Cudyll coch

rhywogaeth o adar
(Ailgyfeiriad o Falco tinnunculus)
Nid i'w gymysgu â: Barcud Coch
Cudyll Coch
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Falconiformes
Teulu: Falconidae
Genws: Falco
Rhywogaeth: F. tinnunculus
Enw deuenwol
Falco tinnunculus
Linnaeus, 1758

Mae'r Cudyll coch (Falco tinnunculus) yn aderyn rheibiol sy'n nythu trwy rannau helaeth o Ewrop, Asia ac Affrica. Yr un elfen -cud- sydd yn y geiriau cudyll a barcud. Ar lafar yn y De ac yng Ngheredigion, ceir yr enw ar y ffurf 'curyll'[1].

Wy'r Falco tinnunculus

Aderyn rheibiol gweddol fychan yw'r Cudyll coch, rhwng 34 a 38 cm o hyd a 70–80 cm ar draws yr adenydd. Mae'r rhan fwyaf o'r plu yn frown gyda smotiau du, ac mae gan y ceiliog ben a chynffon llwydlas. With iddo hedfan, gellir ei adnabod o'r gynffon hir, adenydd hir a'r ffaith ei fod yn aml yn medru aros yn ei unfan yn yr awyr wrth hela.

Anifeiliaid bychan, yn enwedig gwahanol fathau o lygod, yw'r prif fwyd, ond mae hefyd yn bwyta adar bychain, llyffantod a phryfed. Mae'n hela dros dir agored fel rheol, yn aml yn aros yn ei unfan yn yr awyr i wylio am symudiad cyn plymio i'r ddaear. Maent yn nythu mewn coed, yn am yn defnyddio hen nythod brain, ar greigiau neu ar adeiladau.

Mae'r Cudyll coch yn aderyn cyffredin a chyfarwydd yng Nghymru, er fod ei nifer wedi gostwng rhywfaint yn y blynyddoedd diwethaf, efallai oherwydd newidiadau mewn amaethyddiaeth. Gellir ei weld yn aml yn hela'r darnau glaswellt ar ochrau traffyrdd.

Heboga yn yr Oesoedd Canol golygu

Yn nhraethawd doethuriaeth Howard Willams, Adar yng Ngwaith y Cywyddwyr (2014), dau gyfeiriad yn unig sydd i’r Cudyll coch, o’i gymharu a 9 cyfeiriad at y Cudyll bach. Arwydd yw hyn, o bosib, nas defnyddid y cudyll coch i ddibenion heboga yn yr Oesoedd Canol cymaint ac y defnyddid ei gefnder llai. Roedd un o'r ddau gyfeiriadau hefyd yn ddigon amwys: meddai Howard, “Nid yw’n anodd credu mai aderyn cyfansawdd a ddisgrifir ambell waith... Ni fyddai beirdd yr Oesoedd Canol yn unigryw yn hyn o beth. Dengys yr aderyn ysglyfaethus yn y gerdd enwog gan I. D. Hooson, ‘Y Cudyll Coch’, nodweddion a berthyn i dair rhywogaeth, sef y Boda a’r Gwalch glas yn ogystal â'r cudyll coch ei hun”.[2]

Rhestr Wicidata:

rhywogaeth enw tacson delwedd
Caracara gyddf-felyn Daptrius ater
 
Caracara gyddfgoch Ibycter americanus
 
Corhebog adain fannog Spiziapteryx circumcincta
 
Hebog chwerthinog Herpetotheres cachinnans
 
Hebog yr Ehedydd Falco subbuteo
 
Neohierax insignis Neohierax insignis
 
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Geiriadur Prifysgol Cymru". geiriadur.ac.uk. Cyrchwyd 2021-01-02.
  2. Bwlein 105 Tachwedd 2016; Cymdeithas Edward Llwyd; adalwyd 21 Tachwedd 2016.
  Safonwyd yr enw Cudyll coch gan un o brosiectau  . Mae cronfeydd data Llên Natur (un o brosiectau Cymdeithas Edward Llwyd) ar drwydded agored CC 4.0. Chwiliwch am ragor o wybodaeth ar y rhywogaeth hon ar wefan Llên Natur e.e. yr adran Bywiadur, a chyfrannwch er mwyn datblygu'r erthygl hon ymhellach.