Enrique Larreta
Nofelydd yn yr iaith Sbaeneg a diplomydd o'r Ariannin oedd Enrique Rodríguez Larreta (4 Mawrth 1875 – 7 Gorffennaf 1961). Ei gampwaith ydy La gloria de Don Ramiro: Una vida en tiempos de Felipe II (1908), un o'r nofelau hanesyddol gwychaf yn holl lên America Ladin.[1]
Enrique Larreta | |
---|---|
Ganwyd | 4 Mawrth 1873 Buenos Aires |
Bu farw | 6 Gorffennaf 1961 Buenos Aires |
Dinasyddiaeth | yr Ariannin |
Alma mater | |
Galwedigaeth | diplomydd, llenor, newyddiadurwr, cyfarwyddwr ffilm, cynhyrchydd ffilm, sgriptiwr ffilm |
Gwobr/au | Uwch-Groes Urdd Sifil Alfonso X |
llofnod | |
Ganwyd yn Buenos Aires, prifddinas yr Ariannin, yn fab i rieni cefnog o Wrwgwái. Astudiodd y gyfraith ym Mhrifysgol Buenos Aires.[2] Teithiodd i Fadrid ac yno cafodd ei ddylanwadu gan y nofelydd Ffrengig Maurice Barrès. Treuliodd bum mlynedd yn Sbaen yn gwneud gwaith ymchwil am gyfnod Felipe II ar gyfer ei nofel, La gloria de Don Ramiro.
Penodwyd yn llysgennad yr Ariannin i Ffrainc yn 1910, a daliodd y swydd honno hyd 1919.
Ymhlith ei nofelau eraill mae Zogoibi (1926), enghraifft o lenyddiaeth y gaucho, a Gerardo o la torre de las damas (1953) a'i ddilyniant En la pampa (1955), a gyhoeddant ar ffurf un gyfrol, El gerardo (1956). Ysgrifennodd hefyd gyfrol o atgofion ac ysgrifau, La naranja (1948).
Bu farw yn Buenos Aires yn 86 oed. Mae ei gartref yno bellach yn amgueddfa gelf Sbaenaidd.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Enrique Larreta. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 22 Ebrill 2019.
- ↑ (Saesneg) David William Foster, "Larreta, Enrique Rodríguez (1873–1961)" yn Encyclopedia of Latin American History and Culture (Gale, 2008). Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 22 Ebrill 2019.