Elgan Philip Davies

nofelydd Cymreig

Awdur a chyfansoddwr Cymreig yw Elgan Philip Davies (ganwyd 9 Mai 1952), sy'n ysgrifennu yn y Gymraeg ar gyfer plant ac oedolion. Rhestrwyd ei lyfr Fel y Dur, (Cymdeithas Lyfrau Ceredigion) ar restr fer Llyfr y Flwyddyn 1999. Roedd yn un o aelodau gwreiddiol y band Hergest ac yn aelod o griw'r sioe Nia Ben Aur.

Elgan Philip Davies
Ganwyd9 Mai 1952 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethnofelydd Edit this on Wikidata


Bywgraffiad

golygu

Ganwyd Elgan ym Mhontrhydfendigaid, Ceredigion ar 9 Mai 1952 lle roedd ei dad yn blismon y pentref. Wedi hynny bu'r teulu yn byw ym Mrynhoffnant, Rhydaman, Llanymddyfri a Llanfarian, a mynychodd Elgan ysgolion cynradd Pontrhydfendigaid, Penmorfa, Ceredigion, a Rhydaman, ac ysgolion uwchradd Ysgol Ramadeg Dyffryn Aman, Rhydaman, Ysgol Gyfun Pantycelyn, Llanymddyfri, ac Ysgol Ramadeg Ardwyn, Aberystwyth. Ar ôl gadael yr ysgol fe aeth i weithio yn llyfrgell Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth am ddwy flynedd cyn mynd yn fyfyriwr i Goleg Harlech. Ar ôl gorffen ei gwrs yno dychwelodd i Aberystwyth fel myfyriwr a graddio yn y Gymraeg a Hanes Cymru, cyn dilyn cwrs llyfrgellyddiaeth yng Ngholeg Llyfrgellwyr Cymru, Llanbadarn. Dychwelodd i weithio yn llyfrgell y brifysgol yn Aberystwyth lle bu'n llyfrgellydd yr Hen Goleg am ddeng mlynedd ar hugain, cyn cael ei benodi'n Rheolwr Casgliadau ac Adnoddau Llyfrgell Hugh Owen. Ymddeolodd o Brifysgol Aberystwyth yn 2015.

Mae'n briod â Menna ac mae ganddynt bedwar o blant, Esyllt Sears, Gwenno, Lois a Gwion, a phump o wyrion, Mabli, 'Eseta, Idris, Sosefo a Guto.

Llyfrau

golygu

Cyhoeddodd Elgan ei lyfr cyntaf i blant ym 1985. Trwy Goed y Cedyrn oedd yr antur aml-ddewis gyntaf yn y Gymraeg ac fe gafodd dderbyniad da, yn enwedig gan athrawon, gan fod y llyfrau hyn yn golygu bod darllenwyr yn troi tudalennau drwy’r amser wrth i’r stori ddatblygu. Dros y tair blynedd nesaf cyhoeddodd dair antur aml-ddewis arall.

Ym 1990 cyhoeddwyd Cariad Miss, y cyntaf o bum llyfr gan Elgan yng Nghyfres Corryn sy’n adrodd helyntion dosbarth o blant mewn ysgol gynradd. Rhwng 1995 a 1997 ymddangosodd yr un cymeriadau mewn chwe llyfr arall, y tro hwn yn eu cyfres eu hunain, Cyfres Plant Blwyddyn Pedwar. Yn 2021 ailgyhoeddwyd Dirgelwch y Dieithryn yn y gyfres Gorau’r Goreuon.

Yn yr un cyfnod dechreuodd Elgan addasu nifer o lyfrau storïol a ffeithiol o’r Saesneg ar gyfer prosiectau llyfrau darllen i ysgolion. Ysgrifennodd hefyd nifer o lyfrau gwreiddiol ar gyfer cynlluniau darllen tebyg, yn eu plith llyfrau ar Ryan Giggs, Colin Jackson, Ioan Gruffudd a Catatonia.

