Eurgain

Un o'r seintiau cynharaf

Un o'r seintiau cynharaf oedd Eurgain (hefyd Eigen, Eurgen ac Eurgan) - er bod llawer o'i hanes wedi'i gymylu gan Iolo Morgannwg ac eraill.

Eurgain
Eglwys Sant Eigon, Llanigon, Powys.
GanwydLlaneurgain Edit this on Wikidata
Bu farw1 g Edit this on Wikidata
Man preswylYnys Brydain, Rhufain, De Cymru Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethllenor Edit this on Wikidata
Blodeuodd6 g Edit this on Wikidata
TadCaradog Edit this on Wikidata

Ceir hefyd lawysgrifau o eiddo Iestyn ab Gwrgant sy'n nodi: "y bu'n byw yn agos at y ganrif gyntaf, roedd yn ferch i Garadog, arweinydd yr amddifyniad yn erbyn y Rhufeiniad yn y canrif cyntaf. Priododd Eurgain â Sallog; preswyliodd y ddau yng Nghaer Sallog.[1] Ar ôl cael eu cipio a'u cymryd i Rhufain mewn cadwyni gyda'i thad a'i chwaer Gwladus, dywedir fod Eurgain wedi dychwelyd o Rufain gyda Charadog, i ffurfio coleg o ddeuddeg disgybl a alwyd yn Gôr Eurgain.[2] Arhosodd Gwladus yn Rhufain ac aeth yn disgybl i St Paul.[3] Mae nifer o ysgolheigion, gan gynnwys: Rice Rees, Jane Williams, Sabine Baring-Gould a John Williams (Ab Ithel) yn mynnu mai Eurgain oedd y santes gyntaf.[4][5][6]

Ni ddylid cymysgu hi gyda Eurgain ach Maelgwn Gwynedd, santes o'r 6g[3] .

Eglwys yn dwyn ei henw

golygu

Eglwys sy'n dwyn ei henw yw Eglwys Llanigon, ond mae rhai o'r farn mai cyfeiriad sydd yma i Eigion, brawd Sant Cynidr, a roddodd ei enw i eglwys gyfagos, sef yr eglwys yng Nghlas-ar-Wy.[7]

Edward Elgar

golygu

Defnyddiodd Elgar yr enw Eigen mewn cantata a ysgrifennodd rhwng 1897 a 1898, a soniai am y Brenin Eigen a drechwyd gan y Rhufeiniaid. Ond mae posibilrwydd iddo ddefnyddio'r enw gan fod ganddo gymydog o'r un enw: 'Eigen Stone', pan oedd yn byw yn Malvern.[8][9]

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Anonymous (31 Mawrth 2004). The Genealogy Of Iestyn The Son Of Gwrgan. Kessinger Publishing. tt. 513–. ISBN 978-0-7661-8411-4. Cyrchwyd 10 Awst 2012.
  2. Richard Williams Morgan (1861). St. Paul in Britain; or, The origin of British as opposed to papal Christianity. tt. 161–. Cyrchwyd 8 August 2012.
  3. 3.0 3.1 Breverton, T.D.2000, The Book of Welsh Saints, Glyndwr Publishing
  4. S. Baring-Gould; John Fisher (30 Mehefin 2005). The Lives of the British Saints: The Saints of Wales, Cornwall and Irish Saints. Kessinger Publishing. tt. 416–. ISBN 978-0-7661-8765-8. Cyrchwyd 10 Awst 2012.[dolen farw]
  5. Rice Rees (1836). An essay on the Welsh saints or the primitive Christians, usually considered to have been the founders of the churches in Wales. Longman, Rees, Orme, Brown, Green, and Longman. tt. 355–. Cyrchwyd 10 Awst 2012.
  6. John Williams (1844). The eccles. Antiquities of the Cymry; or: The ancient British church. Cleaver. tt. 58–. Cyrchwyd 10 Awst 2012.
  7. S. Baring-Gould; J. Fisher (1908). Lives of the British Saints. 2. Honourable Society of Cymmrodorion. t. 417. Cyrchwyd 21 November 2012.
  8. Martin Clayton; Bennett Zon (2007). Music and Orientalism in the British Empire, 1780s-1940s: Portrayal of the East. Ashgate Publishing, Ltd. tt. 165–. ISBN 978-0-7546-5604-3. Cyrchwyd 10 Awst 2012.
  9. Jerrold Northrop Moore (16 Medi 1999). Edward Elgar: A Creative Life. Oxford University Press. tt. 230–. ISBN 978-0-19-816366-4. Cyrchwyd 10 Awst 2012.