Paul Griffiths (dramodydd)

Mae Paul Griffiths yn ddramodydd, cyfarwyddwr a beirniad theatr (ganwyd yn Nolwyddelan, Sir Conwy, 8 Awst 1973).

Paul Griffiths
GanwydRichard Paul Griffiths
Dolwyddelan
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma materColeg Normal, Bangor
GalwedigaethDramodydd, Beirniad Theatr a Cyfarwyddwr

Ym mis Mehefin 2007 symudodd i Lundain i reoli "Youth Music Theatre UK", ble mae'n parhau i fyw.[1] Enillodd Fedal Ddrama Eisteddfod yr Urdd tair blynedd yn olynol rhwng 1995 a 1997, yr unig un i wneud hynny yn hanes y gystadleuaeth. Rhwng mis Mawrth 2006 a 2012, bu'n cyfrannu colofn wythnosol am y Theatr yn Y Cymro. Mae'n wyneb a llais cyfarwydd ar S4C a BBC Radio Cymru fel beirniad ac adolygydd theatr. Bu hefyd yn Aelod o Banel Ymghynghorol Artistig Cwmni Theatr Gwynedd[2] ac yn Aelod o Fwrdd Ymddiriedolwyr Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, Llanystumdwy. Mewn rhifyn o Golwg yn Medi 2024, cyfaddefodd ei fod wedi gweld dros 1,200 o gynyrchiadau theatr.[3]

Addysg

golygu

Derbyniodd ei addysg gynnar yn Ysgol Gynradd Dolwyddelan, yn Ysgol Dyffryn Conwy, Llanrwst a graddio ym 1994 yn y Coleg Normal, Prifysgol Cymru, Bangor. Enillodd Wobr Barcud am y gwaith fideo unigol gorau y flwyddyn honno. Tra yn y Coleg, Paul oedd Cadeirydd cyntaf Cymdeithas y Cyfathrebwyr a sefydlwyd i gadw cysylltiad gyda chyn-fyfyrwyr a chyn-ddarlithwyr y Cwrs.

Cwmni Ieuenctid Dolwyddelan

golygu

Sefydlodd Gwmni Ieuenctid Dolwyddelan pan yn 13 oed a bu'r cwmni yn teithio led led Cymru gan ennill gwobrau am actio a chyfarwyddo mewn gwyliau dramâu amrywiol. Cyfansoddodd nifer o sgetsus byrion ar gyfer y Cwmni, yn ogystal â dwy ddrama wreiddiol Helynt y 'Dolig ym 1990 a Sul y Blodau ym 1991. Bu hefyd yn gyfrifol am addasu gwaith William Gwyn Jones a Branwen Cennard, ar gyfer y cwmni.

Yn ystod ei ail-flwyddyn yn y Coleg, bu'n gweithio fel rhedwr gyda Ffilmiau'r Tŷ Gwyn o dan gyfarwyddyd Gareth Wynn Jones ar addasiad Harri Pritchard Jones o ddrama Saunders Lewis Brad ar gyfer S4C. Wedi gadael y Coleg, aeth i weithio gyda Ffilmiau Eryri yn Y Felinheli fel Cynorthwy-ydd Cynhyrchu ar gyfresi teledu I Dir Drygioni a Tydi Coleg yn Grêt a'r ffilm Sgwâr y Sgorpion. Bu hefyd yn gweithio fel rhedwr i gwmniau Gwdihŵ a Tonfedd ar gyfresi fel Noson Lawen, Penblwydd Hapus, Shotolau ac Yma Mae Nghân: Dafydd Iwan.

Ym 1995, treuliodd flwyddyn fel Is-Olygydd ffilm ar yr ail-gyfres o Lleifior i Ffilmiau Tŷ Gwyn ar gyfer S4C. Ymunodd â Chwmni Ifor ap Glyn Tafwys wedi hynny fel Ymchwilydd a bu'n gweithio ar y gyfres Diwrnod Gyda.... Pan sefydlwyd Cwmni Da ym 1997, ymunodd â'r cwmni fel ymchwilydd a bu'n rhan o dîm cynhyrchu'r gyfres wythnosol Y Sioe Gelf am dair blynedd. Gadawodd Cwmni Da yn sgil derbyn sawl Comisiwn i gyfansoddi dramâu gan S4C cyn ymuno yn ddiweddarach gyda chwmni Tonfedd Eryri ble y bu'n rhan o dîm cynhyrchu'r cyfresi Tipyn o Stâd, Naw Tan Naw, a Bob A'i Fam. Bu hefyd yn gweithio fel ymchwilydd ar y ddwy gyfres o Diolch o Galon, Yma Mae Nghân: Corsica a darllediadau o'r Ŵyl Gerdd Dant ac Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd. Dychwelodd at Cwmni Da yn 2004, ble bu'n gweithio fel Is-Gynhyrchydd ar amrywiaeth o gyfresi fel Popeth yn Gymraeg, Y Chwarelwr, Y Cymry ac America Gaeth, Love Hurts, Llygaid y Bwystfil, Frongoch - Prifysgol Chwyldro a'r Cyngerdd hanesyddol o dorri Record Guinness y Byd Jones, Jones, Jones. Gadawodd y Cwmni ym mis Mehefin 2007 i symud i Lundain.

