Geirdarddiad Cymru
Disgrifia'r erthygl hon geirdarddiad y gair "Cymru".
Gwreiddiau
golygu"Cymry" yw'r enw Cymraeg modern ar y bobl sy'n byw yng Nghymru. Mae'n deillio o'r Brythonig combrogi, sy'n golygu "cyd-wladwyr".[1]
Mae'r gair fel hunan-ddisgrifiad yn deillio o'r Cyfnod ôl-Rufeinig (ar ôl glaniad yr Eingl-Sacsoniaid) gan disgrifio y Cymry (Brythoneg eu hiaith) yn y Gymru fodern. Yn ystod y cyfnod hwn roedd y Cymry yn trigo nid yn unig yng Nghymru ond yn yr Hen Ogledd, sef gogledd Lloegr a de'r Alban. Pwysleisiodd y gair mai un bobl oedd y Cymry ar draws Cymru a'r Hen Ogledd, ac yn wahanol i bobloedd eraill.[2]
Ni ddefnyddiwyd y term "Cymry" i ddisgrifio'r Cernywiaid na'r bobl Llydawyr, sydd o etifeddiaeth, diwylliant, ac iaith debyg i'r Cymry. Yn ôl pob tebyg dechreuodd y gair ei ddefnyddio fel hunan-ddisgrifiad cyn y 7fed ganrif.[3] Fe’i tystir mewn cywydd mawl i Cadwallon ap Cadfan (Moliant Cadwallon, gan Afan Ferddig), sy'n dyddio o tua633.[4]
Mewn llenyddiaeth Gymraeg, ddefnyddiwyd "Cymry" ar hyd yr Oesoedd Canol i ddisgrifio'r bobl, er y parhaodd y defnydd o'r term hynaf, mwy generig, "Brythoniaid" ar gyfer pobloedd Brythonig (gan gynnwys y Cymry). Hwn oedd y term llenyddol mwyaf cyffredin hyd c.1200. Wedi hynny parhaodd "Cymry" fel y term a ddefnyddwyd. Hyd c.1560 sillafwyd y gair fel "Kymry" neu "Cymry", a gyfeiriodd at y wlad a'r bobl.[1] Dim ond yn ddiweddarach y daeth yr arfer o wahaniaethu rhwng Cymry y bobl a Chymru y wlad.
Cambria
golyguMae ffurf Lladinaidd yr enw, sef Cambria, yn goroesi yn bennaf mewn cyd-destunau Saesneg, ynghŷd â'r ffurfiau ansoddeiriol Cambrian a Cambric. Ymhlith yr enghreifftiau mae Mynyddoedd Cambria (sef Elenydd, sy’n gorchuddio llawer o Gymru ac a roddodd eu henw i gyfnod daearegol y Cambriaidd), y papur newydd Cambrian News, a sefydliadau megis Cambrian Airways a Rheilffordd y Cambrian.
Cumbria
golyguY hwnt i Gymru, mae ffurf gysylltiedig wedi goroesi fel yr enw "Cumbria" yng Ngogledd-orllewin Lloegr, a fu unwaith yn rhan o'r Hen Ogledd. Defnyddiwyd yr iaith Cumbricaidd, ag oedd yn perthyn yn agos i'r Gymraeg tan tua'r 12fed ganrif.
Geirdarddiad Wales
golyguMae gwraidd y gair Saesneg ar Gymru, Wales, yn perthyn i'r gair am dramorwr Lladin eu hiaith neu diwylliant. Noda sianel youtube Pwyleg, Ciekawostki językoznawcze bod y gwraidd 'wal' yn rhannu'r un gwraidd â'r gair gwalch yn y Gymraeg.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 John Davies, A History of Wales (Llundain, 1994), t.69
- ↑ Lloyd, John Edward (1911). A History of Wales from the Earliest Times to the Edwardian Conquest (Note to Chapter VI, the Name "Cymry"). I (Second ed.). London: Longmans, Green, and Co. (published 1912). pp. 191–192. https://books.google.com/books?id=NYwNAAAAIAAJ&pg=PA191.
- ↑ Phillimore, Egerton (1891). "Note (a) to The Settlement of Brittany". In Phillimore, Egerton (gol.). Y Cymmrodor. XI. London: Honourable Society of Cymmrodorion (cyhoeddwyd 1892). tt. 97–101.
- ↑ Davies, A History of Wales, t.71: "the poem contains the line: 'Ar wynep Kymry Cadwallawn was'".