Trevelin
Mae Trevelin (weithiau Trefelín) yn dref gyda phoblogaeth o tua 5.000 yn nhalaith Chubut, Ariannin. Mae'r enw yn deillio o'r felin gyntaf o'r enw "Los Andes" a sefydlwyd gan John Daniel Evans yn 1889.
![]() | |
![]() | |
Math |
anheddiad dynol, bwrdeistref ![]() |
---|---|
| |
Poblogaeth |
6,353 ![]() |
Sefydlwyd | |
Cylchfa amser |
UTC−03:00 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir |
Futaleufú Department ![]() |
Gwlad |
![]() |
Uwch y môr |
385 metr ![]() |
Cyfesurynnau |
43.08°S 71.47°W ![]() |
Cod post |
U9203 ![]() |
![]() | |
Trevelin oedd canolbwynt y gwladychiad Cymreig yng Nghwm Hyfryd. Enw Sbaeneg yr ardal yw Valle 16 de Octubre, gan iddo gael ei sefydlu ar y 16eg o Hydref, 1888. Yn 1902, yn dilyn anghydfod rhwng Ariannin a Tsile ynghylch perchenogaeth yr ardal, pleidleisiodd disgynyddion y Cymry i fod yn rhan o'r Ariannin.
Mae Trevelín yn y rhan gwlyb o Batagonia. Ymhlith y mannau o ddiddordeb mae'r Museo Histórico Regional yn hen felin John Evans, a Museo Cartref Taid lle gellir gweld nifer o gelfi oedd yn perthyn i John Daniel Evans. Gerllaw, mae bedd ceffyl John Evans, Malacara, a achubodd ei fywyd trwy neidio i lawr dibyn serth pan ymosodwyd arno gan Indiaid.