Cerdd benrydd Gymraeg gan Menna Elfyn yw Er cof am Kelly. Ysgrifennwyd y gerdd ym Melffast, ac mae'r gerdd ar gwrs Llenyddiaeth Gymraeg TGAU CBAC. Mae'r gerdd yn sôn am ferch o'r enw Kelly yn cael ei lladd ym Melffast gan filwr Prydeinig yn ystod yr Helyntion. Naw mlwydd oed oedd hi ac wedi bod yn nôl peint o laeth i gymydog pan gafodd ei saethu. Gwelodd ei mam y saethu. Ceisiodd y milwr helpu ond gwaeddodd cymydog arno. Yn y pennill olaf rydyn ni'n cael darlun trist o'i hangladd: ei gwisgo mewn ffrog benblwydd a rhoi losin a thedi gyda'r corff. Ei marwolaeth fydd ei noson hwyraf allan.

Cynnwys y gerdd golygu

Adrodda'r gerdd hanes merch fach sy'n cael ei saethu yn ddamweiniol gan filwr Prydeinig. Dywed y bardd wrthym fod y ferch fach, Kelly, yn naw mlwydd oed. Yn gerdd, cawn wybod ei bod ar gymwynas i gymydog, sef hôl peint o laeth. Wrth iddi fynd, mae ei mam yn ei gwylio'n cerdded ac yna'n cwympo pan gaiff ei tharo gan fwled y milwr. Esbonia'r bardd fel y gwydr o'r botel laeth fel cnawd Kelly, "yn deilchion".

Mesur golygu

Cerdd benrydd ydy hon heb reolau pendant ond y bardd yn rhydd i amrywio hyd ei linellau a chynnwys ffigurau ymadrodd fel mae e'n dymuno. Nid oes cynghanedd na phatrwm odlau a sillafu pendant yn y gerdd.

Crefft ac arddull golygu

Mae'r arddull yn syml â'r bardd fel pe'n adrodd stori. Rydyn ni'n gweld cymhariaeth yn y llinell "gwydr fel ei chnawd yn deilchion" sy'n rhoi darlun i ni o'i chorff fel gwydr y botel yn ddarnau. Mae hyn yn dangos bod cnawd y ferch fach wedi chawlu hawsed â'r botel laeth yn torri ar y llawr. Mae hyn yn pwysleisio i ni pa mor fregus yw bywyd.

Ceir sawl enghraifft o gyflythrennu effeithiol yn y gerdd, er enghraifft pan mae'r bardd yn sôn am "panig wedi'r poen"—mae'r p yma'n cyflymu'r geiriau ac yn help i gyfleu'r panig yn union wedi'r digwydd. Yn y llinell "cymydog mewn cynddaredd", mae'r c hefyd yn gytsain galed a bron na allwn glywed y cymydog yn poeri geiriau cas at y milwr. Gallwn hefyd deimlo'r gynddaredd yn ei geiriau "bwled wedi'i bwrw"—mae'r b yn gytsain galed a bron na allwn glywed y gwn yn tanio. Ceir yr un effaith yn y llinell "Moesymgrymodd. Meidrolodd, ei mwytho..." Dyma hefyd enghraifft o gymeriad geiriol: ar ôl i'r milwr gyrraedd y ferch mae'n gwneud tri pheth ac maent oll yn dechrau gyda'r llythyren m. Mae'r ferf "meidrolodd" (hynny yw, troi'n ôl yn derfynedig a dynol) yn arbennig o effeithiol am iddi awgrymu i ni nad oedd y milwr yn feidrol wrth ei waith, pan wasgodd glicied ei wn.

Ceir hefyd sawl enghraifft o wrthgyferbynnu. Mae'r llinellau "ei gweld yn cerdded / a chwympo" yn pwysleisio pa mor sydyn y digwyddodd y cyfan. Yn y llinellau "Y fam yn ymbil / am ei gymorth cyntaf— / olaf", y cymorth cyntaf mae'n ei dderbyn yw'r cymorth olaf a gaiff hi fath—mae wedi marw. Yn y disgrifiad o angladd y ferch yn y pennill olaf, defnyddir geiriau sy'n gysylltiedig â phlentyndod ("ffrog penblwydd", "losin", "tedi budur", "crud") a'u rhoi ochr yn ochr â geiriau sy'n ymwneud â marwolaeth ("arch", "elor", "angau"). Mae hyn yn pwysleisio pa mor ifanc oedd y ferch yn marw. Mae tristwch mawr o feddwl fod y tedi oedd yn arfer cadw cwmni iddi yn ei chrud nawr gyda hi yn ei harch.

Nodwedd amlwg arall o'r gerdd ydy'r geiriau Saesneg a ddefnyddir gan y milwr ("My God, it's only a little girl") a'r cymydog ("get your dirty hands off") . Gwneir hyn gan mai dyma ydoedd cyfrwng iaith naturiol Gogledd Iwerddon. Mae'r dechneg hon yn gwneud y gerdd yn gredadwy neu'n realistig. Mae'r sôn am "ei gymorth cyntaf— olaf" yn effeithiol am fod y ddau ansoddair yn gwrthddweud ei gilydd.

Dwy enghraifft amlwg o eironi sydd yn y gerdd. Yn gyntaf, eironi sefyllfaol ydy tynged y ferch ddiniwed: ar "gymwynas daith" y mai hi, yn gwneud ffafr ac nid ceisio achosi trwbl. Eironi geiriol a geir yn llinell olaf y gerdd, sy'n dweud llawer mewn ychydig eiriau ac yn cyfeirio at farwolaeth rhywun ifanc mewn ffordd drist a chofiadwy: "angau ei noson hwyraf allan". Dyma hefyd enghraifft wych o gynildeb iaith.

Neges y gerdd golygu

Mae'r bardd ei hyn yn dweud mewn cromfachau dan deitl y gerdd mai ym Melffast yr ysgrifennwyd hi. Mae, felly, yn rhoi cliw i no ynglŷn â'r cynnwys cyn inni ddechrau darllen. Neges Menna Elfyn yw bod pobl ddiniwed yn cael eu heffeithio gan rhyfel a bod yr holl beth yn erchyll. Dangosir hyn trwy ddefnyddio ferch fach bur a symbolir gan y llaeth. Dyw'r "glas filwr" ddim yn mynnu 'neud hyn ddigwyddodd yn ddamweiniol ond bydd ar ei feddwl e am weddill ei fywyd.

Gwna'r gerdd i'r darllenydd feddwl am yr holl rhyfela yn y byd, a'r trychineb. Amlyga Menna Elfyn sut mae'r fam yn teimlo wrth weld ei merch fach yn marw o'i blaen. Dengys hefyd sut mae'r glas filwr yn teimlo wrth iddo sylweddoli mai merch fach a saethodd.