Euryn Ogwen Williams
Darlledwr, cyflwynydd ac awdur o Gymro oedd Euryn Ogwen Williams, OBE[1] (22 Rhagfyr 1942 – 16 Mawrth 2021).[2]
Euryn Ogwen Williams | |
---|---|
Ganwyd | 22 Rhagfyr 1942 Penmachno |
Bu farw | 16 Mawrth 2021 y Barri |
Man preswyl | y Barri |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cynhyrchydd teledu, darlledwr, llenor |
Tad | Alun Ogwen Williams |
Priod | Jenny Ogwen |
Plant | Rhodri Williams |
Gwobr/au | OBE |
Bywyd cynnar ac addysg
golyguGaned Euryn ym Mhenmachno, Gwynedd yn fab i Alun Ogwen Williams (1904 - 1970) a Lil Evans. Roedd ei dad yn athro, prifathro, aelod o'r Orsedd a Llys yr Eisteddfod. Fe'i magwyd yn Coed-llai ger yr Wyddgrug ac fe'i addysgwyd yn Ysgol Alun. Aeth ymlaen i astudio ym Mhrifysgol Cymru, Bangor gan raddio mewn Athroniaeth a Seicoleg.[3]
Gyrfa
golyguAeth i weithio yn y byd darlledu gan ddechrau ei yrfa fel cyflwynydd ar TWW i ddechrau. Yna daeth yn Gyfarwyddwr Rhaglenni TWW cyn symud i gwmni Harlech fel cyfarwyddwr a chynhyrchydd. Wedi hynny aeth i weithio ar ei liwt ei hun ar raglenni ar gyfer y BBC a HTV.
Pan sefydlwyd S4C yn 1982 ef oedd Cyfarwyddwr Rhaglenni cynta'r sianel a bu'n Ddirprwy Brif Swyddog Gweithredol rhwng 1988 a 1991. Bu’n gweithio am gyfnod yn yr Alban ac Iwerddon, ac roedd yn ymgynghorydd i S4C ar ddechrau oes teledu digidol yn y 1990au. Rhoddodd ddarlith am y chwyldro digidol Byw Ynghanol Chwyldro yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bro Ogwr 1998. Bu hefyd yn gynghorydd i gwmni cynhyrchu Boom Cymru.
Yn Mai 2016 derbyniodd Wobr John Hefin am Gyfraniad Oes - cyflwynyd y wobr iddo gan David Meredith yng ngŵyl Ffilm Bae Caerfyrddin.[4]
Roedd yn enillydd ac yn feirniad yn Adran Lenyddiaeth yr Eisteddfod Genedlaethol. Ysgrifennodd ddwy gyfrol o farddoniaeth - Pelydrau Pell a Tywod a Sglodion (Gwasg Gomer, Awst 2012).[5]
Ym mis Mawrth 2018 arweiniodd adolygiad annibynnol ar S4C ar ran Ysgrifennydd Gwladol Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon.
Anrhydeddau
golyguYn 2018 fe'i wnaed yn Gymrawd er Anrhydedd Prifysgol Aberystwyth i gydnabod ei gyfraniad i fywyd diwylliannol Cymru.[3]
Derbyniodd OBE yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines 2020, am ei gyfraniad i'r byd darlledu.[6]
Bywyd personol
golyguRoedd yn briod a'r gyflwynwraig Jenny Ogwen ac yn dad i Rhodri Ogwen Williams a Sara Williams. Ymgartrefodd yn Y Barri yn 1971 a bu'n Ysgrifennydd i Eglwys Annibynnol y Tabernacl yn y dref. Ef oedd golygydd Y Ddolen, papur misol yr eglwys.
Bu farw ym mis Mawrth 2021. Dywedodd Cadeirydd S4C, Rhodri Williams mai Euryn oedd "pensaer S4C" ac mai ei "egni a'i ddyfeisgarwch" oedd wrth wraidd sector gynhyrchu annibynnol y wlad. Dywedodd Elan Closs Stephens, Aelod Anweithredol o Fwrdd y BBC: "Roedd Euryn yn un o arloeswyr mwyaf y byd darlledu Cymraeg ac yn ysbrydoliaeth i ddegau lawer."[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Katie-Ann Gupwell; Lydia Stephens (9 Hydref 2020). "The full list of Welsh people honoured in Queen's Birthday Honours". WalesOnline (yn Saesneg). Cyrchwyd 11 Hydref 2020.
- ↑ 2.0 2.1 'Pensaer S4C' Euryn Ogwen Williams wedi marw , BBC Cymru Fyw, 16 Mawrth 2021.
- ↑ 3.0 3.1 ‘Cawr y diwydiant cyfryngau yng Nghymru’ yn derbyn Cymrodoriaeth er. Prifysgol Aberystwyth (18 Gorffennaf 2018). Adalwyd ar 10 Hydref 2020.
- ↑ Gwobr John Hefin: Euryn Ogwen Williams yn “ostyngedig iawn” , Golwg360, 16 Mai 2016. Cyrchwyd ar 19 Gorffennaf 2017.
- ↑ Euryn Ogwen Williams. Gwasg Gomer. Adalwyd ar 18 Gorffennaf 2017.
- ↑ Anrhydeddau'r Frenhines am ymdrechion i atal Covid , BBC Cymru Fyw, 10 Hydref 2020.