Elvis, y Blew a Fi
Drama Gomisiwn Gymraeg ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Cymru Casnewydd 1988 yw Elvis, Y Blew A Fi gan Siôn Eirian. Perfformiwyd y ddrama am y tro cyntaf gan Gwmni Theatr Hwyl A Fflag. Dyma wythfed drama'r awdur.[1] Ni chyhoeddwyd y ddrama hyd yma.
Enghraifft o'r canlynol | gwaith llenyddol |
---|---|
Awdur | Siôn Eirian |
Gwlad | Cymru |
Iaith | Cymraeg |
Dyddiad cyhoeddi | 1988 |
Pwnc | Dramâu Cymraeg |
Disgrifiad byr
golyguCriw o ffrindiau yn dod ynghyd i gofio eu gorffennol yn niwedd y 1960au. "Diwedd delfrydiaeth naïf ond iachus y cyfnod hwnnw, diwedd diniweidrwydd a diwedd diffuantrwydd", yn ôl y dramodydd yn Rhaglen y cynhyrchiad.[2]
"Ein gwers ni'r prynhawn ma: "Nid yw'r rhai sy'n berchen ar ddychymyg a ddiffuantrwydd yn med[r]u dal gafael ar bwer. Nid yw'r rheini sy'n gafael yn awenau pwer bellach yn meddu ar ddychymyg na diffuantrwydd. Yn hyn o beth mae [19]88 yn wahanol i [19]68". Neu ydy hi?"[2]
Edrych ar wewyr meddyliol a chymhlethdod moesol y cymeriadau wna'r dramodydd, ar adegau gwahanol yn eu bywydau. Mae'r digwyddiadau yn y ddrama yn symud yn ôl ag ymlaen rhwng 1958, 1968, 1978 a 1988. Mae teitl y ddrama yn cyfeirio at Elvis Presley a'r grŵp pop Cymraeg, Y Blew.
Cymeriadau
golygu- Dai
- Dafydd
- Nerys
- Sian
- Rhian
- Gwydion Tomos
Cynyrchiadau nodedig
golyguLlwyfannwyd y ddrama am y tro cyntaf gan Hwyl A Fflag yn Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd 1988 cyn mynd â hi ar daith. Cyfarwyddwr Gruffudd Jones; cynllunydd Jacqueline Gunn; goleuo Peter Zygadlo; gwaith celf posteri Iwan Bala; cast:
- Dai - Edward Thomas
- Dafydd - Tom Richmond
- Nerys - Gwen Ellis
- Sian - Sian Summers
- Rhian - Nia Edwards
- Gwydion Tomos - Ian Saynor
"Drama gomisiwn Eisteddfod Casnewydd, y noson gynta'n fethiant, y nosweithiau wedyn yn well. Rhai o'r gynulleidfa'n cerdded allan oherwydd yr iaith. Rhyw, terfysg, a theledu" dyna oedd cychwyn adolygiad Dafydd Wyn Huws yn Golwg [Medi 1988].[1]
"Byd y teledu yw cefndir Elvis, y Blew a Fi a sioe media go iawn sydd ar y llwyfan. Drama sawl cyfrwng - sain, fideo, ffilm. Technegau oedd i fod i hyrwyddo'r ddrama er mai peri dryswch i lawer wnaeth rhai o'r sumbolau tua'r diwedd. Drama sy'n gwibio nôl a blaen o gyfnod i gyfnod rhwng 1958 ac 1988. Anodd drybeilig ei llwyfannu, a chynnal tempo'n llwyddiannus. [...] Siôn [Eirian] yn dal pen rheswm efo [Siôn] Eirian yn ei 'wewyr meddwl' a'i 'gymhlethdod moesol' yw'r ddrama rhwng Gwydion Tomos y teledwr, a Dafydd y delfrydwr. A'r elfen bersonol hon o fewn y neges wleidyddol oedd dileit y gwyliwr hwn sydd wedi hen alaru ar gyweithiau cymdeithasegol heb stamp awdur arnyn nhw. "Gei di bregethu dy neges cyn belled â'i fod o'n ddifyr," chwedl Gwydion Tomos."Nid yw'r rhai sy'n berchen ar ddychymyg a diffuantrwydd yn medru dal gafael ar bwer. Nid yw'r rheini sy'n gafael yn awenau pwer bellach yn meddu ar ddychymyg diffuantrwydd. [...] Mae'r deialog yn dal i befrio, yn amrwd a chignoeth ddiymatal. lâs fwya'r llwyfan yw clywed cymeriadau yn rhegi o waelod eu bod. Ond mae'r llen wedi hen ddod i lawr ar y rebeliaeth afieithus."[1]
Cyfeiriadau
golyguTri Dramodydd Cyfoes: Meic Povey, Siôn Eirian ac Aled Jones Williams – Traethawd doethuriaeth Manon Wyn Williams, Ysgol y Gymraeg Prifysgol Bangor Hydref 2015