.
- ↑ Cyfansoddwyr. Cwmni Cyhoeddi Gwynn. Adalwyd ar 6 Ionawr 2012.
- ↑ Former teacher who has made a huge contribution to Welsh cultural life. North Wales Daily Post (21 Awst 2010). Adalwyd ar 6 Ionawr 2012.
- ↑ Duffy joins Bangor University graduates in celebration. Prifysgol Bangor (8 Gorffennaf 2011). Adalwyd ar 6 Ionawr 2012.
- ↑ "Hysbysiad marwolaeth Gwen PARRY JONES". funeral-notices.co.uk (yn Saesneg). 2023-12-16. Cyrchwyd 2023-12-18.
- ↑ "'Diolch Anti Gwen am ysbrydoli cenedlaethau o gantorion'". BBC Cymru Fyw. 2023-12-18. Cyrchwyd 2023-12-18.