Evan Davies (cenhadwr)

cenhadwr o dan Gymdeithas Genhadol Llundain, gweinidog gyda'r Annibynwyr, ac awdur amryw lyfrau

Roedd Evan Davies (180518 Mehefin 1864) yn weinidog gyda'r Annibynwyr, yn genhadwr i China ac yn awdur.[1]

Evan Davies
Ganwyd1805 Edit this on Wikidata
Lledrod Edit this on Wikidata
Bu farw18 Mehefin 1864 Edit this on Wikidata
Crug-y-bar Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcenhadwr, gweinidog yr Efengyl Edit this on Wikidata

Cefndir

golygu

Ganwyd Davies yn Hengwm, plwyf Lledrod, Ceredigion yn blentyn i William ap Dafydd ap Siôn ap Lystan[2] amaethwr. Addysgwyd ef yn Ysgol Neuaddlwyd ac Academi’r Gorllewin yng Nghaerwysg[3]. Yn ystod ei blentyndod symudodd ei rieni i Lundain a magwyd Davies gan aelodau'r teulu yn ardal Lledrod.

Swydd gyntaf Davies oedd fel prentis i ddilledydd. Symudodd wedyn i weithio efo'i dad yn Llundain. Fe'i derbyniwyd yn aelod o gapel Annibynwyr Y Boro yn Little Guilford Street. Ym 1827 symudodd yn ôl i Gymru i weithio ger Abertawe gan ymuno â chapel Annibynwyr Mynydd-bach, lle dechreuodd bregethu. Wedi cyfnod yn Neuaddlwyd a Chaerwysg yn paratoi am y weinidogaeth ordeiniwyd ef yn weinidog ar gapel yr Annibynwyr yn Great Torrington, Dyfnaint. Wedi ychydig flynyddoedd yn Nyfnaint fe'i hordeiniwyd i waith y genhadaeth dramor yng Nghapel Wycliffe, Llundain. Aeth i Penang, yng Nghulfor Malaca. Sefydlodd Davies ysgol breswyl ar gyfer bechgyn Tsieineaidd a'u hyfforddi yn yr iaith Saesneg yn ogystal â "chyfarwyddyd Ewropeaidd" arall.[4] Wedi pedair blynedd yn China torrodd ei iechyd a bu'n rhaid iddo ymadael a'r wlad.[5] Wedi cyrraedd yn ôl i Lundain ym 1840 penodwyd Davies yn asiant dros achos y genhadaeth i China, yn codi arian at ei waith. Ym 1842 fe'i penodwyd yn arolygydd Ysgol Genhadol y Bechgyn yn Walthamstow, ac ym 1844 symudodd i Richmond, Surrey,[6] lle bu'n gwasanaethu fel gweinidog yr eglwys Gynulleidfaol am dair blynedd ar ddeg. Ym 1857 cafodd alwad i fod yn weinidog yn Heywood, Manceinion, cyn symud i Dalston, Llundain ym 1863.

Cyhoeddiadau

golygu

Cyhoeddodd Davies nifer o lyfrau gan gynnwys:

  • 1845 China and her Spiritual Claims [7]
  • 1846 Memoir of the Rev. Samuel Dyer: Sixteen Years Missionary to the Chinese [8]
  • An Appeal to Reason and Good Conscience of Catholics
  • Rest: Lectures on the Sabbath
  • 1859 Welsh Revivals

Bu hefyd yn olygydd a chyhoeddwr :

Bu'n briod a merch o'r enw Anne gawsant o leiaf dwy ferch ac un mab.

Marwolaeth

golygu

Bu farw tra ar ymweliad a'i deulu yn Llansteffan, Sir Gaerfyrddin. Claddwyd ei weddillion ym Mynwent Abney Park yn Llundain.

Cyfeiriadau

golygu