Set o symptomau (gan gynnwys poen) a achosir gan wasgu neu gywasgu un o bump o'r gwraidd-nerfau sy'n arwain at y nerf sciatig neu'r nerf ei hun ydy clunwst (neu gwynegon y cluniau; Sa: sciatica). Yng ngwaelod y cefn mae'r boen i'w deimlo waethaf, neu weithiau yn y ffolennau neu wahanol rannau o'r goes neu'r droed. Yn ychwanegol i'r boen, fe geir rhannau dideimlad yn y corff a gwendid yn y cyhyrau neu'r teimlad o "binnau bach" (pins and needles) neu'r anallu i symud rhannau o'r goes. Fel arfer, dim ond mewn un ochor o'r corff y ceir y symptomau hyn.

Rhestr Afiechydon
Pigiad
Pwyswch ar dangos i weld y rhestr.
Y blwch hwn: gweld  sgwrs  golygu

Rhaid cofio mai set o symtomau ydyw seiatica ac mae'r driniaeth yn dibynnu ar achos y broblem, yr hyn sy'n cyffwrdd gwraidd y nerf ac felly'n achosi'r boen. Mae gwahanol fathau o driniaeth yn bodoli, felly.

Cofnodwyd yr achos cyntaf (neu o leiaf y defnydd cyntaf o'r gair "sciatica") yn 1450.[1]

Meddygaeth amgen golygu

Honir fod rhai llysiau yn lleddfu symtomau clundlwst, gan gynnwys: llysiau bara, camri, ewcalyptws, mintys, pig yr Aran, wermod wen a saets y waun.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Oxford English Dictionary, 2nd Ed. "a1450a Mankind (Brandl)."
  Eginyn erthygl sydd uchod am iechyd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato