Hwyl a Fflag
Cwmni theatr Gymraeg fu'n weithredol rhwng 1981 a 1994 oedd Hwyl a Fflag neu Cwmni Theatr Hwyl a Fflag. Roedd y cwmni wedi'i leoli ym Mangor, ac yn cynnal Gŵyl Ddrama flynyddol yn Theatr Gwynedd o 1987 gyda'r bwriad o gyflwyno gwaith newydd ac arbrofol gan ddramodwyr Cymraeg. Fe gollodd y cwmni eu nawdd ym 1994, a bu'n rhaid dod â'r cwmni i ben.
Enghraifft o'r canlynol | cwmni theatr Gymraeg |
---|---|
Dyddiad cynharaf | 1981 |
Gwlad | Cymru |
Cysylltir gyda | dramâu newydd |
Dod i ben | 1994 |
Cefndir
golyguSefydlwyd y cwmni gan nifer o actorion gan gynnwys Wyn Bowen Harris a Gwen Ellis ym 1981. Yn ogystal â chyflwyno dramâu newydd yn y Gymraeg, roedd y cwmni'n cyflwyno'r pantomeim Nadolig blynyddol, wedi i Gwmni Theatr Cymru ddod i ben ym 1984. Gwelwyd llwyfannu Go Fflamia! (1985/86), Jim Cro Crystyn (1986/87) a Codi Stêm (1987/88). Rhwng 1981 a 1991, cyflwynodd y cwmni 39 o gynyrchiadau prif lwyfan gan gyfanswm o 26 o awduron.[1] Dathlwyd pen-blwydd y cwmni yn ddeg oed gyda'r cynhyrchiad Hualau - "ein deugeinfed cynhyrchiad gan ein saithfed awdur ar hugain."[1]
"Polisi Hwyl A Fflag yw datblygu a chyflwyno'r gorau mewn ysgrifennu newydd i'r llwyfan, boed hynny ar ffurf dramâu newydd sbon neu addasiadau newydd o ddramâu sy'n bodoli eisioes. Tra'n cynnig adloniant theatrig safonol, ein nôd yw herio awduron a'r gynulleidfa i wynebu posibiliadau a problemau'r oes drwy ymdrin â phynciau cyfoes a pherthnasol."[1]
Ym 1992, penodwyd Angharad Tomos fel dramodydd preswyl cyntaf y cwmni.[2] "Gyda'r cyflwyniad heno [Tanddaearol] daw cyfle i lwyfannu drama newydd gan Awdur Preswyl cyntaf y Cwmni ac i gyhoeddi trothwy cyfnod anturus i Hwyl a Fflag," datganodd rhaglen y cynhyrchiad o ddrama Angharad Tanddaearol.
"Wedi deng mlynedd a mwy o gyflwyno dramâu newydd ac addasiadau mewn amrywiol ganolfannau led led y wlad bydd Hwyl a Fflag, wedi'r daith hon a Gŵyl Codi'r Hwyl 5, yn cymryd hoe o deithio'n genedlaethol am gyfnod er canolbwyntio ar ddatblygu cyfres o ddramâu newydd at y dyfodol. Trwy sefydlu 'Cwmni Parhaol' o artistiaid yn yr Hydref, a hynny am y tro cyntaf yn ein hanes, wele'r Cwmni'n mabwysiadu teitl drama Angharad ac yn mynd tan ddaear am rhai misoedd - o safbwynt cyhoeddus beth bynnag. Gwnawn hynny yn y ffydd y blodëir cynhwrf creadigol newydd o'n hadau tanddaearol fel y gallwn ail feddianu prif lwyfannau'r wlad yn 1993."[2]
Arweinwyr artistig
golyguNid oes manylion am unigolyn fu'n gyfrifol am yr arlwy artistig, ond mi fu'r bardd Iwan Llwyd yn 'weinyddydd' ar y cwmni, ac Elwyn Williams yng ngofal y Marchnata. Daeth Wyn Williams i ofalu am y cwmni ar gychwyn y 1990au.
Cynyrchiadau
golygu1980au
golygu- 1984
- Diwedd Y Saithdegau (1984) gan Gareth Miles
- Ffatri Serch (1984) (ar y cyd â Sgwâr Un) gan Gareth Miles; cast: Clive Roberts, Mari Gwilym, Eirlys Hywel, Wyn Bowen Harris a Cefin Roberts.
- 1985
- Bedlam (1985)
- Go Fflamia! (1985/86)
- 1986
- Byncyr (1986)
- Lleidr Da (1986)
- Jim Cro Crystyn (1986/87) - pantomeim gan Cefin Roberts a Geraint Cynan; cyfarwyddydd Gwen Ellis; cerddorion Geraint Cynan, Richard Eldrige a Ray Jones; cynllunydd Martin Morley; goleuo Peter Zygadlo; coreograffydd Cefin Roberts; cast: Tom Richmond, Siân James, Morfudd Hughes, Dewi Rhys, Mari Emlyn, Nia Medi a Maldwyn John.
- 1987
- Gŵyl Codi Hwyl 1 (1987) - gŵyl awduron
- Newid Aelwyd (1987) sioe gerddorol gan Gruffydd Jones a Catrin Edwards; cyfarwyddwr Tim Baker; cast: Sioned Mair, Bethan Jones, Richard Elfyn, Tom Richmond, Olwen Medi a Morfudd Hughes.
