Sian Summers

Actores, cyfarwyddwr a dramodydd o Gymraes

Actores, cyfarwyddydd a dramodydd o Gymru yw Sian Summers neu Siân Summers (ganwyd. ). [Nid yw'n arddel yr acen drom ar yr â bellach].[1]

Sian Summers
GanwydSian Summers
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma materYsgol Tryfan a Coleg Yr Iesu, Rhydychen
Galwedigaethcyfarwyddydd theatr, actores a dramodydd

Derbyniodd ei haddysg yn Ysgol Tryfan, Bangor, Coleg yr Iesu, Rhydychen ac Ysgol Ddrama East 15 yn Llundain. [2]

Wedi cyfnod yn actio mewn ffilmiau megis Hedd Wyn, bu'n gweithio fel dramodydd, cyfarwyddydd a dramatwrg.

Sefydlodd Theatr Rhiniog ym 1993 cyn cael ei phenodi yn arweinydd artistig Cwmni Theatr Gwynedd ym 1999, yn dilyn ymadawiad Graham Laker. Bu hefyd yn weithgar gyda Sgript Cymru, Sherman Cymru, Hwyl a Fflag a Theatr Bara Caws.

Rhwng 2007 a 2013, bu'n Reolwr Llenyddol i Sherman Cymru. Ers 2013, bu'n Uwch Ddarlithydd Sgriptio ym Mhrifysgol De Cymru.[2]

Ar ei chyfrif X/Twitter yn 2024, disgrifodd ei hun fel 'Cymraes Ewropeaidd'.[3]

Cefndir

golygu

Theatr

golygu

Teledu a ffilm

golygu

Dramâu

golygu

Cyhoeddiadau

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 "Sian Summers". University of South Wales (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-09-23.
  2. 2.0 2.1 "Linkedin Siân Summers".
  3. "Cyfrif X Siân Summers".
  4. Williams, Sera (2018-08-06), Y Pethau Mud, https://pure.southwales.ac.uk/en/publications/y-pethau-mud-2, adalwyd 2024-09-23
  5. "Details of Sian Summers's plays and performances from the archive of the Theatre in Wales web site". www.theatre-wales.co.uk. Cyrchwyd 2024-09-23.