Ffilmiau'r Tŷ Gwyn

(Ailgyfeiriad o Ffilmiau Tŷ Gwyn)

Cwmni ffilm a sefydlwyd yn y Tŷ Gwyn, Llanllyfni, oedd Ffilmiau'r Tŷ Gwyn, neu ar rai achlysuron, Ffilmiau Tŷ Gwyn. Y cyfarwyddwr ffilm, Gareth Wynn Jones a'i wraig Enid oedd yn gyfrifol am sefydlu'r fenter, gan mai yno oedd cartref y teulu.

Ffilmiau'r Tŷ Gwyn
Math
cwmni ffilm
Hen enw
Ffilmiau Tŷ Gwyn
PerchnogionGareth Wynn Jones ac Enid Wynn Jones

Oddi fewn i'r adeilad, roedd stwidio eang gyda chyfleusterau i olygu ffilm drwy ddefnyddio'r hen system Steenbeck. Un sy'n cofio ei gyfnod yn gweithio yno fel Is-Olygydd Ffilm, ydi'r dramodydd Paul Griffiths.

Bu'r cwmni yn gyfrifol am nifer o ffilmiau a chyfresi cynnar S4C fel Macsen (1983), Diar Diar Doctor, Cysgodion G'dansk, Barbarossa (1988) a dwy gyfres o'r ddrama Lleifior (1990) a (1996) yn seiliedig ar nofelau Islwyn Ffowc Ellis, Cysgod Y Cryman ac Yn Ôl I Leifior

Ar un cyfnod, bu'r Prifardd Iwan Llwyd ynghlwm gydag ymgyrch gyhoeddusrwydd y cwmni a bathodd y linnell gynghaneddol, "Tei Gei Wefr O'r Tŷ Gwyn".

Roedd llawer o'r gweithwyr cynnar yn gyn-aelodau o Gwmni Theatr Cymru fel Martin Morley, Medwyn Roberts, Dewi (bach) Huws, Gwynfryn (Til) Davies a Keith Richards.

Achos llofruddiaeth

golygu

Un digwyddiad trasig oedd yn gysgod ar hanes y cwmni oedd llofruddiaeth aelod o griw y ffilm Gwylnos ym 1989, gan yr actor Clive Roberts. Roedd Clive a'r cynorthwydd cynhyrchu Elinor Wyn Roberts yn gariadon, ac yn rhanu fflat yn Y Felinheli. Wedi noson o ddiota a ffraeo, yn ystod y cyfnod ffilmio, bu i'r actor ladd ei gymar yn ei wylltineb a’i ddiod. Carcharwyd Clive am gyfnod, ac ni chafodd y ffilm ei chwblhau. Gwylnos oedd y ffilm gyntaf i'r actor Huw Garmon, wedi gadael y coleg.[1]

 
Teitlau Sigaret? 1991

Rhai Cynyrchiadau

golygu
  • Macsen (1983)
  • Sant Grwgnant (1987)[2]
  • Barbarossa (1988)[2]
  • Diar Diar Doctor
  • Gwylnos (1989) - ni chafodd ei gwblhau
  • Cysgodion G'dansk (1990)
  • Sigaret? (1991)
  • Brad (1994)
  • Lleifior 1 a 2 (1990 - 1996)

Cyfeiriadau

golygu
  1. "BBC Cymru'r Byd - Radio Cymru - Ffeithiau 1989". www.bbc.co.uk. Cyrchwyd 2024-08-28.
  2. 2.0 2.1 "TV design: productions". Martin Morley: a life in theatre and tv design (yn Saesneg). 2020-02-19. Cyrchwyd 2024-08-28.