John Hefin

cyfarwyddwr ffilm a aned yn Nhre Taliesin yn 1941

Cyfarwyddwr a chynhyrchydd ffilm, teledu a drama oedd John Hefin MBE (14 Awst 1941[1]19 Tachwedd 2012).[2] Un o Dre Taliesin oedd John Hefin. Cafodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Ardwyn, Aberystwyth ac yna aeth i Goleg y Drindod a chafodd yno y cyfle i ddangos ei ddawn dan hyfforddiant Norah Isaac.[3]

John Hefin
Ganwyd14 Awst 1941 Edit this on Wikidata
Tre Taliesin Edit this on Wikidata
Bu farw19 Tachwedd 2012 Edit this on Wikidata
o canser Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethcyfarwyddwr teledu, cyfarwyddwr ffilm Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Gwobr/auMBE Edit this on Wikidata

Chwaraeodd ran bwysig yn sefydlu Comisiwn Ffilm Cymru a’r cwrs ffilm a theledu ym Mhrifysgol Aberystwyth.[4]

John Hefin a David Meredith a baentiodd Craig Elvis ym 1962.[5]

Ymysg ei waith mwyaf adnabyddus oedd The Life and Times of David Lloyd George a’r ffilm gomedi Grand Slam. Roedd John Hefin, ar y cyd â Gwenlyn Parry, yn gyfrifol am greu cyfres Pobol y Cwm.

Fel pennaeth Drama y BBC yng Nghymru bu'n gyfrifol am Bus to Bosworth lle mae Kenneth Griffith yn mynd â llond bws o blant ysgol i ymweld â maes Brwydr Bosworth. Bu hefyd yn gyfrifol am Tough Trade (gyda Anthony Hopkins fel y prif actor), OM am fywyd O.M. Edwards, a Mr Lollipopn MA

Mae'n debyg mai ei gynhyrchiad mwyaf dadleuol oedd The Mimosa Boys (1985) sy'n herio fersiwn swyddogol ar fomio y Sir Galahad adeg Rhyfel y Falklands.[6]

Gwobrau ac anrhydeddau

golygu
  • Derbyniodd Wisg Wen a dod yn rhan o'r Orsedd yn 2003.[7]
  • Derbyniodd MBE am ei wasanaeth i fyd y ffilm yng Nghymru yn 2009.
  • Cafodd ei anrhydeddu am ei gyfraniad at ddrama teledu yng ngwobrau Bafta Cymru yn 2012.
  • Gwobr Cyfrwng am ei gyfraniad i fyd cyfryngau Cymru yn 2012.[8]

Cyfeiriadau

golygu
  1. (Saesneg) John Hefin (1941-2012): An Appreciation. Prifysgol Morgannwg. Adalwyd ar 22 Tachwedd 2012.
  2.  John Hefin wedi marw. Golwg360 (19 Tachwedd 2012).
  3. Barn Rhif 599/600 Rhagfyr/Ionawr 2012/1213 td 31
  4.  Y cynhyrchydd a'r cyfarwyddwr John Hefin wedi marw. BBC (19 Tachwedd 2012). Adalwyd ar 20 Tachwedd 2012.
  5.  Galw am 'adfer' craig Elvis. BBC (31 Ionawr 2005). Adalwyd ar 20 Tachwedd 2012.
  6. John Hefin: Film-maker whose work celebrated Wales and its people Archifwyd 2012-12-06 yn y Peiriant Wayback Ysgrif Goffa gan Meic Stephens yn The Independent 5.12.12 Adalwyd 4 Rhagfyr 2012]
  7.  Y Tincer: Llwyddiant ym Meifod. BBC Cymru (Medi 2003).
  8.  Gwobr Cyfrwng i'r cynhyrchydd a'r cyfarwyddwr John Hefin. BBC (1 Gorffennaf 2012). Adalwyd ar 20 Tachwedd 2012.