Yn ôl llên gwerin, gwrthrych sydd â phwerau goruwchnaturiol, neu, yn benodol, gwrthrych gwneud sydd â phwerau dros bobl a phethau eraill ydyw ffetis (hefyd a elwir yn eilun). Mae'r gair yn dod o'r gair Ffrangeg fétiche, sy'n dod o'r gair Portiwgaleg feitiço, ac mae'r gair Portiwgaleg ei hun yn dod o'r gair Lladin facticius, sy'n golygu "artiffisial" a facere, "i wneud"). Yn y bôn, y priodoliad o werth ymfodol neu bwerau i wrthrych ydyw ffetisiaeth.

Llun o ffetis yn Ne Affrica gan y London Missionary Society, oddeutu 1900

Hanes golygu

Ymarfer golygu

Yn ddamcaniaethol, y mae ffetisiaeth yn bresennol ymhob crefydd, ond o ran crefydd, y mae'n dod o gredau crefyddol traddodiadol Gorllewin Affrica, yn ogystal â Fwdŵ, sy'n dod o'r credau hynny.

Ystyrir gwaed yn ffetis neu gynhwysyn grymus o fewn ffetisiaeth a ffetisiau eu hunain. Yn ogystal â gwaed, y mae gwrthrychau a sylweddau eraill yn ffetisiau cyffredin mewn traddodiadau o ddiwylliannau byd-eang, megis esgyrn, ffwr, crafangau, plu, gemfeini a grisialau, dŵr o lefydd penodol, a mathau o blanhigion a phren penodol.

Defnyddiwyd ffetisiau yn gyffredin o fewn ymarferion a chrefyddau Brodorol Americanaidd.[1] Cynrychiolir y siaman gan yr arth, y darparwr ydyw'r byfflo, y rhyfelwr ydyw'r cwgr, a'r gwarcheidwad ydyw'r blaidd.[1]

Theorïau Ffetisiaeth yn y Gorllewin golygu

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 "Animals: fact and folklore," New Mexico Magazine, Awst 2008, tudalennau 56-63, gweler Gwefan cylchgrawn New Mexico.

Dolenni allanol golygu