Dychwelyd i Fyd y Theatr fu ei hanes wedi mudo, a bu'n gweithio gydag amrywiaeth o gwmnïau theatr profiadol fel Punchdrunk, Battersea Arts Centre, Soho Theatre a'r Finborough[4]. Cafodd ei benodi yn Reolwr Gweithredol o Youth Music Theatre UK yn 2008, a bu'n rheoli'r cwmni tan fis Mawrth 2012[5].

 
Clawr Sul Y Blodau

Dramodydd

golygu

Llwyfan Cynnar

golygu

Enillodd y comedi Sul y Blodau Dlws y Ddrama yn Eisteddfod Bro Aled, Llansannan ym 1991, ac yntau'n ddim ond yn ddeunaw oed. Beirniad y gystadleuaeth oedd Dorothy Jones, Llangwm. Cyfrannodd y wobr ariannol tuag at Gronfa Llinos Haf. Cyhoeddwyd y ddrama yn ddiweddarach fel rhan o Gyfres y Llwyfan gan Wasg Carreg Gwalch.[6]. Ers hynny, mae'r ddrama wedi'i llwyfannu gan gwmniau amrywiol o Gymdeithas Ddrama Rhuthun, i Eglwys Oaker Avenue, West Didsbury Manceinion a Chymdeithas Cymry Llundain[7]. Enillodd eto'n Mro Aled ym 1993 gyda'r ddrama fer Arian Parod. Bu Cwmni Drama Ffermwyr Ifanc Bro Siabod yn llwyddiannus gyda'r ddrama hon yng Nghystadlaeth Ddrama Clybiau Mudiad y Ffermwyr Ifanc Eryri ym 1994, gan fynd i gynrychioli'r Sir yn Theatr Hafren, Y Drenewydd.

Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd

golygu

Daeth yn drydydd yng nghystadleuaeth Medal Ddrama Eisteddfod yr Urdd ym Mro Glyndwr ym 1992[8], a dwy o'i ddramâu yn gydradd drydydd yn yr un gystadleuaeth ym Meirionnydd yn 1994. Ym 1995, enillodd y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Bro Preseli efo'r ddrama fer O Gysgod y Cyll, ac aeth ymlaen i ennill y Fedal dair blynedd yn olynnol ym Mro Maelor 1996 efo'r ddrama B'echdan? ac ym 1997 yn Islwyn efo'r ddrama Ai am fod haul yn machlud?. Bu hefyd yn Beirniadu'r Gystadleuaeth yn 2000 a 2010, ac yn Feistr y Ddefod yn 2008.[9]

Cyd-gyfansoddodd ddwy ddrama gerdd ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, sef Yn y Ffrâm, Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd 1998 i gerddoriaeth Einion Dafydd ac Ail Liwio'r Byd ar gyfer Eisteddfod Bro Conwy 2000 i gerddoriaeth Gareth Glyn.

Dramâu Cerdd

golygu

Cyd-gyfansoddodd a Chyfarwyddodd pedair drama gerdd ar gyfer Gŵyl Fai Pwllheli ar y cyd ag Annette Bryn Parri a Glyn Roberts. O Docyn Brwyn i Ben Draw'r Byd oedd y gyntaf ym 1995 i ddathlu Canmlwyddiant geni'r bardd Cynan. Yn sgil llwyddiant yr Ŵyl, fe sefydlwyd yr Ŵyl Fai flynyddol o 1996 ymlaen, a chynhyrchwyd Dan Hwyl Wen y flwyddyn honno a Dan Gysgod y Graig ym 1997. Roedd y Cast yn cynnwys aelodau o gorau lleol a lleisiau adnabyddus fel Hogia'r Wyddfa, Rosalind a Myrddin, Siân Eirian, Triawd Pant yr Hwch a'r Baledwr Harri Richards. Er mwyn dathlu deng mlynedd o'r Ŵyl Fai, derbyniodd Paul wahoddiad yn ôl i gyfarwyddo a chreu'r sioe Ail-Godi'r Llen yn Neuadd Dwyfor, Pwllheli ym mis Tachwedd 2005, oedd yn ddathliad o'r sioeau cynnar.

