Addasiad ffilm o'r ddrama Gymerwch Chi Sigaret? gan Saunders Lewis yw Sigaret? Ffilmiau'r Tŷ Gwyn o Lanllyfni oedd yn gyfrifol am ei chynhyrchu a'i rhyddhau ym 1991. Cyfarwyddwr a chynhyrchydd y ffilm oedd Gareth Wynn Jones. Harri Pritchard Jones oedd yn gyfrifol am yr addasiad.

Sigaret?
Cyfarwyddwr Gareth Wynn Jones
Cynhyrchydd Gareth Wynn Jones
Ysgrifennwr Saunders Lewis
Addaswr Harri Pritchard Jones
Cerddoriaeth Charlie Goodhall
Sinematograffeg Kevin Duggan
Dylunio
Cwmni cynhyrchu Ffilmiau Tŷ Gwyn
Dyddiad rhyddhau 1991
Gwlad Cymru
Iaith Cymraeg
Eryl Huw Phillips yn Sigaret? 1991

Caiff Marc dasg gan arweinwyr comiwnyddol Hwngari i drafeilio i Fienna er mwyn llofruddio Phugas, sy'n digwydd bod yn dad bedydd i'w wraig Iris. Mae Iris yn helpu Marc i drefnu cyfarfod ond mae yn erfyn ar ei gŵr i beidio a mynd ymlaen â'r llofruddiaeth.

Llwyddai Marc i gwrdd â Phugas, ond pan mae ar fîn gweithredu'r llofruddiaeth drwy ddefnyddio câs sigaret wedi'i addasu, disgynnai gleiniai rosari Iris allan o'r pecyn a sylwai nad yw'n gallu parhau â'r weithred.

Yn ôl yn Hwngari mae Iris yn ceisio ffoi gyda'r Offeiriaid, ond yn ofer.

 
Morfudd Hughes yn Sigaret? 1991

Cynhyrchu

golygu

Y bwriad gwreiddiol, a gytunwyd gyda chomisiynydd drama S4C Dafydd Huw Williams, oedd cynhyrchu trioled o ddramâu gan Saunders Lewis. Yn dilyn rhyddhau Sigaret? ym 1991, cafwyd ail gomisiwn i addasu'r ddrama Brad, a rhyddhawyd y ffilm Brad ym 1994. Esther oedd y drydedd ffilm oedd dan sylw, ond ni chafodd ei chomisiynu, yn sgil ymadawiad Dafydd Huw â'i swydd.

Cymeriadau ac actorion

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am ffilm. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.