- Codi Stêm (1987/88) - sioe deuluol gan Gruffudd Jones, Gwen Ellis a Geraint Cynan; cyfarwyddwr Wyn Bowen Harris; cast: Sera Cracroft, Dylan Davies, Morfudd Hughes, Siân James, Maldwyn John, Tom Richmond a Danny Grehan.[3]
- 1988
- Barbaciw (1988)
- Elvis, Y Blew A Fi (1988) gan Siôn Eirian - drama gomisiwn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Casnewydd 1988; cyfarwyddwr Gruffudd Jones; cynllunydd Jacqueline Gunn; goleuo Peter Zygadlo; gwaith celf posteri Iwan Bala; cast: Edward Thomas, Tom Richmond, Gwen Ellis, Sian Summers, Nia Edwards ac Ian Saynor.
- 1989
- Gŵyl Codi Hwyl 2 (1989)[4]
- Y Llygod Yn Nhŷ Mr Mason gan Aled Islwyn
- Ffrindiau gan Geoffrey Morgan
- Ochrau gan Gwawr Williams
- Yma O Hyd gan Mair Tomos Ifans
- Val gan Dyfan Roberts
- Chwiorydd gan Gareth Miles
- Tocyn Un Ffordd gan Mair Gruffydd
- Duges Amalffi (1989) gan Gareth Miles (cyfieithiad o ddrama John Webster)
- Janine (1989) gan Cefin Roberts; Llwyfannwyd yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Cymru Dyffryn Conwy 1989 ac wedyn ar daith yn yr Hydref. Cyfarwyddwr Wyn Bowen Harris; cast: Siân Wheldon, Iestyn Garlick, Nia Williams, Fraser Cains a Gwen Ellis.
- Gŵyl Codi Hwyl 2 (1989)[4]
1990au
golygu- 1990
- Gŵyl Codi Hwyl 3 (1990)[5]
- Val (1990) gan Dyfan Roberts
- Yma O Hyd (1990) gan Mair Tomos Ifans
- Mountain Language gan Harold Pinter (cyfieithiad Cymraeg)
- Serch Yw'r Teyrn (1990)
- Cyw Haul (1990) gan Twm Miall
- T.A.W Pia Hi gan Ifor ap Glyn
- Sgwrs Ddwbl gan Mansel David (cyfieithad Gwen Ellis)
- Y Papur Ar Y Pared gan Christine Watkins
- Merch Ei Mam gan Mair Gruffydd
- Euog Di-Euog (1990) - drama gan Maldwyn Parry
- Gŵyl Codi Hwyl 3 (1990)[5]
- 1991
- Gŵyl Codi Hwyl 4 (1991) [6]
- Bar-bar-iaith - noson o gerddoriaeth a geiriau gan Steve Eaves a Dyfed Edwards.
- Mysgu Cymylau gan Branwen Cennard (cynhyrchiad Dalier Sylw)
- Deial 999 gan Theatr Bara Caws
- Torri Tsaen gan Mari Griffiths
- Hualau gan Emyr Humphreys; addasiad llwyfan o'r ffilm o'r un enw;[7] cynllunydd John Jenkins; goleuo Bobi Jones; cyfarwyddwr Siôn Humphreys; cast: Elliw Haf, Iola Gregory, Danny Grehan, Tom Richmond a Nia Williams.[1] Bu'r cynhyrchiad ar daith wedyn yn yr Hydref.
- Penblwydd Hapus gan Gwen Lasarus
- Cariad Mwy gan Gareth F. Williams (darlleniad o ddrafft cyntaf)
- Gŵyl Codi Hwyl 4 (1991) [6]
- 1992
- Gŵyl Codi Hwyl 5 (1992)[8]
- Plant Kalev gan Dyfan Roberts (hanner darlleniad)
- Dyrnod Branwen gan Gareth Miles
- Dim Byd Ynni gan Emlyn Gomer
- Tanddaearol (1992) gan Angharad Tomos; cyfarwyddwr Wyn Williams; cynllunydd John Jenkins; cast: Siân Wheldon, Dewi Rhys, Idris Morris Jones a Judith Humphreys
- Gŵyl Codi Hwyl 5 (1992)[8]
- 1993
- Gŵyl Codi Hwyl 6 (1993)
- Cameo (1993) Cyfieithiad Mari Emlyn o'r gomedi Shakers gan John Godber a Jane Thornton
- Dyrnod Branwen (1993) gan Gareth Miles
- 1994
- Gŵyl Codi Hwyl 7 (1994)
- Un Funud Fach (1994) gan Sian Summers[9]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 Rhaglen cynhyrchiad Hwyl A Fflag o Hualau. 1991.
- ↑ 2.0 2.1 Rhaglen Tanddaearol cynhyrchiad Hwyl A Fflag. 1992.
- ↑ Taflen hysbysebu'r sioe Go Fflamia!. 1986.
- ↑ Dafis, Cris (Ebrill 1989). "Hwyl yr Ŵyl ym Mangor". Barn 315.
- ↑ Jones, David [Dafydd] Llewelyn (Mawrth 1990). "Hwyl Efo'r Pwdin". Barn 326.
- ↑ Roberts, Mared Lewis (Ebrill 1991). "Codi'r Hwyl". Barn 339.
- ↑ "Hualau". Wici Y Cyfryngau Cymraeg. Cyrchwyd 2024-09-11.
- ↑ Fôn, Dafydd (Ebrill 1992). "Gŵyl i bwy?". Barn 351.
- ↑ "Archif Hwyl A Fflag".