Cambrian Airways
Cwmni hedfan cenedlaethol cyntaf Cymru oedd Cambrian Airways.
Math | cwmni hedfan |
---|---|
Sefydlwyd | 1935 |
Daeth i ben | 1976 |
Pencadlys | Caerdydd |
Ffurfiwyd y cwmni yng Nghaerdydd yn 1935 o dan yr enw Cambrian Air Services, gan y masnachwr S. Kenneth Davies, Cadeirydd a Chyfarwyddwr Rheoli cyntaf y cwmni. Dechreuodd fel cwmni awyr siarter, yn hedfan o faes awyr gwreiddiol Caerdydd yn Rhos Pengam ger Y Sblot, tua dwy filltir o ganol y ddinas.
Yn 1951 gadawodd Kenneth Davies y cwmni i fod yn Gyfarwyddwr BEA (British European Airways).
Symudodd y cwmni eu gwasanaethau i faes awyr Caerdydd (Rhws) yn 1954. Yn 1976, ar ôl bron i 40 mlynedd, diflannodd yr enw pan brynwyd Cambrian Airways gan BEA.[1]
Teithiau
golygu- Cymru: Caerdydd-Abertawe • Caerdydd-Hwlffordd • Caerdydd-Penarlâg
- Lloegr: Caerdydd-Bournemouth • Caerdydd-Bryste • Caerdydd-Lerpwl (Speke) • Caerdydd-Llundain (Heathrow) • Caerdydd-Manceinion • Caerdydd-Southampton
- Yr Alban: Caerdydd-Caeredin • Caerdydd-Glaschu
- Iwerddon: Caerdydd-Belffast • Caerdydd-Corc • Caerdydd-Dulyn
- Guernsey: Caerdydd-Guernsey
- Jersey: Caerdydd-Jersey • Abertawe-Jersey
- Ynys Manaw: Caredydd-Ynys Manaw (Ronaldsway)
- Llydaw: Caerdydd-Dinard
- Ffrainc: Caerdydd-Paris
Oriel
golygu-
Pás Cambrian Airways
-
Tocyn Cambrian Airways
-
Tag clud Cambrian Airways
Ffynhonnell
golygu- ↑ History of Cambrian Airways, the Welsh airline from 1935–1976, STADDON, T.G. 1979
Dolenni allanol
golygu- (Saesneg) Gwefan answyddogol yn coffáu'r cwmni Archifwyd 2008-07-24 yn y Peiriant Wayback