Clive Roberts

Actor o Gymro

Actor o Gymro oedd Clive Roberts (194424 Rhagfyr 2020).

Clive Roberts
Ganwyd1944 Edit this on Wikidata
Bu farw24 Rhagfyr 2020 Edit this on Wikidata
Ysbyty Gwynedd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethactor teledu Edit this on Wikidata

Gyrfa golygu

Roedd fwyaf enwog am ei ran yn y gyfres gomedi boblogaidd, Fo a Fe a ddarlledwyd yng nghanol yr 1970au. Chwaraeau rhan George, mab Ephraim Hughes (Guto Roberts) y cyn-weinidog eisteddfodol a chapelog. Yn y gyfres roedd yn ŵr i Diana, Gaynor Morgan Rees.

Ymysg ei rannau eraill oedd Cliff James ar gyfres Pobol y Cwm rhwng 1974-1979 a Bili, 'conshi' yng nghynhyrchiad BBC Un Dau Tri (1972)[1]. Roedd hefyd yn rhan o gwmni Theatr yr Ymylon ac am gyfnod yn y 1980au bu'n ddarlithydd drama ym Mhrifysgol Bangor.[2]

Achos llofruddiaeth golygu

Syfrdanwyd Cymru yn 1989 wedi iddo lofruddio ei gariad, yr actores Elinor Wyn Roberts (3 Mehefin 1954 – 5 Mawrth 1989)[3], yn ei chartre' yn Y Felinheli. Yn 1990, cafwyd Roberts yn euog o'i llofruddio. Yn ôl y BBC, "er bod eu perthynas yn stormus iawn, syfrdanwyd byd y theatr Gymraeg."[4] Treuliodd 12 mlynedd yn y carchar.

Yn ei flynyddoedd hwyrach roedd yn byw yn Stryd Yr Afon, Trefor. Bu farw yn Ysbyty Gwynedd wedi gwaeledd byr yn 2020.[5]

Cyfeiriadau golygu

Dolenni allanol golygu