Jenny Ogwen
Cyflwynwraig ac actores o Gymraes yw Jenny Ogwen (neé Jones)[1], sy'n fwyaf adnabyddus am gyflwyno'r tywydd ar raglen Newyddion ar S4C.
Jenny Ogwen | |
---|---|
Ganwyd | 1944 Llandybïe |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | actor, cyflwynydd teledu |
Priod | Euryn Ogwen Williams |
Plant | Rhodri Williams |
Bywyd cynnar
golyguGanwyd Ogwen yn Llandybie, Sir Gaerfyrddin a symudodd ei theulu i Grymych, Sir Benfro pan oedd yn ddwy oed.[2] Yn ei harddegau cafodd ei choroni'n 'Miss Pembrokeshire 1961' ac enillodd deitl 'Miss Norvic Teenager of the Year' yn Llundain. Gadawodd ysgol yn 16 ac aeth i Lundain i hyfforddi i fod yn ysgrifenyddes pan oedd yn 17 oed. Daeth yn ôl i Gymru yn 19 oed.[3]
Gyrfa
golyguEi swydd gyntaf yn y cyfryngau oedd fel ysgrifenyddes ar raglen newyddion Y Dydd. Aeth ymlaen i gyflwyno'r rhaglen Siôn a Siân yn ystod yr 1960au a rhaglenni i blant ac actio yn Now You're Talking, sef cyfres deledu i ddysgwyr. Mae hefyd wedi cyflwyno ar Radio Acen.[2] Bu'n gyflwynydd ar HTV Cymru a Thames TV cyn cyflwyno'r tywydd ar raglen Newyddion ar S4C yn yr 1990au. Ymddeolodd o'i swydd fel cyflwynydd tywydd yn Awst 2004 a chymerodd Erin Roberts ei hen swydd.[4][5]
Mae ei theulu hefyd yn ymwneud â'r cyfryngau. Roedd ei gŵr Euryn Ogwen Williams (1942–2021) yn ddarlledwr a cynhyrchydd teledu nodedig. Mae ei mab Rhodri yn gweithio gyda Sky Sports yn Llundain ac i S4C ar raglenni fel Y Clwb Rygbi a Pacio. Mae'n fam i Sara, sy'n cyflwyno ar S4C, a hefyd yn nain i'w merch hithau, Soffia, a chwaraeodd Catrin Bennett yn Pobol y Cwm.[2]
Llyfryddiaeth
golygu- Jenny Ogwen (Hydref 2007). Glaw a Hindda. Llandysul: Gwasg Gomer. ISBN 9781843238850
- Ebrill 2009, fersiwn print bras: ISBN 978-1-84851-063-0
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Hannah Jones. Welsh Homes: Sanctuary with a whiff of the sea; FAVOURITE ROOM: Broadcaster Jenny Ogwen's snug is filled with mementos of Pembrokeshire (en) , 18 Mai 2002. Cyrchwyd ar 22 Chwefror 2016.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 Cyfweliad â Jenny Ogwen. Cylchgrawn Acen (Ebrill 2003).
- ↑ Gwales - Glaw a Hindda. Adalwyd ar 22 Chwefror 2016.
- ↑ Rhagolwg braf i Erin. Newyddion BBC Cymru (5 Awst 2004).
- ↑ Erin joins S4C weather team (4 Awst 2004).