Englynion y Clywaid

(Ailgyfeiriad o Englynion y Clyweit)

Casgliad o englynion diarhebol yw Englynion y Clywaid (Cymraeg Canol: Englynion y Clyweit), a gyfansoddwyd tua diwedd y 12g neu ddechrau'r 13eg, yn ôl Ifor Williams. Canu gwirebol a geir yn y gerdd, gyda phob englyn yn dechrau gyda'r fformiwla agoriadol "A glyweist ti a gant...?" gan ychwanegu enw cymeriad o draddodiad Cymru neu un o'r seintiau. Ceir yr ateb ar ffurf dihareb draddodiadol.

Ceir y testunau cynharaf yn Llawysgrif Coleg yr Iesu 3 (tua 1350) ac yn Llyfr Coch Talgarth (tua 1400). Ceir y testun gorau yn Llyfr Coch Talgarth ac yn y llawysgrif gynharach ceir y teitl Llyma e[n]glynyon y clyweit ar diarhebyon. Mae'r testunau hyn yn deillio o destun[au] cynharach.

Mae'r gerdd yn cynnwys 73 o englynion gyda'r diarhebion yn cael eu priodoli i gymeriadau o'r traddodiad Cymreig neu seintiau Cymreig a thramor ac eithrio ambell un a roddir yng ngenau anifeiliaid. Mae'r dewis o gymeriadau Cymreig yn cynnwys nifer o gymeriadau o Culhwch ac Olwen, sy'n dangos fod yr awdur yn gyfarwydd â'r chwedl honno. Mae'r cyfuniad o arwyr chwedlonol, hanesyddol neu led-hanesyddol a seintiau Cristnogol yn dyst i ddiddordebau hynafiaethol yr awdur, sy'n anhysbys. Mae'r gerdd yn ddrych hefyd i ddiddordeb hynafiaethol y 13g a'r 14eg pryd cafwyd cryn dipyn o gasglu, cyfansoddi a chofnodi deunydd diharebol a gnomig gan Gymry dysgedig mewn ysbryd a gymherir gan Kenneth H. Jackson â'r meddylfryd hynafiaethol a ysbrodylodd olygwyr y Myvyrian Archaiology of Wales ar ddechrau'r 19g.

Dyma enghraifft lle priodolir y ddihareb i Cynfarch fab Meirchion o'r Hen Ogledd:

A glyweist-di a gant Cynfarch?
'Bid dy ysgwydd ar dy farch;
A'r ni'th barcho di na pharch'.[1]

Mae'r arwyr eraill yn cynnwys Llywarch Hen, Heledd, Urien Rheged, Gwenddolau a Geraint fab Erbin. O fyd y chwedlau ceir cymeriadau fel Culhwch, Drystan a Cadriaith mab Seidi. Mae gan yr awdur hoffder arbennig o seintiau De Cymru, yn cynnwys Idloes, Dewi Sant, Padarn, Gwynllyw a Teilo, sy'n awgrymu ei fod yn frodor o'r De.

Nodiadau golygu

  1. 'Englynion y Clywaid', Englyn 12. Diweddarwyd yr orgraff (ysgwydd='tarian').

Llyfryddiaeth golygu

Ceir y testun Cymraeg Canol gyda aralleiriad Cymraeg Diweddar, rhagymadrodd a nodiadau yn:

  • Marged Haycock (gol.), 'Englynion y Clywaid', Blodeugerdd Barddas o Ganu Crefyddol Cynnar (Cyhoeddiadau Barddas, 1994), tt. 313-37.