Ym 1999 cyhoeddwyd y cyntaf o lyfrau Cyfres Cefn y Rhwyd, pum llyfr sy’n dilyn hanes tîm pêl-droed ysgol gynradd, ac fe brofodd y rhain yn boblogaidd iawn, yn enwedig gan fechgyn sy’n gyndyn i godi llyfr.

Rhwng 2005 a 2006 cyhoeddodd ddilyniant o bedair nofel ar gyfer pobl ifanc ac fe barhaodd gyda nofelau ar gyfer yr arddegau gyda dau lyfr yng nghyfres ddirgelwch Canolfan Astudiaethau Addysg. Ar ôl y gyfrol unigol, Ergyd Drwy Amser, cyhoeddodd ddilyniant o dri llyfr antur am Dylan Rees rhwng 2012 a 2013, eto ar gyfer yr arddegau.

O ganol y 1990au hyd 2005, bu Elgan yn ymwelydd cyson ag ysgolion a llyfrgelloedd ledled Cymru yn annog darllenwyr drwy siarad am ei lyfrau ac ysgogi awduron ifanc mewn sesiynau Sgwad Sgwennu.

Yn ogystal â llyfrau i blant, mae Elgan hefyd wedi ysgrifennu nofelau datrys a dirgelwch ar gyfer oedolion, ac ymddangosodd dau ohonynt, Fel y Dur a Cleddyf Llym Daufiniog, ar restri Llyfr y Flwyddyn ym 1999 a 2004.

Yn 2011 cyhoeddodd Elgan ei lyfr dwyieithog cyntaf, sef Yr Hen Goleg/The Old College a oedd yn olrhain datblygiad adeilad eiconaidd ar lan y môr yn Aberystwyth o fod yn westy crand Fictoraidd i fod yn gartref cyntaf Prifysgol Cymru. Erbyn 2010 roedd nifer helaeth o’r adrannau academaidd a gweinyddol Prifysgol Aberystwyth wedi symud o’r Hen Goleg i adeiladau newydd ar gampws Penglais ac roedd cryn ansicrwydd ynglŷn â dyfodol yr hen adeilad.

Dros y blynyddoedd roedd Elgan wedi cael sawl cais gan wahanol fudiadau i gyflwyno hanes yr adeilad ac yn awr fe ddefnyddiodd y deunydd hwnnw i ysgrifennu llyfryn dwyieithog a’i gyflwyno i Wasg Gomer fel rhan o’r gyfres Cip ar Gymru/Wonder of Wales er mwyn tynnu sylw at bwysigrwydd a hynodrwydd yr Hen Goleg.

Pan ddechreuodd Prifysgol Aberystwyth lunio’i chynlluniau i gyflwyno Bywyd Newydd i’r Hen Goleg yn 2014, defnyddiwyd llyfryn Elgan yn helaeth i godi ymwybyddiaeth o’r adeilad ac fel rhan o ymgyrch casglu arian ar gyfer y gwaith addasu arfaethedig.

Wrth i’r ymgyrch honno fynd rhagddi yn llwyddiannus a chynlluniau uchelgeisiol gael eu paratoi, gofynnodd y Brifysgol i Elgan ysgrifennu ail lyfryn a fyddai’n dod â hanes yr Hen Goleg, ynghyd â datblygiad campws Penglais, i’r presennol, a chyhoeddwyd Bywyd Newydd i’r Hen Goleg/New Life for Old College gan Brifysgol Aberystwyth yn 2021.

Anturiaethau Aml-ddewis

golygu

Cyfres Corryn

golygu

Cyfres Plant Blwyddyn Pedwar

golygu

Cyfres Enwogion

golygu

Cyfres Cefn y Rhwyd

golygu

Cyfres Clic

golygu

Cyfresi eraill

golygu

Cyfres Bling

golygu

Cyfres Datrys a Dirgelwch

golygu

Prifysgol Aberystwyth

golygu

Dolenni allanol

golygu

Cyfeiriadau

golygu
   Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.