Teledu

golygu

Cyfranodd at gyfresi teledu poblogaidd fel Pengelli a Tipyn o Stad. Addaswyd dwy o'i ddramâu buddugol o Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ar gyfer S4C Digidol o dan y teitlau B'echdan Ŵy? (Nant/Bont) efo Marged Esli, Morfydd Hughes a Manon Elis, cyfarwyddwr Siôn Lewis a Traeth Coch[10] (Opus) efo Mali Harries a'r cyfarwyddwr Elen Bowman. Cyfranodd sgriptiau animeiddio i'r gyfres Bibi Bêl i Griffilms.

 
Delwedd gyhoeddusrwydd hysbysebu'r gyfres ddrama ysgafn Becca Bingo gan Paul Griffiths ar BBC Radio Cymru yn 2014.

Cyfansoddodd ddrama radio ar gyfer BBC Radio Cymru yn 2013 o'r enw Dan y Don[11] oedd yn croniclo ei frwydr gydag iechyd meddwl[12]. Yn 2014, cafodd ei gomisiynu i gyfansoddi cyfres ddrama ysgafn Becca Bingo ar gyfer BBC Radio Cymru, a bu'n croniclo hanes y gyfres mewn blog ar wefan y BBC.

Y Cymro

golygu

O fis Mawrth 2006, bu'n cyfrannu colofn wythnosol [2] am y theatr i papur newydd Y Cymro. Ymddangosodd y golofn gyntaf ar 31 Mawrth 2006 o dan y teitl Byd y Dramâu. Adolygiadau o ddramâu yng Nghymru a thu hwnt oedd prif nodwedd y golofn, a derbyniodd ganmoliaeth am ei natur ddi-flewyn ar dafod ac onest. Newidiwyd teitl y golofn i Llygad ar y Llwyfan yn ddiweddarach.[13]. Ym mis Gorffennaf 2006, datganodd yn ei golofn bod penodiad Cefin Roberts fel Arweinydd Artistig Theatr Genedlaethol Cymru wedi bod "yn gamgymeriad mawr" ar ôl gweld cynyrchiadau cynnar y Cwmni.[14]. Parhau i fod yn feirniadol o gynnyrch y cwmni wnaeth Paul ar ôl gweld Diweddgan ym mis Hydref 2006 [15] ac wedyn cynhyrchiad Cefin Roberts o addasiad Siôn Eirian o nofel Islwyn Ffowc Elis, Cysgod y Cryman ym mis Chwefror 2007.[16]. Yn sgil y beirniadu, bu cryn drafod ar raglen wythnosol Gwilym Owen ar BBC Radio Cymru, ble y cyhuddwyd y Cwmni o fod ymhell ar ôl Theatr Genedlaethol Yr Alban.[17]

 
Defod y Fedal Ddrama 2008

Eisteddfod yr Urdd Sir Conwy 2008

golygu

Yn ystod Defod y Fedal Ddrama ar brynhawn Mercher, Eisteddfod yr Urdd, Sir Conwy 2008, galwodd Paul am weld sefydlu cynllun cenedlaethol a fydd yn galluogi enillwyr Medal Ddrama Eisteddfod yr Urdd ddatblygu eu doniau a chyfoethogi byd y ddrama yng Nghymru.[18] "Mae'n dristwch na chafodd y rhan fwyaf o enillwyr y gorffennol eu meithrin i sgrifennu ar gyfer y llwyfan," meddai Paul, sy'n gyn enillydd ei hun. Dywedodd "...ei bod yn ofid iddo fod y llwyfan yn colli'r enillwyr hyn wrth iddyn nhw gael eu hudo i fyd brasach teledu. Mae'n ofynnol arnom erbyn hyn i sicrhau yr un abwyd ariannol a chreadigol i gyfoethogi y theatr yn ogystal," meddai.

"Pam na ellir sefydlu cynlluniau hyfforddi blynyddol dan adain dramodwyr a chyfarwyddwyr profiadol a hynny trwy nawdd Urdd Gobaith Cymru a'r Theatr Genedlaethol? Byddai hynny yn gyfle gwych i ddarpar ddramodwyr ddysgu crefft, i dderbyn sylwadau ar eu gwaith ac i gynnal eu hunain am flwyddyn wrth hyfforddi. Ar ddiwedd y cyfnod byddai llyfrgell o ddramau newydd yn flynyddol yn barod i'w llwyfannu a lleisiau ifanc yn cael mynegi eu barn."[18]

Iechyd Meddwl

golygu

Siaradodd yn syfrdanol o onest am ei salwch meddwl, a'i ymgais aflwyddianus i ladd ei hun gyda'r newyddiadurwr Dylan Iorwerth ar ei raglen Dan Yr Wyneb BBC Radio Cymru, ym mis Tachwedd 2013. Cafodd y cyfweliad ei ddisgrifio ar y pryd, gan Betsan Powys Golygydd newydd BBC Radio Cymru, fel 'un o berlau darlledu' Radio Cymru, ac ategwyd hynny ganddi mewn cyfweliad yn Barn, yn Hydref 2013.[19]

‘Mae radio ar ei orau yn peri bod rhaid ichi aros i wrando,’ meddai. Mae’n cynnig sawl enghraifft o’i phrofiad personol o hyn yn ddiweddar, gan gynnwys [...] clywed [y] dramodydd a’r beirniad theatr Paul Griffiths yn trafod ei iselder ar raglen Dan yr Wyneb Dylan Iorwerth. 'Munudau cofiadwy fel hyn,’ meddai, ‘sy’n crynhoi apêl radio i mi.’ Does dim dwywaith nad ei gobaith yn ei swydd newydd yw harneisio potensial y cyfrwng i sicrhau munudau ac oriau lawer o ddarlledu digon cryf i gydio yn nychymyg gwrandawyr Radio Cymru, ble bynnag y bônt.'

Beirniad Theatr

golygu

Ar ôl rhoi'r gorau i'w golofn wythnosol yn Y Cymro, parhaodd i gyfranu'n agored i'r trafodaethau am ddyfodol Byd y Ddrama Gymraeg. Yn dilyn canslo Seremoni a Chystadleuaeth Y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Rhondda Cynon Taf yn 2024, datganodd ei farn bendant ar wefan Golwg360, gan alw am i'r dramodydd buddugol i gamu ymlaen.[20]

"Felly, dwi’n galw’n daer, o waelod fy nghalon, am i’r dramodydd dawnus gamu ymlaen yn ddewr i dderbyn eu clod. I ddatblygu eu dawn. I ddysgu ac i weithio mwy efo’r ‘gymuned’ dan sylw, yn hytrach na chael eu cuddio gan yr Eisteddfod, er mwyn arbed eu henw nhw’n unig, rhag y llanast a’r siambyls sy’ wedi’i greu".

Cyfeiriadau

golygu
  1. Y Cymro, 22 Mehefin 2007, t. 6
  2. Y Cymro, 28 Gorffennaf 2006
  3. "Paul Griffiths". Golwg360. 2024-08-30. Cyrchwyd 2024-09-08.
  4. "Archif Gwefan Theatr Finborough - The Wind Of Heaven". 2020. Cyrchwyd 20 Awst 2024.
  5. "Eitem Wedi 7 ar S4C o Theatr Rose, Kingston Upon Thames 2011". 2011. Cyrchwyd 20 Awst 2024.
  6. Sul y Blodau, Cyfres y Llwyfan, Comedi gan Paul Griffiths, Gwasg Carreg Gwalch, Argraffiad Cyntaf Ionawr 1993, Rhif Llyfr Safonol Rhyngwladol 0-86381-248-1
  7. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-06. Cyrchwyd 2008-07-03.
  8. Cyfansoddiadau Llenyddol Buddugol Glyndŵr 1992, Gwasg Dwyfor, Penygroes
  9. "Seremoni Medal Ddrama Eisteddfod yr Urdd 2010". 2010. Cyrchwyd 20 Awst 2024.
  10. Pigion y Dydd, Daily Post, 24 Tachwedd 2001
  11. "Tudalen dramâu BBC Radio Cymru". 2013. Cyrchwyd 20 Awst 2024.
  12. "Cyfweliad Paul Griffiths am ei ddrama Dan y Don". 7 Tach 2013. Cyrchwyd 20 Awst 2024.
  13. Y Cymro, 7 Ebrill 2006
  14. Y Cymro, 28 Gorffennaf 2006, t. 6
  15. Y Cymro, 13 Hydref 2006, t. 11
  16. Y Cymro, 9 Chwefror 2007, 'Cynhyrchiad i lenwi theatrau ond nid yw'n ddigon beiddgar a heriol'
  17. Trafodaeth rhwng Gwilym Owen, Paul Griffiths, Carys Wyn Edwards a Jeremy Turner ar Wythnos Gwilym Owen, 14 Mai 2007, BBC Radio Cymru. [1]
  18. 18.0 18.1 "Galwad Paul Griffiths am warchod dramodwyr 2008". 2008. Cyrchwyd 20 Awst 2024.
  19. Baines, Menna (Hydref 2013). "Cyfweliad Betsan Powys". Barn. https://barn.cymru/node/1447.
  20. "Galwad daer o waelod calon - barn Paul Griffiths am lanast Seremoni'r Fedal Ddrama yn 2024". 2024. Cyrchwyd 20 Awst 2024.